Skip to main content

Y GREAL. EBRILL, 1879. OYDWYBOD GAN Y PAROH. W. JONES, EBBW VALE. PENNOD I. Cydwybod, fel y cawn sylwi wrth fyned yn mlaen, yw y gynneddf hòno o eiddo'r meddwl sydd yn ymwneyd âg ansawdd foesol gweithredoedd, a thrwy yr hon yr ydym yn teimlo yn ddymunol fteu yn annlymunol o ethryb i weithred- Oedd, ac yn cyfiawnhau neu yn condemnio gweithredoedd. Yn y pennodau y bwriadwn ddwyn i Sylw y darllenydd, nid ydys yn golygu traethu pob peth a allesid ar y pwnc fwysig a dyddorol dan sylw: cyfyngwn ein sylwadau i ychydig bwyntiau fyddo yn tueddu at fod yn ymarferol, er dwyn sgwyddorion mawrion athroniaeth foesol *t feddwl y darllenydd, er ei les yn ogystal ag er ei adeiladaeth ddeallol. Yn y bennod hon rhoddwn ystyr- *aeth i fodolaeth a natur cydwybod. 1. Ymae bodolaeth y fath gynneddf yn jfaith eithaf amlwg i bob meddwl goleuedig • diragfarn. Cydnabyddir mewn rhyw ddull ei bodolaeth yn gyffredinol yn fcahlith dynion. Y mae dynion yn gyff- 'edinol, yn mhob oes a gwlad, yn meddu *hyw syniad am wahaniaeth moesol,— &m uniawn a chyfeiliornus, am rinwedd a drygioni. Os yw dynion yn gyffredinol Jn siarad am wahaniaeth moesol, rhaid fod dynion yn gyffredinol yn meddu ar ryw allu trwy yr hwn y gwnant wahan- iaeth rhwng y naill beth a'r llall mewn moesau ; ac os addefir bodolaeth y gallu hwn, addefir ar unwaith fodolaeth cyd- Wybod. Y mae rhai yn ceisio cau allan fodolaeth cydwybod o'u damcaniaeth (theoryj, yn ogystal a bodolaeth Duw; eto addefir ei bodolaeth gan y cyfryw yn eu hymarferiadau. Nis gall y rhai sydd 10 yn gwadu bodolaeth cydwybod, lai na chydnabod mewn rhyw wedd wahaniaeth moesol. Ystyriant yn anocheladwy un weithred yn ddrwg, a gweithred arall yn dda. Felly yn eu hymarferiadau cyff- redin, cydnabyddant fodolaeth rhyw allu ynddynt eu hunain sydd yn gwneyd gwahaniaeth moesol, yr hwn allu a elwir genym yn gydwybod. Nid yw fod dynion yn amrywio yn eu syniad o barthed i'r hyn sydd dda neu yr hyn sydd ddrwg, yn brawf o gwbl yn erbyn bodolaeth cydwybod, y mae yn hytrach yn brawf cryf dros ei bodolaeth. Dengys fod gan ddynion ryw allu trwy yr hwn y gwnant wahaniaeth moesol, er nad yw y gallu hwnw yn gweithredu yn unffurf yn mhawb. A gweithrediad y gynneddf y mae a fyno yr wrthddadl hon, ac nid â'i bodolaeth. Nid oes a fynom â'i gweithrediad yn awr; ein pwynt yw profi ei bodolaeth yn unig. Os oes gan ddynion allu neu gynneddf ag sydd yn ymwneyd â gwahaniaeth moesol, ac yn eu harwain i gymmeradwyo un peth, ac i annghymmeradwyo peth arall, pa un a fyddo yn annghymmeradwyo yn briodol ai peidio, y mae bodolaeth yr hyn a elwir cydwybod yn eithaf amlwg. Y mae ei gweithrediadau, fel eiddo y synwyrau corphorol, yn dibynu ar amgylchiadau, ac yn ol y manteision o dan ba rai y byddo yn gweithredu. Nis gall y llygad weith- redu i sicrwydd mewn goleuni gwanaidd; felly nis gellir dysgwyl i gydwybod y pagan weithredu mor gywir ag eiddo dynion diwylliedig, y rhai fyddo wedi mwynhau manteision gwybodaeth, a gol- euni y dadguddiad Dwyfol; ond y mae