Skip to main content

Y GEEAL. TACHWEDD, 1858. MERTHYRDOD POLYCARP.. Tybir i Polycarp gael ei eni yn Smyrna. yn am- serNero.a'i fod wedi bod yn ddysgybl i ioan yr apostol; ystyrir mai efe oedd yr angel a annercliai Ioan, yn ei lythyr at eglwys Smyrna, yn y Dadgudil- iad. Tybir ei fod wedi llenwi ei gylch fel gweinid- og eglwys Smyma, ain fwy na haiiner canrif, er anrhydedd iddo ei hun,ac er clod i'w Feistr. Yr oedd uwchafiaeth ei swydd yn ei nodi allan fel gwrthddiych cynddaredd gelynion yr efeiìgyl. Bu fe.rw yn ferthyr yn y flwyddyn 166, inewn oedran teg. Er m<*yn darllenwyr y Greai,, dodwn rai manylion o barthed i'w ierthyrdod ger bron. A ganlyn sydd ddetholion a dyfyniadau o lythyr a elwir, "Cylchlythyr eglwys Smyma yn nghylch merthyrdod Polycarp santaidd." (Tes Smyrnaion ekklesias peri marturiou tou hagiou Polycarpas epistole egkuklikos) Cyhoeddwyd ef yn y Paires Apostolici, 1§38, gan Jacobson, íthydychain. Tyb- iais unwaith, anfon cyfieithiad Ilythyrenol o hono yn gyfiawn i'r Greal, ond bernais drachefn y bu- asai, heblaw bod yn rhy faith, yn cynnwys rhai petliau o natur leol, ag na fuasent yn ddyddorol gan y mwyrif o'r darllenwyr. Gan ddymuno pob llwydd i «hwi gyda'r Greal. Ydwyf, &c. H. Jones, Llandudno. Pan oerld Marcus Aurelius Antoninus* yn teyrnasu, yr oedd gorsedd Rhufain yn cael ei pherchenogi gan athronydd enwog. Yr oedd galluoedd meddyliol M. A. Antoninus yn gryfion, a'i gyr- haeddiadau mewn dysg yn uchel, ac yn anrhydeddus. Yr oedd dysgawdwyr hynaf yr oes wedi bori yn ei gyfarwyddo yn íFordd enwogrwydd, ac ni chawsaiit achos i ddweyd eu bod wedi llafurio yn ofer. Er ei fod yn adnabyddus à gwa- hanol bleidiau crefyddol yn ei amser, efe a ymlynodd wrth ddaliadau y Stoic- iiiid, ac a'i hymart'erodd trwy ei fywyd. Yn ystod ei deyrnasiad, cyfododd lluoedd lawer o'i ddeiliaid mewn gwahanol barth- au o'r llywodraeth, mewn gwrlhryfe), a hyny ar yr un pryd ; ac yr oedd yn of- ynolgwneydpobymdrech i'wdarostwng. Ond yn yr ymdrechion yn erbyn y fjelyn, yr oedd yr ymerawdwr yn 3rm- ddiried mwy yn y defodau â'r aberthau eilunaddolawg, nag yn newrder ei filwyr, a'i athroniaeth ei hun. Tybid ganddo ef a'i gynghorwyr, y byddai dinystrio y Cristionogion yn foddhaol gan y duwiau, ac yn sicrhau ílwyddiant arfau llhufain. Y canlyniad oedd i erledigaeth waedlyd dori allan, yn yr hon, yn mhlith ereill, y syrthiodd Polycarp. Dengys y llythyr crybwylledig, fod y Cristionogion yn gorfod dyoddef triniaethau ofnadwy; yr oédd eu gelynion yn ymosod arnynt nes yr oedd eu gwythienau, a rhanau mewn- ol eu cyrph yn y golwg; eto, yr oeddynt yn hollol dawel, fel yr oedd eu gelynion yn rhyfeddu ac yn synu. Er nad oedd pawb mor wrol yn ngwyneb y bwystfilod gwylltion, eto, yr oedd Duw mewn modd hynod yn nerthu ei blant, í'el ag yr oeddynt yn ei chyfiif yn fraint, hyd y nod i farw er mwýn yr Arglwydd íesu. Yn hytracli na lìeddfu yn eu cynddaredd, yr oedd gelynion yr efengyl yn myned yn fwy creulawn yn erbyn y dysgyblion wrth weled eu sefydlogrwydd, ac yn liefain, "Ymaith â'r atheistiaid!* Chwil- ier am Polyearp!" Pan ddeallodd yr henafgwr parchedig eu bod wedi ei enwi ef, ni ddychrynodd, ond ar y cyntaf, a feddyliodd aros yn y ddinas i gyfarfod â'r hyn a gymmerai le; ond fe'i perswadiwyd ef gan ei gyf- eillion i ymguddio. Yn ei ymneilldnad, yr oedd yn treulio ei amser i gymdeith- asu â Duw. Fel yr oedd yn gweddio, argraffwyd yr argyhoeddiad ar ei fedd- wl y llosgid ef cyn pen tri diwrnod ; ob- legyd yr oedd yn gweled mewn gweled- igaeth ei obenydd yn llosgi gan dân; fel y troes ac y dywedodd wrth ei gymdeith- ion, " Rhaid i mi gael fy Uosgi yn fy w." O'r diwedd canfyddwyd ei loches; ond fe allasai ddianc o ddwylaw ei erlyu- wyr y pryd hwn, pe yr ewyllysiai; ond yn lle hyny efe a roddes ei hnn i fyuy, g.in ddywedyd, " Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Efe a ddaeth i lawr o'r oruwchystafell, yn mha un yr oedd pan y daeth ei erlidwyr i mewn. ac a ymddy- ddanodd â hwynt, ac a orohymynodd roi bwyd a diod o'u blaen, gymmaint ag a ewyllysient. Dymunodd arnynt ganiat- âu un awr iddo i weddio cyn cychwyn ; wedi cael caniatâd i wneyd, efe a safodd i fyny hc a weddiodd ; ac mor afaelgar oetld ei enaid, fel nas gallodd dewi am ddw.y awr, nes oedd y rhai oedd yn clywed yn rhyfeddu, a llawer yn edifar- hau am ddyfod ar warthafy fath henafgwr duwiol. Wedi iddo ddarfod ei weddi, yn yr hon y cofiodd am bawb, hyd y nod * Am nad oedd y Cristionogion yn addoli delwau neu dduwiau gmeledig, galwai eu gelyuion eilun- addolgar hwy, " y rhai didduw." 31