Skip to main content

Y GREAL. CHWEFROR, 1879. YR ENW JEHOFAH '* Myfl yw Jehofah."—Ecsod. vi. 2. GAN Y PARCH. wTwiLLIAMS, GARTH. Jehopah sydd air Hebraeg ( Yehovah) &nnghyfieithiedig, yr hwn, lle dygwydd yn y Beibl, sydd weithiau wedi ei adael gan ein cyfieithwyr ni, yn mhlith ereill, yn ei wisg Hebreig, ond yn fynychaf yr enw Arglwydd mewn prif lythyrenau sydd ■Wedi ei ddodi yn ei le ganddynt. Jehofah yw enw mwyaf Duw, yr hwn ni pherthyn i neb ond iddo ef yn unig; gan hyny, y öiae dodi yn ei le yr enw Arglwydd, yr hwn a gymhwysir at angylion a dynion, ■wedi peri annghyfleusdra annymunol. Ymddengys mai yr hyn a arweiniodd i'r camsyniad hwn oedd parch ofergoelus yr luddewon tuag at yr enw, fel y dengys tystiolaethau haneswyr, y rhai a ddy wed- ant, yn mhlith pethau ereill, i'r Iuddewon ar ol y caethgludiad, o barch i'r enw, ochelyd ei grybwyll, fel y bu iddynt golli ei sain lafaredig,—ysgrifenu yr enw yn cu Beiblau mewn llythyrenau Samaraidd yn lle y Galdaeg gyffredin, neu yr Heb- taeg, i'r dyben o'i lên-guddio oddiwrth estroniaid. Haerai yr Iuddewon hefyd fod y neb a grybwylla yr enw wrth hyny yn ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, ac yn cynhyrfu yr angylion gan fraw. Felly, darfu i'r Deg a Thrigain, tra o dan ddy- lanwad yr un ofergoeledd fel na fynent yngan yr enw, ochelyd ei gyfieithu, ond gosod yn ei le yr enw Arglwydd; bu iddynt hwy gael eu hefelychu yn hyn, a dyma yr achos ein bod ni yn aml wrth ddarllen ein Beibl yn cyfarfod â'r enw Arglwydd lle y saif am Jehofah. Gwnawn dri chrybwylliad o berthynas i'r enw Jehofah. I. Arwyddocad yr enw. Ymddengys fod yr enw Jehofah yn dynodi bodolaetb a gweithrediad Duw yn ei nodweddau gwahaniaethol, anghyfranogol, ac ang- hymharol, tra yn arwyddo hunanhanfod- iad anharddiadol, annibynol, anghyf- newidiol, a thragywyddol mewn moddau gweithredol, ac wrth hyny yn arwyddo ei fod ef yn hanfodi yn ddiddechreu, ac yn ddechreuad pob peth; yn bodoli heb achos iddo, ac yn achos pob bodolaeth; yn annibynol, ac yn cynnal pob peth yn ddiddiwedd, a pharhad pob peth yn di- bynu arno. Y mae Ecsod. iii. 14. yn dangos ei fod ef, a'r fath un ydyw, a'i fod y fath ag na ellir ei gymharu â neb ond âg ef ei hun, " Ydwyf yr hwn ydwyf." Am ei fod yr hwn ydyw, efe a all wneyd yr hyn a fyno. Y mae y rhesymau am ei holl -weithredoedd ynddo ei hunan, ac arwydd Jehofah—Ydwyf, ei fod yn gweithredu yn ol y rhesymau hyny yn ei berthynas â'r gorphenol, y presennol, a'r dyfodol, ac felly ei fod ef yn hollbresen- nol a thragywyddol yn ei weithrediadau yn ogystal a'i hanfod. Mor gyfoethog a mawreddog yw yr enw Jehofah, fel na pherthyn iddo derfynau mewn un ystyr, ond sydd mewn un hanfod mewn gwahanol agweddau "yn Dduw o dragy- wyddoldeb hyd dragywyddoldeb." (Salm xc. 2. Dad. i. 18.) Yr ydym yn golygu nad ydyw gweithrediadau neu briodoleddau yr hanfod ond gwahanol enwau ar yr un peth, sef yr hanfod ei hun mewn gwa- hanol agweddau neu foddau, neu yn amlygu ei hun mewn gweithrediadau i gyfarfod â gwahanol amgylchiadau, yn debyg fel mai y goleuni ei hun yw y gwahanol liwiau a welir yn yr enfys, yn cael ei ddangos gan y gwrthddrychau ag