Skip to main content

Y GBEAL. MEHEFIN, 1858. MANTEISION DYN A DYSGWYLIADAU DUW: NEU SYLWADAU AR RHUF. II. 11-16. " Canys nid oes derbyn wyneb ger bron Duw. Oblegyd cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf, a gyfr- gollir hefyd yn ddiddeddf: a chynnifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf. (Canys níd gwrandawyr y ddeddf sydd gyhawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyiìawnheir. Canys pan yw y Cenedloedd y rhai nid yw y ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain : y rhai sydd yn dangos gweithred y ddediif yn ysgrifenedig yn eu calonau, a!u cydwybod yn cyd-dystiolaethu, a'u meddyliau yn cyhuddo eu gilydd, neu yn esgusodi) Yn y dydd y oarno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy efengyli, trwy Iesu Grist." Am yr luddewon a'r Cenedloedd, y mae yr apostol yn son yn y geiriau hyn. I Cenedloedd hyny y rhai sydd yn peehu yn ddiddeddf; hyny yw, heb ddeddf yggrifenedig fel yr luddewon, a gyfrgollir hefyd yn ddiddedrìf; y maent i gael eu barnu wrth y goleuni a'r man- teisinn sydd ganddynt, ac nid yn ol y ddeddf, am yr hon nas gwyddant ddim byd. A chynnifer ayr a bechasant yn y ddeddf—yn y mwynhad o oleuni gair Duw, a fernir wrth y ddeddf, a gant eu profi yn ol y gair. Ac nid ydyw gwybod y ddeddf chwaith yn ddigon, y mae yn rhaid ei gwneuthur—gwneuthurwyr y ddeddf'a gvfiawnheir. Canys pan yw y Cenedloerid, y rhai nid yw y ddeddf ganddynt—y rhai sydd heb air ysgrifen- edig Duw ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, megys parchu rhieni, dweyd y gwir, ym- ddwyn yn gyfiawn a charedig tuag at eu gilydd, &c, mor beìl ag yr oeddynt yn gwneuthur y pethau hyn, cynnwysedig yn y ddeddf, yr oeddent yn ddeddf idd- ynt eu hunain, yn dnngos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calotiau—• hyny >'wj 3; maent yn gwybod eu dyled- swydd i raddau belaeth ; y inae eu rhes- witì yn dysgn iddynt y priodoldeb o'r petli hyn a'r peth atall, a'u cydwybod yn eu cyhuddo pan y gwnant yr hyn sydd yn groes i'w barn, ac yn eu hesgus- odi pan y gwnant yr hyn a ystyrir gan- ddynt yn ganmoladwy. V mae y geiriau uchod yn awgrymu— I. MAI GOGONEDDU DuW YDYW DYl'.EN CREADIGAETH DY.N. AllllygU ei OgOIlÌailt ydoedd dyben Duw wrth greu y bydoedd, a gosod allan ei fawredd ydyw swydd barhaus gweithredoedd ei ddwylaw. Os taflwn ein golwg i fyny i'r nef, ac os ed- rychwn ar y goíeuadau dysgìaer a add- urnant ei balas mawr, gwaith ei ddwy- law ef ydynt, a chofgolofnau o'i a]lu. Os edrychwn ar y gwabanol greaduriaid o'n hamgylch, yr ydym yn canfod arwydd- ion o ddoethineb a gallu digyffelyb. Y mae mwy o Dduw i'w ganfod yn y gwy- bedyn bach, nag a allwn ddychymygu; gan nad beth ydyw gorchestion dynion yn ein dyddiau ni, er eu bod yn myned drwy y inynyddau, a thros afonydd a moroedd llydain, eto nis gallant roi byw- yd yn y creadur distadlaf. Ae y mae pob peth a wnaeth Duw yn ymhyfrydu i'w ogoneddu, oddi eithr dyn; y mae y gwybedyn yn gwneyd ei oreu i foli ei Grewr; os nad oes ganddo lais dai ganu, y mae yn defnyddio ei adenydd i seinio ei glod. Y mae yr afon yn llifo yn ëofn tua'r môr, gan sisial mawl i Dduw rhwng danedd y creigiau ; y mae yr awel iachns yn sibrwd parch iddo ef, a'r daran groch yn datgan ei gadernid. Ai tybed fod dyn yn eithriad i bob peth arail? Nag ydyw; y mae Duw yn dweyd mai j'w ogoniant y creodd efe ddyn. Dytna yd- yw dyben mawr a phwysig ein bodol- aeth, sef gogoneddu Duw. Nis gallwn ddychymygu pa ddyben arall a allasai fod mewn golwg gan y Bôd mawr; yr oedd efe yn annhraethol ddedwydd cyn creu ang'Jl na dyn; ac ni chreocld ddyn ani fod arno ei eisieu, ac yn methu byw hebddo ; ond er mwyn i fodau rhesymol fod yn ddedwydd eu hunain wrth edrych a myfyrio ar ei berff'eithderau, efe a greodd ddyn ar ei Itin a'i ddelw ei hun ; ac os bydo iddyn ddyrchafu ei Frenin, y mae i gael ei dderbyn i'r bywyd, i fwyn'. hau derìwyddwch dirìdarfod. II. FoD DUW WEDI CYNNYSGAETHU h'OLL DLANT DYNION A RHYW GYMMAINT O OLIUNI YN NGHYLCH EU DYLEDSWYDD. Y mae y Cenedloedrì y rhai sydd heb y ddeddf, yn gwneyd llawer o h< thau ag sydd yn cael eu dysgu yn y Beibl, ac yn eu llyfrau crefyddol, y n'ae llawer o beth- au cannioladwy yn cael eu dysgu. Y mae y pethau hyn yn dyfod iddynt trwy oleu- ni natur a dysgeidiaeth rheswm; ac mae'n ddiau befyd fod llawer o draddodiadau yn mhlith dynion, pa rai a gawsant eu 16