Skip to main content

Y GREAL. CHWEFROR, 1859. YSTYRIAETHAUADBYSGIABOL. SYLFAENEDIG AR HANES GALWEDÍGAETH DYSGYBLION CYNTEFIG Y GWAREDWR. IOAN I 37—50. Oes nodedig yw hon am olrhain pethau i'w dechreuad. Un o brif adnoddau dyddordeb, syndod, ac addysg, i'r medd- ylgar, yw y gwrthweddiad sydd rhwng mawredd ac enwogrwydd llawer gwrth- ddrych a sefydliad, a'u dechreuad gwael a distadl. Yn wladwriaethol, mae hanes Rhufain henafol, a gwerinlywodraeth bresennol yrUnoí Daleithiau American- aidd yn engreifftiau hynod o hyn. Yn gymdeithasol, wele, gan mwyaf, brif enwogion y byd yn sefyll ger ein bron fel rhai a ddriugasant i fyny trwy an- hawsderau o froydd tywyll gwaeledd ac iselrwydd. Yn anianyddol, meddyliwn eto am y pren mwstard Dwyreiniol, yn- ysoedd Gwylaraidd (coralline islands), y môr Tawdd, ac afonydd mawrion, megys yr Amaxon, yr hon nid y w, mewn cym- hariaeth, ond bechan yn ei dechreuad; ond yn ei threigliadyn mlaen yn graddol gynnyddu, dyfnhau, ac ymledu, fel ag i ddyfod yn fordwyol am 2,000 o filltiroedd, ac i arllwys ei dyfroedd cryfion ac ar- uthrol i'r weilgi yn 180 milltir o led. Oud yn grefyddol a moesol, nid oes dim yn y bydysawd i'w gystadlu â Christion- ogaeth yn iselder a gwaelder allanol ei dechreuad, ei chynnydd rhyfeddol, ei buddygoüaethau ardderchojî, a'i rhag- olygfeydd gogoneddus a thragywyddol. Yn ein hoes ni, y mae Cristionogaeth yn brif ffaith y byd, a'i dylanwad oll-dreidd- iol yn moldio cyflwr a thynged gwladol, cymdeithasol, moesol, ac ysbrydol gwled- ydd a theyrnasoedd yddaear; a chyn bo hir bydd y byd yn gwbl oll'yn "eiddo i'n Harglwydd ni a'i Grist ef." Yn yr hanes ar ba un y sylfaenir prif sylwadau yr erthygl bresennol, cyfeirir ein sylw at yr adeg pan oedd Awdwr Cristionogaeth wrtho ei hunan, yn dech- reu ar yr auturiaeth fawr o gasglu eneid- iau i mewn i deyrnas nefoedd, ac o ffurfio eglwys y Testament Newydd. Cawn yma hanes am y ddau ddysgybl cyntaf a lynasant wrtho, y rhai ydynt yn ych- wanegu o un i ui>, nes cyrhaedd pump cyn diwedd yr hanes yn y bennod dan ein sylw. Eglwys Iesu Grist ar y ddaear yri cael ei gwneyd i fyny o ddim ond I pump o aelodau! Dechreu gwael onide? | Ond dechreu na bu erioed ei f'ath yn y I byd yma. Dechreu y mae, ac y bydd I iddo y canlyniadau mwyafa rhyfeddaf ! yn hanes y greadigaeth, a thynghedfen | dynoliaeth. Mae yn yr hanes dechreuol yma, er I nad yw ond byr, syml, a diaddurn, eg- ! wyddorion ac addysgiadau o'r pwys ! mwyaf yn cael eu dadblygu ger ein bron, | at ba rai y bydd i ni alw sylw ydarìlenydd. I Mae teithi gwahanredoì galwedigaeth y | pum' dysgybl hyn, yn taflu goleuni ; gwerthfawr ar egwyddorion ac amgylch- I iadau gwir ddychweliad Cristionogol, yn : gyff'redinol hyd y dydd heddyw. Yr i ydym ni y Bedyddwyr yn hoff iawn o j bethau fel yr oeddynt yn eu symlrwydd • cyntefig. Wel, gadewch i ui daflu golwg | byr dros nodweddau gwahaniaethol ! galwedigaeth cyntafanedigion teyrnas nefoedd. i 1. Mae yn amlwg fod yn meddyliau y í dysgyblion hyn, cyn dyfod at Grist, deim,- \ ìadblaenorol o hiraeth ac anghen am dano. j Nid rhyw Baganiaid anwaraidd, neu I Phariseaid hunangyfiawn, oeddynt. Er | nad oeddynt yn ddysgedigion nac yn | philosophyddioa, eto, nid rhyw greadur- f iaid dwl, anwybodus, ac anllythyrenoa, fel y dywedir weithiau, oeddynt. Yr oeddynt wedi darllen Moses a'r pro- phwydi; yr oeddynt yn ddynion ystyriol a meddylgar, ac fel Simeon, yn dysgwyl am ddyddanwch yr Israel. Mae eu gwaith y naill ar ol y llall, yn dweyd gyda y í'ath lawenydd, "Nyui a gawsom y Messias," yn drwyddo fod eu llygaid yn agored, yn chwilio yn ddyfal, ac yn dysgwyl yn hiraethlon am dano. Pwy a wyr faint o siarad oedd wedi bod rhyngddynt yn ei gylch, wrth gyweirio eu rhwydau ar làn môr Galilea. Yr oedd dau o honynt, sef, Andreas ae un arall na enwir yn yr hanes, (loan fel y tybir) wedi gadael eu galwedigaethau mewn rhan, adyfod. yn ddysgyblion i Ioa» Fedyddi\vr, mewn dysgwyliad am ymddangosiad teyrnas Dduw. Os oedd ganddynt eu golygiadau annghywir am y Messiah, a natur ei deyrnas, yr oedd