Skip to main content

Y GBEAL. IONAWft, 1859. CYFNOMU GWEINIDOGAETH YR EFENGYL YN NGHYMRU. Mr. Gol.—Oa barnwch fod y sylwadan canlynol yn deilwng o le yn y Greal, gobeithiwyf y gwnewch adael iddynt ymddangos yn eich Cylchgrawn am Ionawr. Yr eiddoch, TbepobWynn. Mae rhywbeth neillduol yn hynodi gweinidogion pob eyfnod oddiwrth wein- idogion cyfnod arall, yn gystal o ran y doniau â pha rai y maent wedi eu cyn- ysgaethu, ac o ran y gwaith sydd wedi ei adael iddynt i'w wneyd. Ni thalsai í'od gweinidogion yr oes o'r blaen wedi eu geni yn yr oes hon, na gweinidogion yr oes hon yn yr oes o'r bíaen; pe amgen, buasai y ddau yn annhymig; o her- wydd y mae gwaith gwahanol yn gof'yn am ddynion gwahanol ato, a dull gwa- hanol i'w gyflawni. Yr ydym yn siarad yn awr am bethau yn gyffiedinol, o herwydd y mae rhai eithriadau i hyn yn eithafeglur. Mae rhai dynion oysbryd a medd wl yr oes hon i'w canfod yn y r oes o'r blaen, a rhai dynion o ysbryd a meddwl yr oes o'r blaen wedi eu gadael hyd yr oes hon. Ni ŵyr y bobl sydd yn dywed- yd y dylai pregethwyr yn awr fod fel yr hen bregethwyr gynt, ddim pa beth y maent yn ei ddywedyd, nac am ba beth y maent yn llefaru. Mae amgylchiadau gwlad a phobl, ac arferion yn awr wedi newid, a'r hen ffyrdd, oedd unwaith yn myned at eu meddyliau, weithian, wedi eu cau i fyny, fel mai rhaid mynedatynt ar hyd y ffyrdd y mae yr oes wedi wneyd iddi ei hun, neu beidio myned atynt o gwbl. 'Does dim help fod y byd yn newid,—rhaid ei gymmeryd fel y ceir ef. Fel y mae dynion yn wahanol, a'r gwaìth yn wahanol, mae nodwedd y weinidogaeth yn wahanol. Nid yw pob nodwedd yr unrhyw nodwedd, mwy nac ydyw pob cnawd yr unrhyw gnawd ; eithr arall ydyw gweinidogaeth y dyfr- hau; ond y mae pob un yn augbenrheid- iol yn ei lle, ac yn cyfranu at adeilad corph Crist fel eu gilydd. Mae y wein- idogaeth wedî bod yn gwisgo llawer prydwedd yn Nghymru er's can' mlyn- edd. Ar y cyntafyr oedd yn dyfod allan megys o Seinai, ac yn ymlewyrchu o fynydd Paran, a'i gogoniant yn toi y nefoedd. Trigai yn nirgelwch y daran, ac ymwisgai â rhyferthwy y dymhestl, gan lefaru o ganol y corwynt, nes crynu o'r mynyddoedd gan ei hymchwydd. Wedi hyn, mae ei llais yn gostegu, y cymylau yn chwalu ymaith, a wyneb glas yr wybr yn ymddangos eilwaith. Teflir ymaith y bwa, ac eir i weini i'r rhai a glwyfwyd, mewn dystawrwydd pur a hedd. Yn nesaf, mae tymhor mesur cyntedd- au y deml a'i holl ystafelloedd yn dyfod. Rhaid gwybod hyd, Ued, dyfnder holi gynghor Duw, a deall arfaeth ac ethol- edigaeth, a chyfrifiad, a chyfammod, a phob gallu a galwad a ellid ei gynnwys o fewn holl gylch treftt Duw. Ni byddai yr un cyfarfod yn cymmeryd lle, na byddai rhai o'r petbau hyn dan sylw,— yr un bregeth ýn cael ei thraddodi, na byddai y dirgelion ollyn cael eu gwybod, nac un aelod yn cael ei dderbyn na byddai ynddynt oll yn cael ei brofi. Mae y tymhor yn newid eilwaith, a phrydwedd newydd yn dyfod i'r golwg eto. Mae eisieu sefydlu achosion new- ydd, eisieu tir i godi capeli, eisieu myned i Lundain i gasglu, a llu mawr o betbau ereill ag sydd yn dal cyssylltiad â rhanau allanol yr achos. Mae y pethau hyn oli yn anghenrheidiol, ac yn cyfodi yn nat- uriol o ddadblygiad y weinidogaeth; ac yn ben ar y cwbl, mae yn lles, yn gym- maint a bod tuedd yn y meddwl i farw- eiddio pan yn ddarostyngedig o hyd i'r un driniaeth. Mae yn amîwg nad yr un dosbarth o feddyliau a wna y tro yn mhob un o'r tymhorau a nodasom, er bod yn llwydd- iannus yn eu gwaith. Mae yn anhawdd dywedyd yij mha le mae tymhorau fel hyn yn dechreu ac yn darfod, yn gym- maint a'u bod yn rhedeg i'w gilydd, ac yn cyfranogi mewn rhan o'r un pryd- weddion. Ond y mae rhyw béthau er hyny yn aros, wrth ba rai y geilir eu hadnabod; a rhyw amcan o flynyddau, o fewn cylch pa rai y gellir eu cynnwys. Mae y corph yr un, er fod y dull o'i wisgo yh wahanol; a'r darlun yr un, er fod ei oleuni a'i gysgod yn amrywio.