Skip to main content

Y GREAL. RHAGFYR, 1858. CLEFYD Y SABBATH. PREGETH ODDIAR IOAN XI. 4. GAN H. W. HUGHES, LERPWL. " Nid yw y clefyd hwn j farwolaeth." Anwyl Gariadus Frodyr,—Yn ol fy addewîd y Sabbath diweddaf,* yr wyf yn eichannerch ar y cìefyd andwyolhwnwa elwir " Clefyd y Sabbath ;" ac er nad y w y testyn yn dal cyssylltiad uniongyrchol â'r anhwyldeb trychinebus hwnw, gellir dywedyd, er cysur i'r rhai hyny yn ein plith ag ydynt ddarostyngedig i'w ar- teithiau, fod y ffaith yn ddios, sef, "nad yw i farwolaeth !" Nid yw debygol fod Lazarus yn cael ei flino gan y clefyd hwn ; o leiaf, gellir sicrhau ar awdurdod y testyn, nad o'r clefyd hwn y bn efe farw. Tystiai ein Harglwydd yn ben- dant, "Bu farw Lazarus ;"rhaid, gan hyny, fod rhywbeth heblaw clef'yd y Sabbath arno ef. Ni buasai y clefyd nodedig hwn byth yn rhoddi achlysur i gyflawniad y wyrth, nac, ond odid, i gyf- lawniad unrhyw ddaioni arall. Daeth Rhaglunjaeth y nef ag " Yrnborth o'r bwytawr, a melusdra o'r creulon,'' (Barn. xiv. 14.) ond erioed ni chafwyd budd o'r ysgerbwd hwn,—mae y "bwytawr " yn rhy fwyteig i adael dim yn ngweddill. I. Ystyriwn yn mha bethau y mae clef- ydau cyffredin a'r clefyd hwn yn debyy. II. Yn mha bethau y maent yn gwahan- iaethu. I. Yn mha betìiau y mae y clefydau cyffredin a'r clefyil hwn yn debyg,— 1. Y mae y clefyd hwn fel clefydau ereill, yn difwyno y cyfansoddiad. Pa ran bynag o'r corph fyddo eisteddle clef- * Mae traethu ar natur ac arwyddion clefydau, wedi bod, ac eto yn parhau, yn fendith anmhrisiad- wy i'r teulu dynol; canys trwy hyny y galluogir cleifion, yn gystal a meddygon, i arfer moddion rhag-flaenol, yn gystal a meddygol, er eu gochel, a gwellaeu heffeithiau dinystriol: a'r hwn agaiffallan attalfa, neu feddyginiaeth rhag y cyfryw heintiau, a ystyrir yn gymhwynaswr ei rywogaeth. Yr hwn hefyd a ddargenfydd attaliedydd, neu feddyginiaeth (preventative or cure) i'r clefyd anaele sydd dan ein hystyriaeth, a ddylai, yntau liefyd, dderbyn cydna- byddiaeth ei gydoeswyr; canys os yw o bwys i attal neu wellhau y clefyd melyn, y geri, y frech wen, a heintiau cyffelyb, y rhai ni flinant ddynolryw oud unwaith mewn oes, rbaid ei fod o bwys i at'tal neu wellhau " Clefyd y Sabbath ;" yr hwn, yn ei holl arteithiau a ymesyd ar wmredd mawr o ddynolryw yn gysson unwaith yn yr wythnos. yd, bydd yn sicr o ddifwyno y rhan hòno: os yn y gewynau, collant eu gryrn; os yn y cyhyrau, dinystria hwynt; os yn y gwaed, rhwystra ei gylchrediad; os yu yr ymenydd, dyrysa ef, &c. Felly hefyd, y ciefyd hwn ; mae ei rym y fath, fel yr effeithia ddifwyniad Uwyr drwy yr holi gyf'ansoddiad. Mae yn ddiau yn dor- calonus yn fynych i weled a chlywed dyoddefiadau y trueiniaid annghym- horth a îafuriant dan gnofeydd yr haint diymadferth yma; i'e, y fath yw arteith- iau yr afiechyd a ddarluniwn, fel yr ofnir yn fynych i'r dyoddefwyr roddi i fyny yr ysbryd, a gadael eu cyfeillion a'u perthynasau cydymdeimliol i alaru a rhyfeddu am eu tynged ddisyfyd: ie, yn wir, ff'arweliwyd â llawer un ar ei wely cystudd (Sabbathol; heb ddysgwyl gwel- ed ei wyneb tosturus yn y cnawd mwy- ach! 2. Mae Clefyd y Sabbath, fel clefydau ereill, yn annghymhwyso pobl i gym- deithas. Pan gymmerir dyn gan glef'yd, nid yn unig cyll bob tuedd, ond cyll bob cymhwysder i gymdeithas; rhaid 3rm- absennoli o'r shop, o'r farchnad, &c. Mae Clefyd y Sabbath yn hyn eto yn debyg i glefydau ereill, yn neìllduol feliy i'r gwahanglwyfus! Ûnwaith y delai dyn yn wahanglwyfus, ni byddai i'w weled mwyach yn mysg dj'tiolryw, yn enwedig yn y cyssegr; f'elly hefyd, pan gymmerir dyn yn Sabbathol glwyfus, y mae yn ymgadw gyda dyfalweh mawr o fysg ei gydryw, yn enwedig o'r cys- segr, rhag iddo, trwy unrhyw amryfus- edd, gario y pla yno. Helynt a hanner fyddai bod yn achos o heintiad y rhai iachus, y rhai, trwy sirioldeb tymher, gwely amserol nos Sadwrn, cymmedrol- deb, a bendith Duw, ydyut yn nhý yr Arglwydd yn gynnulledig. Ni wna y cleifion Sabbathol ddim o'r fath beth, er a gymhellir arnynt yn fynych. Mae rhai clefydon yn rhoddi gogwydd medd- wl (turn ofmind) cydweddol â'u natur, ac yrnddengys fod y Clefyd Sabbathol yn rhoddi y gogwydd hwn; canys nid â 34