Skip to main content

Y GEEAL. MAWRTH, 1859. BRENINIAETH DUW Y NEFOEDD. " Ac yn nyddiau y breninoedd hyn, y cyfyd Drw y nefoedd freniniaeth yr hon ni ddistrywir byth: a'r freninìaeth ni adewir i bobl ereill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd."—Dau. ii. 44. . Cyn ymddangosiad Crist, byddai Duw yn anilygu ei ewyllys trwy wahanol flỳrdd i ddynion; un o'r fíyrdd hyny oedd trwy freuddwydion. Fe ddadgudd- iodd Duw i Nebuchodonosor trwy freudd- wyd beth oedd i gymmeryd lle ar ol ei «idyddiau ef; ond fe annghofiodd y brenin y breuddwyd, ac yr oedd mewn trallod annghyfFredin o'i blegyd. Rhyw fôd rhyfedd ydyw dyn. Nid oedd ar y brenin Nebuchodonosor arswyd holl Genedloedd y byd, nid oedd un gallu ar y ddaear a achosai fraw iddo; ond y mae breuddwyd wedi codi y fath ofn arno nes y mae yn methu byw ! Yr oedd llawer o esbonwyr breuddwydion yn Mabilon, a galwyd arnynt i wyddfod y brenin; amlygodd y brenin iddynt y brofedigaeth yr oedd ynddi. Yr oeddynt yn barod i dynu y brenin o'i ddyryswch, ond iddynt gael ciywed ybreuddwyd; yr oeddynt yn barod i bregethu breudd- wydiaeth, ond i'r brenin roddi testyn iddynt; ond yr anhawsdra oedd, fod y brenin wedi ei annghofio. " Nis galiwn mo'i esbonio, heb i'r brenin ei ddweyd," ebe'r dewiniaid ; "os ydych chwi yn gallu deongü breuddwyd, chwi a fedrwch adgofio breuddwyd hefyd," ebe'r brenin. Nis gallasant wneyd hyny, ac yn ei wylltineb, y mae y brenin yn gorchymyn eu lladd; "ceisiasant hef'yd Daniel a'i gyfeillion i'w lladd." Ond fel y mae pìant mewn cyfyngder yn arfer a dweyd eu cwyn i'w tad, felly hefyd y mae plant Duw yn dweyd eu cwyn wrth eu Tad nefol; ac yn y brofedigaeth, fe aeth Daniel a'i gyfeillion i ymgynghori â Duw. Amlygwyd y breuddwyd i Dan- ìel, a dangoswyd iddo ei ddeongJiad. Delw fawr oedd y brenin wedi ei gweled yn ei freuddwyd; yr oedd dysgleirdeb y ddelw yn rhagorol, ac yr oedd yr olwg ar- ni yn ofnadwy. Yr oedd ei phen ynaur, ei dwyfron a'i breichiau yn arian, ei bol a'i morddwydydd o bres, ei choesau o haiarn, a'i thraed yn gymmysgedig o haiarn a phridd. Pan oedd y ddelw yn sefyll yn dalgryf o flaen y brenin, ac yn dazzlo llygad yr edrychydd û'i dysgleir- deb, dyna gareg o'r mynydd ger llaw yn llithro i lawr, ac yn treiglo tua'r ddelw, ac wrth fyned tua'r goriwaered, y mae yn casglu nerth yn barhaus, nes o'r diwedd y mae yn cyrhaedd y ddelw, ac yn ei tharaw ; ac yn lle neidio yn ol ar ol ei tliaraw, y mae yn ei malurio, ac yn myned yn fynydd mawr, ac yn llenwi yr holl ddaear. Y mae i'r gwahanol feteloedd byn eu hystyron a'u harwyddocâd ; Nebuchod- onoóor a'i freniniaeth oedd y pen aur; breniniaeth arall îs nag ef oedd yn caeí ei harwyddo gan y ddwyfron a'r breichiau arian; a breniniaethau a arwyddid gan y bol a'r morddwydydd o bres, a'r coesau o haiarn, a'r traed cymmysgedigo haiarn a phridd. Yn ystod yr olaf o'r brenin- iaethau hyn, y mae Duw y nefoedd yn cyfodi breniniaeth, yr hon ni ddistrywir byth. Mewn treffi i ni ddeall amser cyfodiad breniniaeth Duw y nefoedd, y mae o bwys i ni ddeall deongliad Daniel o freuddwyd y brenin. Gyda golwg ar y pen aur, y mae y prophwyd yn dweyd yn bendant mai Nebuchodonosor ydyw hwnw. Yn yr hen oesoedd, rhyw un gallu mawr oedd yn y byd; pan oedd Nebuchodonosor yn teyrnasu, nid oedd un brenin ar y ddaear a feiddiai godi yn ei erbyn. Heddyw y mae llawer o allu- oedd cryfion yn cydoesi; y mae Lloegr, Ffrainc, Rwsia, ac America, yn fawr eu nerth, ac yn ëang eu gallu, ond yr oedd pethau yn wahanol yn y cynoesoedd. Dywedir wrthym fod dwyfronau a breiehiau y ddelw o arian, neu yn ol y deongliad, fod breniniaeth arall îs nag eiddo Nebuchodonosor i ddyfod ar ei hol. Fe barhaodd ymerodraeth B^ibilon, ar ol y weledigaeth hon, am tua 70 mlynedd, pryd y cymmerwyd Babilon.y lladdwyd Belsasar, ac y teyrnasodd Darius y Mediad, a Cyrus y Persiad. Yr aii freniniaeth ynte, oedd, eiddo y Mediaid a'r Persiaid^ Yr oedd gallu mawr yn perthyn i'r freniniaeth hon, ond nid oedd í'el eiddo Nebuchodonosor; y mae efe yn mynu cael ei ffbrdd trwy bob peth,