Skip to main content

Y GREAL. HYDREF, 1859. NIWEIDIAU. CHWEDLEUON AC YMDDYDDAN- ION DRWG. (PARHAD O TUDAL. 174.) Y diweddar Dr. Adam Clarlc, yn ei sylwadau ar yr Wythfed a'r Nawfed Gorchymyn, a ddywed fel hyn am bob athrodwr;—"Yn mysg holl ladron a'r dyhirwyr, efe yw y mwyaf dirmygus â gais yspeilio arall o'i gymmeriad, fel y byddo iddo fwyhau yr eiddo ei hun. Dyma echryshaint cymdeithas, yr hwn sydd yn líawn o haeriadau hynaws pwyntiog gan onàiau! 'Math o ddyn da ydyw; ond------pob ffäen afedd ei du! Hwn a hwn sydd yn dra chyfeillgar; ond------y mae felly yn ei ffordd ei hun! Gall fy nghymmydog N. fod yn bur haelionus; ond------rhaid i chwi ei ddàl ef yn ei dymher.' Personau fel y rhai hyn a siaradant yn dda am eu cymmydogion, yn unig fel y caffont gyfleusdra i arallu eu canmoliadau, a gwnenthur i'r cyf- ryw ymddangos yn ddrwg-dybiog, nod- weddau y rhai a fernid yn rhyglyddol dda cyn i'r enllibiwr ddechreu lladrata ei eiddo. Y neb na edifarhao am y niweidiau hyn, ac na wnelo adferiad, os dichonadwy, i'w gymmydog yspeiliedig, a glyw, pan ddel Duw i gymmeryd ei enaid ymaith, y geiriau hyn, mwy of- nadwy na chnul marwolaeth, 'Na lad- rata.' Dyn, er engraiíft, o gymmeriad da, a gyhuddir o wneuthur rhyw ddrwg; lledaenir y chwedl, a'r absenwyr, yr ath- rodwyr, a'r hystingwyr a'i cariant oddi amgylch : ac' fel hyn y diosgir dyn o'i nodwedd dda, ac o'i wisg o gyfiawnder, gwirionedd, a gonestrwydd. Ac eto gall yr holl adroddiad fod yn gelwyddog; neu gall y person fod wedi cael ei glwyfo yn y dydd cymmylog a thywyll; ac yn awr yn galaru yn ddwys am ei godwm o flaen Duw! Pwy, ond yr hwn sydd ganddo galon ellyll, nad ymdrecha yn hytrach i guddio, na dynoethi, y bai dan y fath amgylchiadau! Y rhai hyny, fel y dywed y ddiareb, 'A ym- borthant fel gwybed, y rhai a redant dros ranau iachus gwr i ddisgyn ar ei friwiau,' a gymmerapt i fyny y chwedl ac a'i cludant oddi amgylch. Y rhai hyn, yn nghwrs eu gyrfa gythreulig, a gariant eu chwedl athrodgar, yn mysg ereill, at y dyn cyfiawn,—at yr hwn sydd yn caru ei Dduw a'igymmydog: ond pa dderbyn- iad a gaiff y chwedl-gludwr? Y dyn da ni chymmer y chwedl i fyny, ni fÿn ei chynnaì; ni chaiff ei lledaenu (îauddo neu oddi wrtho ef. Nis gall luddias y difriwr rhag ei dodi i lawr; ond y mae yn ei feddiant ef y gallu i beidio a'i chodi: ac fel hyn yr attelir cynnyddiad abseniaeth. Ni chyfyd hwn 'enlüb yn erbyneigymmydog;' athrwyy moddion yma, ysgatfydd, y digalonir y cbwedl- gludwr rhag ei chario at ddrws arall. Pe na byddai dyrchafwyr 'athrod,' bydd- ai llaí o enllibwyr yn y wlad. Pe na byddai derbynwyr eiddo lladrad, ni byddai lladron. Felly y dywed y ddi- areb, 'Y derbyniwrsydd cynddrwg a*r lleidr.' Ac onid ydynt yr hustingwyr, athrodwyr, a'r chwedl-gíudwyr, y fath waethaf o ladron? yn yspeilio nid yn unig dynion neillduol, ond teuluoedd cyfain, o'u cyfrifoldeb! yn gwasgaru pentewynion, saethau, a marwolaeth! Ydynt, y maent y rhyw waethaf o lad- ron. Oh! gymmaint o nodweddau rhagorol a ddiwynwyd trwy yr arferiad satanaidd hwn ! Pa mor feius bynag yw lledaenydd damweiniol athrodiaeth, y mae yr hwn a â oddi amgylch i gasglu chwedlau uiweidiol enllib, ac a geisio dystiolaethau dros ei absenau, yn Ilawer gwaeth; pa un byna^ ai gwirioneddol ynte anwireddus fyddo y chwedlau, pa un bynag a wnelont ai yr adroddiad sengl, ynte mwyafiad y ffaith,—pa uu bynag ai arddangos a wnant grynwyd» ryn sengl, i ganfod trwyddo y nodwedd a amlygant, ynte pellddrych, trwy yr hwn y ceir pob pryd yn wyrgam, nes, trwy anffurfedigaeth ymddangosiad, y coll. ir pob llinell o debygolrwydd daioni; ac yna yr adroddwr a gymmer y fantais o'i gasgliadau ei hun,—',Oh, Syr! mor ddrwg ydyw hyn ? Ond——ond, y mae y gwaethaf yn ol.' Y lledseniad hwn sydd ■ megys tyn-rwyd, yn casglu fel y'i llusgir, i ddwyn pob peth i'w chylchdrofa: ceir y 28