Skip to main content

Y GREAL. MEHEFIN, 1859. KöDION BYWGRAEFIADOL AM Y DIWEDDAR BARCH. JOHN EDWARDS. (PARHAD O TUDAL. 100.) Wele yn awr eîn hysgrif olaf ar y pwnc hwn, g'er bron ein darllenydd. Y mae y testyn wedi ei nodi yn flaenorol, -sef,— JOHN EDWARDS YN EI WAITH. Nid hanes y gwaith a feddylir, har.es ei fywyd fyddai hyny; oblegyd bywyd o weithgarwch oedd yr eiddo ef; ond nodweddion y gweithiwr. Ymgyssegr- odd yn foreu i weinidosraeth y gair, ac arolygiaeth eglwys y Duw byw. Fel PREGETHWR,---- a, Yr oedd J. E. yn gymhwys i ddysgu ereill. Ni chafodd fawr o ddysgeidiaeth ; ni bu mewn athrofa erioed. Pa fodd bynag, yr oedd ynddo gymmaint o syn- wyr cryf a dawn naturiol, gymmaint o egni ysbryd a gwybodaeth o'r Ysgrythyr Lân, fel nad oedd yn annghymhwys i'r swydd oruchel a phwysig o fod yn am- bassador Crist—yn genad Brenin y bren- inoedd at ddeüiaid Iôr ar y blaned wrthryfelgar hon. Dywed y Parch. J. Prichard fel hyn; " A meddwl am ei fanteision yn ei ddyddiau boreuol, ym- ddengys i mi ei fod yn bregethwr da iawn. Pwy a fu yn ei roddi ar y ffordd oreu i ddeall yr Ysgrythyrau, i ddewis testynau, i gyfansoddi a thraddodi preg- ethau ? Dichon fod Thomas Jones wedi 8ymmud i Rhydwilym, ac .Abel Vaughan i Lerpwl, a Jones o'r Drefnewydd a Christmas Evans yn rhy bell i allu bod yn gymhorth iddo. Dichon ei fod ef a'i gyfoedion Mrd. Ellis Evans, Robert Edwards, Richard Foulkes, ac Edward Roberts, fel haiarn yn hogi haiarn, felly Iiwythau feddyliau eu gilydd.'' Yr oedd yn dra chymhwys i ddysgu ereill am y gallai ddylanwadu ar eu meddyliau, a denu eu sylw. Meddai ar ddawn a medrusrwydd hynod i osod allan eî bethau. Cyfarfyddir âg aml un sydd yn athraw y bobl, tra nad y w yn athrawaidd —"apt to teach;" traethapt ymadrodd- ion synwyrlawn a da, eithr heb allu cyrhaedd eu gwrandawyr; ie, y pwlpud a'reisteddle cyn belled a'r pegynau y naill oddiwrth y llall. Hona yr apostol fod yn " rhaid i esgob fod yn athraw- aidd;" ac wrth weled agwedd cynnull- eidfa, dan ambell i bregeth dda fyddo yn cael ei merthyru gan draddodwr gwael, nid ydym yn synu fod yr Ysbryd Glân wedi gosod hyn yn gymhwysder anhebgorol i weinidogaeth y gair. Yr oedd J. E. yn bregethwr eff'eithiol,—yn draddodwr argyhoeddiadol iawn ; gwnaí i'w wrandawyr deimlo, yn neillduoi felly pan yn nghanolddydd ei nerth; ei fod yn siarad â hwy am bethau oeddyní: o'r pwys mwyaf iddynt hwy ; y pryd hyny nis gallasent lai na dal ar y petliau a leferid gauddo. Trem ei lygaid a dreiàà- iai i eigion eucalonau; arfjraffei dclif- rifoledd a ordoai bob meddwl â sobr- wydd fel dydd y farn; dwysedd ei deimladau angerddol a werreiddiai y torfeydd a ymdyrent i wrando arno. Yr oedd yn adwaen meddylrith da, taraw- iadol, cryf, ac yn gallu ei osod allan yu ei gyflawn faint. Safai uwch ei ben hyd oni theimlai fath o wewyr espor ar ei feddwl,—hyd oni byddai yn gorlenwi ei ysbryd, ac yn tanio ei hyawdledd; ie, hyd onid ysgydwid ei gyS'ansotícìiad o'i goryn i'w sawdl gan ei rym : ac yna, pan fyddai'r gynnulleidfa yn sefyll ar tiaenau ei thraed gan ddysgwyhad awyddus, gollyngai yr idea yn ddisymwth, yn gyí'- lym, megys y gollyngir y saeth oddiar y líinyn, fel y tarewid y dorf â syndod santaidd a chyffrous. Nid yn athron- yddaidd, a sychlyd, ac oer, y pìeuethai efe, eithr yn wresog yn yr Ýsbryd y gwasanaethai ei genedlaeth a'i Dduw. Ychydig o arogl y lamp ac o ymadrodd- ion chwyddfawr y schools a geid yn nghyfansoddiad ei bregethau. O ran hyny, ni welir tiemawr o i fawredd yn ei ysgrifau; pethau nad ysgrifenwyd erioed oeddynt bethau hynotaf, a gogoneddusaf J. E. Yr oedd ynddo, yn ei ddyddiau ^goreu, ryw drysor diysbydd, dibendraw; 'eithr ynddo yr oedd,—nid yn ei lyfrgell, —nid yn ei ysgrifau, ond yíi nyfnderoedd ei enaid galîuog. Meddái ar allu i 16