Skip to main content

Y GREAL. HYDREF, 1878. SABBATH Y OREWR YN EI BERTHYNAS A CHWE' DIWRN/OD Y GREADIGAETH. GAN Y PAROH. E. ROBERTS, PONTYPRIDD. "Feixy y gorphenwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt. Ac ar y seithfed dydd y gorphenodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a or- phwysodd ar y seithfed dydd, oddiwrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe. A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i santeiddiodd ef: oblegyd ynddo y gor- phwysasai oddiwrth ei holl waith, yr hwn a greàsai Duw i'w wneuthur." Hwn yw y cofnodiad a roddir o Sabbath y Crewr, yn yr hwn y dariunir y Sabbath fel gorphwysiad Duw, ac fel wedi ei santeiddio neu ei neillduo ganddo i ddy- ben pennodol, o herwydd iddo ef orphwys arno. Yn ol y cofnodiad hwn, rhoddodd diwedd y chwe' diwrnod derfyn ar waith y greadigaeth, a elwir yn briodol felly, yn gystal ag ar y gwaith o ddwyn y pethau a grëwyd i drefn. Pa beth bynag a ddywed y Dadguddiad ara Dduw ar ol hyn, a pha weithredoedd bynag a briod- ola i Dduw, ni ddywed yn un man iddo ddwyn ua byd. na chreadur newydd i fodolaeth. Nid yw gwyddiant yn gwrthddywedyd yr Ysgrythyr yn hyn. Er holl ymdrech- ion anffyddwyr, pleidwyr ymddadblyg- iaeth (evolutionists), a detholiad naturiol, i brofi y gwrthwyneb, ni ddygwyd un prawf ganddynt o un creadur newydd wedi ymddangos am y tro cyntaf ar ol ymddangosiad dyn. Cyfeiria yr holl brawfion daearegol a hynafiaethol ato ef fel y diweddaf o greaduriaid. Gwir nas gall y rhai a gredant mewn ymddadblyg- iad (evolution) parhaol i anifeiliaid a dynion, roddi un terfyniad gweithredol i'r mudiad creadigol ar ddygiad dyn i'r 28 byd; er hyny, gwelant hwy fod ym- ddangosiad bôd deallol a moesol wedi newid natur a threfn y gweithrediadau. Nis gallant ychwaith wadu mai dyn yw olafanedig natur, ac fod adeilad yr holl greadigaeth anifeilaidd yn cael ei choroni ynddo ef fel ei phrif faen a'i phinacl uwchaf. Mor belled, cytuna llyfr natur â llyfr Dadguddiad; -ac mae eu cytundeb yn myned yn mhell i brofi mai yr un awdwr sydd i'r ddau. Ond cánfyddir cytundeb rh'wng eu tystiolaeth am gyflwr pethau yn flaenorol i ymddangosiad dyn. Cyd-dystia y ddau i'r ffaith fawr fod dechreuad i bob peth, fod adeg wedi bod pan nad oedd dim o wahanol ranau adeil- ad y Bydysawd yn bodoli, pan oedd y gofod yn cael ei breswylio gan yr Hunan- fodol yn unig. Nid oes eisieu i ni aros i brofi mai hyn yw addysg yr Ysgrythyr. Gallîoà philosopài a gamenwir felly yn. gwadu hyn. Casgla y defnyddiawdr (materialist) oddiwrth sefydlogrwydd tybiedig pethau natúriol, a'u llywodraeth gan ddeddfau diẁyrni, y rhaid fod defn- ydd (matter) yn dragywyddol. Ond dywed gwyddiant, yn enwedig gwyddiant daearegol, na, mewn ateb i'w syniadau, a haera gyda sicrwydd nad yw defnydd, yn ei ffurf bresennol yn dragywyddol. Mae hwn o darddiad cymharol ddiweddar, a blaenorwyd ef gan drefniadáu gwahanol. Gellir olrhain pob rhy wogaeth o greadur- iaid yn ol i amser pryd nad oeddynt; felly hefyd y gellir olrhain cyfandiroedd presennol y ddaear, ei mynyddoedd a'i moroedd. Ond dan lygaid yr ymchwil- iaeth hon, diflana y presennol megys breuddwyd, a glanir ni ar draethellau