Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GBEAL. MAWRTH, 1858. Y WLAD WELL. Yr oedd Canaan yn wlad dda odiaeth, —gwlad gyfoethog, doreithiog, a ffrwyth- lawn ; " Gwlad yn llifeirio o laeth a mêl." Yr oedd ei phrydferthion a'i rhagor- îaethau yn lliosog Yr oedd Hawer o bethau yn perthyn iddi ag oedd yn ei gwneyd yn fwy dymunol a rhagorol nag un wlad dan haul. Ei phrif ragoriaeth Îdoedd, ei bod, pan yn nhynihor ei lwyddiant, o dan ymgeledd a bendith neiílduol y Goruchel Dduw. Y mae Canaan, er's oesau, yn hollol wahanoli'r hyn a fu. Y mae'r olwg arni yn alaeth- U8; y mae yn ddiff'rwyth a didrefn ; y tir yn anniwylliedig, y dinasoedd yn adfeiliedig, a'r preswylwyr yn dlodaidd a diddylanwad. Pe baem yn meddwl am Ganaan pan yn ei safle uchelaf, ei chyflwr enwocaf, a'i gogoniant mwyaf, pan yn Uawnaf o ragoriaetbau, nid oedd ddim ond cysgod egwan o'r wlad ag sydd mewn addewid i deulu Duw, ar ol iddynt groesi gulf angeu, a chyrhaedd cyfandir ëang a sefydlog annghyfnewidioldeb. " Gwlad well y maent hwy yn ei chwen- ych, a hòno yn un nefol." Dyma wlad nad oes dim llygredigaeth nac adfeiliad yn perthyn iddi. Y ntae perffeithrwydd dihalog yn addurno ei holl wrthddrych- au ; y mae sefydlogrwydd tragy wyddoi wedi ei gerfio arni; dyma lle mae ded- wyddwch pur yn teyrnasu; bydd y mwynderau yn sylweddol a diderfyn. Gwlad well! gwell na Chanaan, gwell na phob gwlad dan haul. Nis gall fod yn well nag ydyw. Y mae yn berffaith dda. Nis gellir amgyff'red ei gogoniant, na darlunio ei rhugoriaethau. Pan y mae beirdd y byd yn rhoddi eu galluoedd ar waith i gaumol unrhyw beth, y mae tuedd ynddyut i redeg i eithaf'oedd, i ddweyd gormod, ehedant ar eu hadenydd dychymygoi dros der- fynau cywirdeb, i diriogaethau aunghyf- reithlon. Ond pe bai angel yn gosod ei dalent orfawr yn ei chywair goreu i gyf- ausoddi pryddestarogonianiiaua phryd- ferthion y uefoedd, fyddai dim perygl i'r darluniadau fod yn rby gryfion, na'r ganmoliaeth yn ormodol. Nis gellirtynu darlun cywir o ëangder a mawredd y dedwyddwch sydd yn aros y gwaredig- ion yn y byd a ddaw. Y mae iaith ddynol ac angylaidd yn rhy wan; y uiae y drychfeddyliau a'r cymhariaetb.au mwyaf grymus a godidog yn annigonol i ddysgritio y cyílawnder dihysbydd o fwynderau sydd yn gynnwysedig yn yr ymadrodd hwnw, " 'fragywyddol bwys gogoniant." Perthyna llawer o ddiffygion i bob gwlad arall. Os bydd gwlad yn rhagori mewn un petb, bydd rhyw goll yn gyff'- redin yn gyferbyniol i'r rhagoriaeth hwnw. Y mae America yn enwog a chlodfawr mewn llawer o bethau, ond y mae ei chaethwasiaeth yn ei handwyo ; y mae fel cwinwl du yn cysgodi ei dy- íanwad a'i gogoniant, ac yn cuddio ei ihagoriaethau o olwg cenedloedd a theyrnasoedd y byd. Y mae Itali o ran ei hinsawdd, yn iachus ac adfywiol; perthyna Ilawer o fanteision mawrion ìddi, ond y mae yn nodedig o ran ei gorthrwm a'i chaethiwed; gwna byny ei chymmeriad yn isel yn nghyfrif pob dyn rhyddfrydig a goíeuedig. Y mae Uawer o ragoriaethau yn perthyn i Brydain Fawr, a diau ei bod yn uwch ar lawer golygiad nag un wlad dau haul; ond y mae llawer rhwng ein gwlad uî a chyrhaedd perffeithrwydd. Ỳ mae yma lawer o bethau ag sydd yu achosi i'r dosbarth gweithiol deimlu, cwyuo, a grwgnach; y mae y trcthi yn drymion, anghenrheidiau bywyd yn ddrudiou, a'r cytìogau yn lled fycháin, a thrwy byny y mae iniloedd mewn amgylchiadau isel a gwasgedigiawn. Y gwirionedd yw, fod colliadau a diffygion pwysigyn perth- yn i bob gwlad dan haul. Y mae y wlad ureu yn nihell iawn oddiwith ber- ffeithrwydd. Gelwir y nefoedd gydaphriodoldeb yn Wlud well. Dyma wlad nad oes dim ditl'yg yn perthyn iddi. Y mae ei rhag- oriaethau yn gyrlawn a digoll. Y niae'r preswylwyr wrth eu bodd. Y maent yu nofio mewn cefnfor diderfyn o dded- wyddwch. Y mae eu cysuion yn gyf- lawn, a'u dyn uniadaii yn llawn o fwyn- derau pur a sylweddol. " Digoi:olrwydd o lawenydd sydd ger ei fron ef, ac ar ei ddeheulaw y mae digrifwch yn dra- gywyddol." Gwlad ddymunol ydyw y nefoedd. Gwlad well, y wlud oreu niewn bod; nid oes yno un cwmwl du yn attal pelydrau yr haul i sirioli y pres- wylwyr; nid oes yno ddim arwydd tym- hestl yn yr awyrgylch, na chyfuuwidiad