Skip to main content

y GBEAL EBRILL, 1878. TRAMGWYDD Y GROES. GAN Y PAROH. J. R, MORGAN, (LLEÜRWG,) LLANELLI. " Yn wir tynwyd ymaith dramgwydd y groes.*'—Gal. v. 11. Fe allai mai Paul oedd y cyntaf i bregethu yr efengyl ac i blanu eglwysi Cristionogol yn nhalaeth Galatia. Ni wyddis pa bryd y cymmerodd hyn le, ond ymddengys i weinidogaeth yr apostol yn íûhlith y Galatiaid fod yn hynod lwydd- iannus. Er ei fod yn gweinidogaethu o jìan bwys rhyw wendid ac anhwyldeb Corphorol blin, eto croesâwyd ef ganddynt &r y cyntaf fel " angel Duw," a derbyn- ìasant ei genadwri gyda y parodrwydd a'r brwdfrydedd mwyaf. Nid hir, ar ol i eglwysi Cristionogol gael eu sefydlu yn Galatia y bu athrawon gau cyn ymweled â hwynt. Cymmerai y personau hyn ar- nynt fod yn Gristionogion, ac ar yr un pryd ceisient hudo y Galatiaid i gredu ẅìai rhaid oedd iddynt, mewn trefn i fod yn gadwedig, gymmeryd eu henwaedu, ac ymostwng i drefniadau cyfraith serem- oniol Moses. Gan fod yr athrawiaeth ÿma yn hollol groes i'r efengyl, yn ol fel y cafodd ei phregethu a'i chadarnhau drwy wyrthiau, gan yr apostol yn mhlith ÿ Galatiaid, gwnelai y gau athrawon eu goreu i ddifodi eu ffydd yn, a'u serch at eu tad ysbrydol. Awgryment nad ydoedd Paul, ýn ystyr briodol y gair, yn apostol, ond yn unig pregethwr cyffredin wedi dyfod allan oddiwrth yr eglwys yn Jeru- Salem, neu Antioch; nad ydoedd yn gys- son yn ei ddysgeidiaeth o berthynas i'r enẃaediad; ei fod wedi rhoddi fyny y golygiadau a goleddid unwaith ganddo ; a'i fod yn awr yn dysgu yr anghenrheid- íwydd hyd y nod i gredinwyr cenedlig ymostwng i ddefodau eyfraith Moses. Ymddengys i heresi y gau athrawon hyn fod yn dra llwyddiannus yn eglwysi 10 Galatia. Achlysurodd hyn i'r apostol ysgrifenu llythyr atynt, gyda'r amcan i osod attalfa ar y gwrthgiliad, eu dychwel* yd at symledd a phurdeb yr athrawiaeth o gyfiawnhad pechadur drwy ffydd yn Nghrist Iesu; ac hefyd er amddiffyn ei gymmeriad ei hunan yn ngwyneb dirmyg a chamddarluniadau ei wrthwynebwyr. Yn y llythyr hwn dengys Paul ar un llaw, na fu sefydliad Moses yn ei rym a'i ddylanwad mwyaf, erioed yn alluog i gyf- iawnhau cymmaint ag un pechadur ger bron Duw, na chafodd erioed ei fwriadu i hyny, ei fod wedi cael ei lwyr a'i fythol ddiddymu, ac nad ydy w dysgwyl derbyn y ffafr Ddwyfol drwy ymlynu wrtho yn ddim ond oferedd a hunandwyll. Ac, ar y llaw arall, os oedd efe, fel yr haerai yr athrawon gau, yn pregethu yr enwaediad ac ymostyngiad i seremoniau sefydliad Moses yn bethau anghenrheidiol er iach- awdwriaeth, gofyna yr apostol paham yr oeddynt yn dysgu y bobl mwyach i edrych arno ef yn gyfeiliornwr ac yn dwyllwr ì " A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir eto ? yn wir tynwyä ymaith dramgwydd y groes." Y mae yma amryw bethau yn cael eu cyflwyno i sylw :— I. Y groes. Wrth " y groes " yma y mae deall, nid y pren y trengodd Arglwydd y bywyd arno. Ni fyddem well o feddianntt hwnw. Nis gallai ein gwneuthur yu ddoeth nac yn ddedwydd. Pe teflid ef i ddyfroedd chwerwon cystudd a galar( nis gallasai eu hiachâu a'u pereiddio. Pe yn bossibl, yn ol y chwedl am Elen God- ebog, cael o hyd i'r pren y bu Crist farw arno, y mae yn wir nas gallem lai m