Skip to main content

Y GEEAL. MAI, 1859. NODION BYWGRAEFIADOL AM Y DIWEDDAR BARCH. JOHN EDWARDS. (PAItHAD O TUDAL. 84.) Rhoisom i'r darllenydd addewid am ddwy ysgrif ar nodweddìon gwrthddrych y nodion hyn. Fe'n hanrhegwyd â chynnifer o ysgrifau, gan frodyr parchus a charedig, defnydd digonol i wneyd cyfrol go fawr, fel ein gorfodir i ddethol ychydig o lawer, rhag ein harwain i ormod meithder. Rhesir ein sylwadau dan y penau hyn :—J. E. yn ei fuchedd, a J. E. yn ei waith. Digon i'r ysgrif bresennol fydd arddangos JOHN EDWARDS YN Eí FUCHEDD. Nis gellir rhoddi amgen darnau neillduol oedd yn nodweddu ei fuchedd. Yr oll o'i fuchedd, fyddai yr oll o'i fywyd, a'i arferion dyddiol dros dymhor hir ei oes. Bydded y darllenydd yn efelychydd y comparatwe anatomist sydd yn pender- fynu cyfartalwch maintioli a llun y gwrthddrych, oddiwrth y darnau gwas- garedig y dichon iddo eu darganfod. (a,) Yr oedd J. E., yn ddyn o sirioledd nodedig. Haul ydoedd a lonai y gym- deithas lle y byddai, gan sirioledd Crist- ionogol a phur. Yn anfynych iawn y caed ef dan gwmwl. Hyd y nod pan mewn tristwch ei hun, yr oedd ynddo gymmaint o'r Cristion allai "orfoleddu mewn gorthrymderau," fel nas cyfranai ond ychydig ac yn anaml tuag at wneyd y shady side. Ysgrifena y Parch. W. Roberts, Blaenau, fel hyn,—" Yr oedd ei ymweliad â fy nhý bob amser yn dynihor o lawenydd i bawb, ond yn neillduol i'r plant: rhedent ato gyda'r awyddfryd mw}raf, gan ddweyd fod eu hewythr wedi dyfod. Yr oeddynt hwy dan yr argraff ei fod yn ewythr iddynt, oblegyd yr adnabyddiaelh a'r anwyldeb oedd yn bodoli rhyngddo ef â'u taid, y Parch. D. Jones, Tongwynlas. Yr oedd y fath duedd siriol yn fy anwyl frawd ymadawedig, fel y rhoddai bob cyfeillach a phob teulu, lle y dygwyddai fod, yn fflam o gysur a mwynhad, mewn ychydig amser. Yr oedd ei arabedd, ei natur fywiog, ei duedd chwareus, a'i deimladau «erchus a didramgwydd, y fath ag a'i galluogai i wneyd hyn, hyd y nod yn ei hen ddyddiau, yn fwy naturiol na neb a adwaenais.'' Cyfeirir at y nodwedd yma gan amryw. Ebe'r Parch. J. Prichard, " Gwr o dymher ysgafn, lawen, chwareus dros ben, oedd Mr. Edwards, gyda ei gyfeillion calon. Yr oedd llawer o wa- haniaeth rhyngddo yn hyn, a'i gydoeswr Mr. J. Thomas, Llanrwst; er nad oedd neb yn meddwl y brawd anwyl diweddaf, fymrym IIai mewn duwioldeb nag yntau." A.'r Parch. Daniel Jones, a ofyn, " Pwy a'i clywodd ef yn achwyn ar amgylch- iadau a'i goddiweddent? Na, gadael i ereill eu gweled y byddai ef, ac edrych yn siriol." Tra yr ydoedd bob amser yn siriol, ac yn sirioli pob cwmpeini lle y byddai, nid oedd un amser yn croesi llinell gwedd- eidd-dra crefyddol. Ymddygai yn wastad mewn modd teilwng o gyfrifoldeb y Crist- ion, ac o urddas a phwys y weinidogaeth. Nid oedd byth yn myned allan o elfen ac ysbrydcrefydd! Mewn amrantiad, bydd- ai yn hollol gartrefol gyda phethàu enaid, ac ymddyddanai mewn "geiriau gwir- ionedd a sobrwydd." Dywed ei berth- ynas, y Parch. E. Evans, Dowlais, fel íiyn,—" Yr oedd rhywbeth yn nhymher eich tad, nas gallaf gael geiriau i'w osod allan. Gwyddoch fel y byddai yn chwareu yn gellwerus â'r plant y fynyd hon, a'r fynyd nesaf ymddyddanai â'r fam am bethau enaid a byd arall, yn y modd mwyaf syml a chyda'r sobrwydd mwyaf. Pan ymddangosai i ni yn gell- werus, nid oedd hyny, rhywsut, yn ei anaddasu i wasanaeth crefyddol; nid oedd yn dyeithrio ei feddwl oddiwrth bethau difrifolaf Cristionogaeth. Yn nghanol chwerthin llawen, gallai, yn y fynyd, droi i siarad am bethau tragy- wyddoldeb; a hyhy r,id oddiar arferiad o'r cant arwynebol ac atgas a ganfyddir mewn rhai personau, ond o galon gywir. Yr oedd dytnder ei deimlad yn llenwi ei lygaid â dagrau tra yn ymddyddan. Gwn'aeth Mr. Davies, o Hwlffordd, sylw cyffelyb yn ei bregeth ddydd yr anjjladd, 13