Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. HYDREF, 1891. MODDION GRAS. GAN Y PARCH. D. POWBLL, LERPWL, BETH sydd mewn enw? Ymddibyna yr atebiad ar ofyniad arall, lieth sydd yn y llygad i weled ? Gall fod Uawer mewn enw ond cael gallu i'w ganfod. Heb allu nid oes ynddo fwy i ddyn nag i anifail. Gellir dysgu anifail i wahaniaethu gwrth- ddrychau drwy offérynoliaeth enwau, yr hyn sydd yn gyfartal i wybodaeth Uawer dyn am danynt. Pan ystyrir y gellir dysgu adar i acenu enwau, ceir cyfateb- iaeth perffaith yn y peth hwn rhwng Uawer dyn â chreaduriaid direswm. Nid yw enwau arwyddocâol i'r difeddwl yn ddim amgen na nodau i wahaniaethu gwrthddrychau. Gwasanaethant amcan defnyddiol, mae yn wir, ond nid ydynt yn fwy arwyddocâol na nodau ar ddefaid. Dyna hen enwau arwyddocâol, darlun- iadol, rhamantus, a barddonol dyffrynoedd, cymoedd a glynoedd, mynyddau, bryniau, a bonciau, afonydd, nentydd, a llynoedd, palasau, ffermydd, a thyddynod Cymru, beth ydynt i'r lliaws heblaw enwau gweigion yn gwasanaethu fel nodau gwa- haniaethol? Iddynt hwy nid oes gwahan- iaeth rhwng arwyddocâd "Bron Haul" Vr "Gilfach Dywyll," "Basnant" a "Dyfnant," "Llyngwyn" a "Llyndu," "Moelgwyn" a "Moelas," "Trefriw" a "Treddol," heb son am enwau o arwydd- ocftd anhawddach. Mater o enwau yw y cwbl. Heb lygaid i weled anian, ac yn «ldall i ganfod neillduolion, nid oes dim iddynt hwy yn ddarluniadol yn yr enwau hodweddiadol. Y fath gyfoeth o hanes- yddiaeth, rhamantyddiaeth, arluniaeth, a barddoniaeth a orwedd yn mynwes hen enwau na welir mo hono gan hurtwch an- yatyriol, er y gwthia ei hun i'r golwg fel iiwnau y mynyddoedd! Bu cin tadau 37 yn llusgo allan eu bywydau mewn cyni ar hyd llechweddau, bryniau, a mynydd- oedd annghroesawgar, tra yn damsang dan eu traed yn anystyriol a dall gyfoeth annherfynol. Nid mor annhebyg yw llawer o'u plant gyda chyfoeth meddyliol a Hênyddol hen enwau. Mewn amser cyll enwau eu harwyddocâd neillduol i'r werin. Cyfyngir eu hystyron i'r dysged- ig a'r cywrain. Dirywiant drwy arferiad, a gwagheir hwynt o'u neillduolion. Gwna deddf dadblygiad iaith y dirywiad hwn yn anocheladwy mewn Uiaws o engreifftiau, fel y gwelir mewn enwau priodol nodweddiadol yn dyfod yn enwau cyffredin. Nid yw termau crefyddol, yn fwy na thermau ereill, yn ddiogel rhag y dirywind hwn. Ni fyddai achos cwyno yn ngwyneb y dirywiad pe y cyfoethogid iaith â syniadaeth crefyddol mewn can- lyniad, o herwydd byddai yr ennill yn gorbwyso y golled. Mewn llawer achos nid felly y mae. Nid oes dim ond colled yn ngwyneb y dirywiad. Pan y cyll rhai termau eu harwyddocâd neillduol, derfydd eu gwerth, a gwell fyddai eu claddu yn barchus na llurgunio eu burgunod. Defn- yddir yn ystrydebol mewn pregethau, areithiau, a gweddiau, hen eiriau a brawddegau cyssegredig, heb i'r rhai a'u defnyddiant wybod eu harwyddocâd, yn fwy na ŵyr ceryg beddau arwyddocâd yr argraffiadau sydd arnynt. Ond tra mai bendith i geryg beddau y mynwentydd yw anwybodaeth o'r truthiau disynwyr ac anwireddus a'u hanurddant, colled i'r ceryg beddau crefyddol yw claddu mewn anfeddylgarwch ystyron eu termau a'u brawddegau cyfoethog. Gwasanactha rhai brodyr yr un dyben a'r phonograph;