Skip to main content

Y GEEAL. MEDI, 1859. PREGETH ANGLADDOL I'B DIWEDMB BARCH. JOHN JONES, CAPEL SEION, MERTHYR. " Efe oedd ganwyll yn Uosgi ac yn goleuo; a chwitbau oeddych ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef."—loan v. 35. Sylwedd yr hyn a ganlyn a draddodais i'm cyn- nulleidfa yn Methania, Castellnedd, ar nos Sabbath, Mai löfed, er cof am fy hoff gyfaill ymadawedig. A chan fod Mr. Jones yn un mor enwog yn y dywys- ogaeth, hyderaf na fydd hyn o goffa am dano yn annerbyniol hyd nes y ceir gwell. Gan hyny, weie a ganlyn at wasanaeth y Greal teilwng. Ýr eidd- och, yn ddifTuant, T. E. James. Castellnedd, Gorphenaf Ueg, 1859. Piiiodol y dywedai y doethaf o ddyn- ion fel yma, " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Profir y gwirionedd hwn yn yr hanesion manwl a rydd y gyfrol Ysbrydoledig o ddynion enwog ain eu duwioldeb, eu profiad, a'u hym- drechion ; pa rai, trwy eu coftàdwriaeth- au, ydynt yn Uefaru eto. Cawn yn eu coffadwriaethau yn mha ras neillduol yr ymddysgleiriaipobun ohonyntyn benaf, fel ag y mae genym gyfieusdra rhagorol, drwy hyny, i efelychu eu rhinweddau, ac i ochelyd eu coltiadau. Yn mhlith yr enwogion hyn, nid y Ueiaf a'r distadlaf ydoedd Ioan Fedyddiwr, ond-yn un o'r rhai penaf; " Yn mhlith plant gwragedd, ni chyfododd neb mwy nag loan Fed- yddiwr." Yr oedd yr Ioan hwn yn ragredegwr i Fab Duw; " Llef un yn llefain yn y diff'aethweh," ydoedd, a'i genadwri oedd, " Parotowch ffordd yr Arglwydd, a gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef." Y person a ddangosai yn ei weinidogaeth ydoedd, "Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Dytrai Grist ei gymmeradwyaeth i dystiolaeth Ioan am dano ef, er nad oedd hyny yn ddigon heb gymmeradwy- aeth ei Dad nefol i'r un gwirionedd. Ymddengys fod Ioan Fedyddiwr y pryd hwn yn y carchar, ac y mae Mab Duw yn dwyn ei dystiolaeth i'w weinidogaeth a'i dylanwad. Gallwn hefyd gymhwyso yr un dystiolaeth at ein hanwylaf Ioan o Seion, Merthyr, iddo fod yn ganwyll yn Uosgi, ac i dyrfaoedd dros amser i orfoleddu yn ei oleuni ef. I. GWEINIDOG YR EFENGYÌ, YN EI waith. " Canwyll yn llosgi." II. GWEINIDOG YR EFENGYL TẂ EI DDYLANWAD AR EREILL- Jîf I. GWEINIDOG YR EFENGYL YN EI waith. " Canwyll yn llosgi." Cawn edrych i hanes a chymmeriad Ioan Fedyddiwr o dan y cymmeriad o ganwyll yn llosgi. Priodol yw nodi yma gyda llaw fod iermau natuiiol yn wasan- aethgar er gosod allan bethau ysbrydoJ. Ni wnaeth neb fwy o ddefnydd o betbau felly na'n Harsrlwydd lesu Grist. 1. Yr oedd Ioan Fedyddiwr yn ganwyli ag oedd y byd yn sefyll mewn anylien am dani. Yr oedd yr hen oruchwyliaeth wedi myned yn hen ac yn oedranus, ac yn agos i ddiflanu; yr oedd ei hoffeiriad- aeth wedi dirywio yn hollol o'i gogoniant blaenorol. Yr oedd pawb braidd a'u serch arnynt eu hunain. Heblaw byn, yr oedd y Messiah i ddyfod yn yr adeg hyn, ond yr oedd eisieu rhagredegwr i ddywedyd am dano, aci roddi eglurhad i'r byd am natur ei weinidogaeth, a dy- benion uiawr ei ymddangosiad. Yn ei amser ef yr oedd yr ordinhad o fedydd wedi ei sefydlu, ac yr oedd eisieu rhyw un i hysbysu pa fath rai ydoedd prìodol ddeiliaid yr ordinhad santaidd hòno. Heblaw byn, gan fod ein Harglwydd lesu yn ei ras mawr yn chwenych rhoddi i ni esiampl pa fodd y dilynem ef yn y dyfrllyd f'edd, yr oedd yn rhaid wrth fab yr offeiriad i weinyddu. Y"r oedd y nefoedd wedi ei ddewis i fedyddio Iesu o Nazareth ; ac fel hyny, ebai yr Tesu mawr, ydoedd oreu, i '; gyflawni pob cyf- iawnder.'' Os ydoedd o bwys i íacob ddweyd am y Seren, i Malachi son am yr Haul, i Esaiah ddweydamy Bachgen, ac i Sechariah grybwyîl am y Blaguryn enwog, a hyny cyn ei ymddangosiad, yr oedd o bwys cael rhyw un i siarad ain dano wedi ei ymddangosiad, yr hyn a gafwyd yn mherson Ioan Fedyddiwr. 2. Canwyll a oleuoddpan ydoedd eisieu oedd Ioan Fedyddiwr. Yr oedd y byd yn dywyl!. Yr oedd crefyddau y byd yn felldith ac yn halogedig iawn. Yr oedd y Phariseaid a'r Saduceaid wedi camsynied eu perthynas âg Abraham, ac o ba herwydd y dywedodd Ioan wrthynt, 25