Skip to main content

Y GEEAL. AWST, 1858. Y NEFOEDJ) FEL Y BU, AC FEL Y MAE. Mae pob peth a arfaethodd Duw, a'i gyflawniad, wedi ei selio â Hollalluog- rwydd; a phob peth a wnaeth, yn arlun o ddwyfol ddoethineb. Mae ei holl weithredoedd, o'r milyn gwael i'r angel gwych, yn arllwys afonydd o fawl i'w enw gogoneddus. Ond o bob Uanerch sydd tu fewn i derfynau ei ymerodraeth dragywyddol, y nefoedd ydyw y lle niwyaf ysblenydd, hon ydyw yr oruwch- ystafell ag y mae y üuwdod wedi ei nheillduo i osod prif ornaments ei frenin- iaeth ynddi; yma y inae yr "orsedd wen fawr;'' yina y mae y deyrnwialen anr; yma y mae y goron ymerodroi, coron na wyr neb ei phwys na'i gwerth o(|d efe. Dyma goron na byddai holl goronau daear yn ei hymyl, ond fel sachlen flew, mae pob peth o'i mewn wedi ei osod i fyny â'r hoelion aur anghyfnewidiol; pob perî, pob gem, pob coron, pob telyn, a phob palmwydden wedi ei íiyswirio yn y royal insurance, a'i barhad yn gyd- bwys âg oes y perchenog. Mae ol bys- edd perffeithrwydd, a braich anfeidrol, yn amlwg yn cloddio y fath berlau a hyn allan o chaos diddymdra; yn engyl, yn seraphiaid, yn gerubiaid.a saint; ac wedi eu caboli mor dd.ysglaer, nes eu cael yn îlestri cymhwys i ddal eu llond o ogon- iant yr hwn a'u gwnaeth, ac i fod yn volumes of dwinity yn y royal library. Ond er fod delw dwyfoldeb, ac ôl llaw perffeithrwydd ynddi ac arni, y maerhyw swn diffyg yn yr idea sydd genym o hon', a rhyw farc o anmheiffeithrwydd yn ei darlun, pan y dywed dwyfol ysbrydol- iaeth, " Y nef nid yw lân yn ei olwg ef." Geliir casglu oddiar dir rheswm, ac oddi- ar f'aes yr Ysgrythyrau, drwy y dwyfol delescope, fod y nefoedd wedi bod am gyfnodau meithion heb un fynedfa iddi, na dyfodfa allan o honi, ond drwy y ffen- estri. Palas heb un drws a fu y nefoedd o Eden i Galfaria. Tŷ heb ei orphen a fu tŷ èin Tad yn yr oesau gynt. Nid rhyfedd i'n Hiesu son cynimaint am fyned yno i barotoi He i'w frodyr. Yr oedd lesu am i'w bobl gael derbyniad i dý eu Tad drwy ddrws y front; derbyn- iad rhydd, derbyniad teilwng o'u hurdd- as, " os myfi a âf mi a barotoaf " ff'ordd, mynedfa, a ]]e i chwi, o herwydd yn "nh^'fy Nhad ymaellawero drigfanau." 1. Estyn pob addewid, rhanu pob tru- i garedd, a thywal]t pob bendith y byddai Duw i'r oesau gynt drwy'r ffeuestri; " Agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywalltaf fendithion fel na byddo digon o le i'w derbyn." Os byddai eisieu myn- egu rhyw newydd, eisieu dadguddio rhyw ddirgelwch i ddyn, siarad drwy'r ffenestrioeddraid; gwrando pob gweddi, derbyn pob ochenaid, a chostrelu pob deigryn ; drwy'r ffenestri y gwnaed y cyfan. Cymmaint o dduwiolion yr oes- au cyntefig a wnaethpwyd yn frodorion o'r wynfa wen, cyn esgyniad Iesu, drwy'r íFenestri y cawsant y fynedfa i mewn, a'r cwbl ar drust yn yr hyn a wnaed ar Galfaria. 2. Iesu Grist oedd y cyntaf a dderbyn- iwyd i'rnefdrwy y drws. Ac O! y fath syndod a feddiannodd y teulu oedd i mewn—methu yn deg ag amgyfl'red pwy oedd yn dyfod, gau ei fod yn hawlio, fel prince, am i'r drysau y magor, ac i'r pyrth ymgodi i'r eithafion ar ei ddyfodiad; " Ymddyrchefwçh ddrysau tragywydd- ol," meddai Iesu. Pwy sydd yn dyfod, oedd y gofyniad o'r tu mewn. Dacw Abel yn dod at y ddôr, ac yn gofyn, Pwy sydd yna? Yr wyf yma yn un o'r rhai cyntaf, ac wedi gweled pob un yn dyfod i niewn; ond ni welais i neb yn cael derbyniad drwy'r drws, nac yn gof- yn ychwaith. " Pwy sydd yn dyfod?" "Brenin y gogoniant." Yr oeddem ni yn meddwl fod Brenin y gogoniant i fewn eisioes. " Pwy yw Brenin y gogon- iant hwn?'' "Yr Argiwydd, yr Ar- glwydd cadarn a nerthol, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfe], ymagorwch ddrys- au tragywyddo], a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn." Gorfoledded y nefoedd, a llawenyched y ddaear, dyma'r drys- au wedi eu haíror a gauwyd ar ol engyl syrthiedig, a fl'urdd newydd a bywiol wedi ei liagor gan Iesu, yn arwain ei frodyr bob un at front door tŷ ei Dad. Fe gaiffy ffenestri lonydd o hyn allan ; ni bydd eisieu cau nac agor ui> ffenestr n,wy) gan fodMlesu wedi concro pob gelyn, ysbeilio tywysogaethau, caethiwo caethiwed, a derbyn rhoddion i ddynion; mae ganddo hawl drwy ei waed ei hun, teilyngdod swyddol a phersono!, i agor- yd drws y nef, myned i mewn fel Brenin y gogoniant, eistedd ar yr orsedd freninoì, ac ysgwyd y deyrnwialen yn oesoesoedd. 22