Skip to main content

Y GREAL. IONAWR, 1858. EMMA WYNNE/' NEU Y WYRYF DWYLLEDIG. (PARHAD O RHIFYN RHAGFYR, 1857.) Ond aeth y tymhor hwnw o'r diwedd heibio fel holl dymhorau ereill y ddaear, ac yn nechreu y gwauwyn canlynol yr oedd Emma Ẅynne yn ymharotoi i ddychwelyd eilwaith i'r ysgol, yr hon a adawsai bellach er's hanner blwyddyn, ac aeth ei thad a'i mam i Gaer i'w heb- rwng. Ac yno derbyniwyd hi yn rocs- awgar gan ei hathrawes ddysgedig, a chynnifer o'i chyd-ysgolheigion ag oedd- ynt yno yn treulio y tymhor o'r blaen, a gwnaeth ei hun yn fuan yn hynod hoffus i'r rhai a ddaethent yno yn ei habsennoldeb. Ymroes yn awr gyda mwy o egni nag arferol i íafur ei dysg, a sylwai ei hathrawes mewn llythyr a dderbyniodd y ficer oddi wrthi yn fuan ar ol mynediad Emma yno y tro hwn, ei bod yn meddwl nad oedd yr hanner blwyddyn a dreuliasai Miss Wynne gartref wedi myned yn gwbl ofer, gan ei bod yn gwneyd ymdrechion canmolad- wy i osod pris priodol ar y manteision oedd yn bresennol yn ei meddiant, a'i bod hi (ei meistres) yn gweled arbenig- ion prydferth yn ei chymmeriad nad oedd yn flaenorol wedi dygwydd sylwi arnynt. Gan fod genyf frawd yn myn- ed i'r America tua Chalanmai, yr oedd- wn yn awyddus am fyned i L— i'w heb- rwng; nid oeddwn wedi bod yno ond un waith erioed cyn hyny, sef am un diwrnod pan yn dra ieuanc, felly yr oeddwn yn mawr ddymuno dal ar yr adeg i ymweled â threfy dygid y fath fasnach helaeth yn mlaen ynddi, ac yn yr hoti yr oedd ainryw o'm perthynasau yn byw er's cy.mifer o flynyddau. Yr oeddwu felly yn cymmeryd i'm canlyn ainryw bethau i Enuna Wynne oddi- wrth ei rhieni, megys dillad, ymenyn, &c. A'r noson cyn i mi gychwyn, wele Jane Hughes y Glyn i íawr yma yu gofyn a wnawn i gymmerydllythyr gyda mi i Emma Wynne, gan nad oedd hi yn gwybod y cyfeiriad ati, ac y byddai yn dra diolchgar. Dywedais yn rhwydd y gwnawn; ond drwg-dyhiais yn fuan fod mwy a wnelai Üafydd â'r llythyr hwnw nag oedd a wnelai ei chwaer, a phan gyrhaeddais Gaer, ac y cefais af'ael ar ! Eiuma wrthi ei hun, rhoddais ef yn ei I llaw ; edrychodd arno a gwridodd ych- ydig, yna tarawodd efyn ei mynwes yn i frysiog, yrhyn a gryfhaodd fy ammheu- on yn fwy drachefn. Ond ni ddywedais air am hyny wrthi ar y pryd, gan nad ystyriwn f'od a fynwn âtheimladau tyner ieuen^tyd tuag at eu gilydd, er fy mod yn gwybod mwy am Dafydd y Glyn nag | a wyddai Emma; eto, nid oeddwn yn teimlo ryw foddfod dim a'm cyfiawnhaäi j yn ngosodiad fy hun yn gyfryngydd yn yr achos. Ac heblaw hyny, yr oedd ( genyf gryn hyder yn synwyr da Emma ei hun, yn nghyda'r wers effeifhiol yr oedd mor ddiweddar wedi ei derbyn yn 'symmudiad disymwth Arthur Mac Greg- or. Nid oedd genyf ond ychydig oriau i aros yn y ddinas y pryd hwnw, ond addewais y buaswn yn galw gyda hi eilwaith yr wythnos ganlynol wrth ddychwelyd, a phan y gwnaethum felly, cefais hi yn bryderus ddysgwyl am danaf. Yr oeddwn yn deall fod arni ychydig hiraeth, a rhoes ei hathrawes awgrym tyner i mi yn ei gwydd ei bod yn ofni ei bod wedi gadael rhyw un yn Nghym- ru ar ei hol yr oedd yn meddwl yn uchel iawn am dano. Cafodd ganiatâd i ddyfod gyda mi trwy y ddinas i roddi tro, cymmerai gryn ddyddordeb yn dangos y naill beth a'r llall a ystyriai yn deilwng o sylw, soniai am un ac arall yn amgylchoedd ei chartref; meddyliwn ei bod yn ceisio arwain yr ymddyddan i droi yn rhyw le o gylch David Hughes y Glyn, ond ei bod yn methu tori drwodd ; anfonodd ei chofion serchog at ei pherthynasau a'i chyfeillion yn ei hen ardal, gan awgrymu y mynai eu gweled cyn hir, ac yna ymadawsom. Nid oes genyf nemawr o nodiadau ychwanegol i'w gwneyd ar dymhor ei harosiad yn yr ysgol, ond daeth hwnw i ben fel pob tymhor arall, a daeth hithau adref tua Chalangauaf. Pan y dychwelodd adref y tro hwn, yr oedd amser byr *wedi gwneyd cryn gyfnewidiad arni; ystyr- iem hi yn lied dal o'i hoed, yr oedd fTurf ei chorph yn lluniaidd, oná yn tueddu at fod yn ysgafn, gwên yn eistedd ar ei grudd y fomeiit hon, ond prudd-der neu eil-liw o hono wedi cymmeryd ei le y foment nesaf. Yr oedd rhyw swyn hynod yn ei llais pan yniollyngai i siar- ad yn naturiol mewn cyfeillacn wrth ei bodd, ac hynodid ei hymddyddauion