Skip to main content

Y GREAL. AWST, 1859. NIWEIDIAU CHWEDLEUON AC YMDDYDDAN- ION DBWG. " He who steals my purse, steals trash ; 'tis something, nothing ; 'Twas míne, 'tis his, and has been slave to thousands : But he who filches from me my good name, Robs me of that which not enríches him, But makes me poor iudeed."—Shaicespeabe. Un o brif fendithion by wyd, a ganiatâ- wyd gan y Creawdwr i'w greadur, dyn, er cynnal cymdeithas anwyl â'i ryw, yw'r gallu ardderchog o ymadroddi; trwy hyn, trosglwyddir geiriau soniarus a bro- ddegau meddylgar, ar hyd peiriannau rhyfeddol llafar, i glyw y gwrandawydd. Beth sydd yn lloni y dyn da yn fwy na chyfeillgarwch diffuant, yn cael ei felysu gan ymadroddion doethineb? Ni ddi- chon i ddrygioni oyth etifeddu gwyn- fydedigrwydd cyfeillgarwch; o ffynnon ddofn rhinwedd yn unig y llifa y gofer gloyw hwn. Ychydig a gymmerant ofal i fyw yn dda, otid llaweri fyw yn hir; er ei fod yn ngallu pob dyn i gyflawni y cyntaf, nid y w yn gyrhaeddadwy gan neb gwbl- had yr olaf. Os caiff dy n y fraint o gyr- haedd henaint teg i ymarweddu yn dda, ymddengys ei esiamplau feì llinyn o oerlau yn ngolwg ei gyd-ddynion; ei ymadroddion grasol a effeithiant, ysgat- fydd, ar eu calonau, ac a dueddant, fel cynnifer o fynegbyst, i'w cyfarwyddo at gartrefle dedwyddwch. Tuag at lefaru er adeiladaeth y gwran- dawyr, y mae pedwar o anhebgorion yn ofynedig: yn gyntaf, gwirionedd; yn ail, synwyr; yn drydydd, tjmher dda; ac yn bedwerydd, ffraethineb. Ond, och ! y fath gamddefnydd ofnadwy y mae dyn- ion yn ei wneuthur â'u tafod ! Gwyddai yr apostol Pedr am hyn yn eithaf da, pan dywalltodd allan ei gyfaddefiad triphlyg yn Ierusalem o barthed i Fab Duw, a phan ddanfonodd ei gynghor gwiw at y gwasgaredigion Cristionogol, gwedi ei ddwfn edifeirwcb am droseddiad ei daf- od. Clyw ei dystiolaeth : " Y neb a ew- yllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, attalied ei dafod oddiwrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll. Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisiedheddwch, a dilyned ef." (1 Pedr iii. 10, 11.) Geir- iau ydynt gyffeìyb i saetbau, na ddylid eu gollwng ar antur. Cipdremau craffus sen a dreiddiant fynychaf o dymher caddug-amwisgol, fel lluchedenau mellt- en o'r wybr ddu. Cofier bob amser mai nwydau ydynt aweion bywyd; ac mai ein prií' ddyledswydd yw cymmeryd gof- al na byddo iddynt gyfodi yn rhyferth- wy! Dywedir ei bod gynt yn arferiad yn ngwlad Twrci, fel nod o anmharch, i bardduo aneddau lledaenwyr chwedlau, neu gyhoeddwyr anwireddau. Ped efel- ychid yr arferiad yn ein gwlad uchel- freinniog ni, hynod gymmainto dai duon a welid yn mhob cwr o honi! Na ddigied neb os traethir yn Ued lym yn erbyn yr afrinwedd dryglawn o goeg- chwedleua. Y mae y gwýd hwn, fel pob gwŷd arall, yn dechreu yn raddol,— sibrwd a sisial mân chwedlau, a dybid ar y cyntaf yn ddibwys, difai, a diniwed; ond a geid yn ol llaw, o ganìyniad chwerwdost ac erchyll. Morwynig bryd- weddol, er enniil fîäfr ei mheistres, yn defnyddio un o'i haelodau, (y tafod) fel arf annghyfiawnder f bechod, trwy ym- yraeth âg achosion rhai ereill, ac heb fod yn gyr.il yn ei goganeiriau yn nghylch ei chymmydogion diniwed. Pan ýf y feistres jr llysnafedd o'i ce^au, swynir hi yn y fath fodd nes ei chefnogi dro arall i gasglu mwy o chwedlau ; (a'r rhan fwyaf o honyut yn gelwyddog) yna daw y forwyn dwyllodrus i fwy o ym- ddiried gan ei mheistres ffol, nes y gall ei throi megys ar amnaid, pan y myno, i wneuthur ei hewyllys yn mhob peth! Rhianod prydferth Gwalia hen, gochel- wch ymdebygoli i hon ! Hefyd, llawer gwas a godwyd i swydd o ymddiried gnn ei feistr, er mwyn hunanglod a ddifria ei gydweision; tra yr oedd yn yr un sefyllfa a hwynt, ymddygai fel hwy- thau yn ganolig dda; ond wedi ei ddyrcbafiad, cawn y gwr yn anngbofio ei ddechreuad, ac yn dechreu hustingio y 22