Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. AWST, 1878. aOLWG AR FFEITHIAU DAEAREaOL YN EU CYSSYLLTIAD A'R BEIBL. GAN Y PARCH. B. HUGHES, MAESTEG. PENNOD I. En mai prif amcan y Beibl ydyw hys- bysu ewyllys Duw i fyâ colledig, eto cyffyrdda mewn rhai manau â thiriog- aethau y gwyddonau cydnabyddol. Myn rhai efrydwyr gwrth-feiblaidd fod y Beibl yn y lleoedd hyny yn llefaru yn wrth- athronyddol, yn enwedig yn ei gyssylltiad â daeareg, ac fod ei dystiolaethau yn cael eu gwrthbrofi gan y wyddiant hòno. Darogenir cwymp a dinystr y Beibl gan rai o'r dosbarth hwn ar ymddangosiad pob gwyddiant ddiweddar, a chenir cloch ei angladd a'i gladdedigaeth yn mynwent- ydd y creigiau. Ymdrechir gwneyd Goliath o bob gwyddiant newydd i herio Beibl Duw i'r maes. Ar amserau ereill llusgant y naill wyddoreg ar ol y llall i chwil-lys rhagfarn, gosodant hwynt o dan ysgriwiau a phwysau dirdynol, gan eu dadgymmalu a dryllio eu hesgyrn, er mwyn tynu oddi wrthynt ryw fath o dystiolaeth wrthdrawiadol i'r dadgudd- iad Dwyfol. O'r ochr arall, mae rhai efrydwyr Beiblaidd yn mhlith ein pobl grefyddol a duwiol wedi ofni y gwyddon- au, wedi gwrthod eu tystiolaethau, ac wedi cyfrif eu coleddwyr yn elynion i'r Beibl. Cymmerant yn ganiatâol fod tystiolaethau gwyddonol yn gwrthddy- wedyd dysgeidiaeth y dadguddiad Dwy- fol, pan mewn gwirionedd mai ar eu golygiadau camsyniol hwy o'r Beibl yn unig yr effeithiant. Y mae ystori y Brahmin, er ei bod yn hen, eto y mae yn ddigon priodol i'w dyfynu yn y cyssyllt- iad hwn. Dywedir iddo ddistrywio y tnicroscope, am iddo weled wrth edrych 22 drwyddo fod creaduriaid byw yn bodoli yn y dwfr a yfai, ac yn yr ymborth a fwytâi efe o hono. Ŵrth edrych drwy chwydd-ddrychau y gwyddonau, ceir golwg digoii annymunol yn aml ar lawer o syniadau a fuont ryw bryd yn anwyl iawn genym. Fel hyn y trodd pethau allan pan gyhoeddodd Galileo ddargan- fyddiad Copernicus, mai y ddaear, ac nid yr haul, sydd yn troi i wneyd dydd a nos. Meddylid gan bobl yr oesoedd boreuol fod y Beibl yn dysgu modd arall, ac o herwydd hyny gorfodwyd Galileo i alw yn ol y ddamcaniaeth a sicrhawyd ganddo yn flaenoról. Bygythiwyd ef â chosb drom os gwrthodai dynu yn ol yr hyn a gyhoeddwyd ganddo fel gwirionedd an- ianyddol. Er i'r bygythiad lwyddo i beri i Galileo i wadu'r'gwirionedd, eto ni lwyddodd i rwystro i'r ddaear i droi, nac i attal y gwirionedd i gael ei gredu; canys credir ef gan filoedd o hyny hyd yn awr, ac ni wel yr ystyriol y dyddiau presennol fod dim ynddo yn annghysson â'r Beibl. Yn y blynyddoedd diweddaf, pan ddaeth pwyllwyddoreg (phrenology) yn boblog, credid gan lawer ei bodyn elynol i'r Beibl. Haerid hyny gan anffydd- wyr, ac ofnid hyny gan lawer o ddynion crefyddol a duwiol. Credid fod y wydd- iant newydd yn tueddu i ddinystrio syniad y Beibl o Dduw mewn Rhaglun- iaeth, o herwydd yr haerid gan ei phleid- wyr fod tynged pob dyn yn cael ei benderfynu yn benaf gan y cnwciau (bumpsj a ddygwyddo fod yn y benglog. Ond mae'r wyddiant hon er's dyddia»u