Skip to main content

Y GEEAL. MAWRTH, 1878. YMADAWIAD CRIST YN ENNILL I'R SAINT YN Y DDAUJFYD. GAN Y PARCH. I. THOMAS, CAERSALEM NEWYDD. Yr oedd amlygiad Iesu o'i fwriad i ymadael yn achlysur o dristwch dirfawr i'w ganlynwyr. Yr oedd yr apostolion wedi cael manteision mawrion yn ei gym- deithas, manteision y byddai yn dda gan lawer pe buasent wedi eu cael. Mae Uuoedd o bererinion yn flynyddol yn gwneyd aberthau mawrion mewn trefn i weled y lleoedd y bu Iesu ynddynt, ond er mór werthfawr ydyw golwg ar y lleoedd eu hunain, annhraethol fwy gwerthfawr fyddai gweled yr hwn a osododd anrhyd- edd tragywyddol arnynt. Pwy Gristion Sydd heb fod yn barod i ddywedyd ar amserau, " O na buaswn yn byw yn Hgwlad yr addewid pan oedd Iesu o îíazareth yn un o'i phreswylwyr, i gael gweled Duw wedi ymddangos yn y cnawd, i fod yn dyst o'i ogoniant yn pelydru yn y gwyrthiau o allu a thrugar- edd a gyflawnodd, ac eistedd wrth ei draed pan y traddododd ' fel un ag awd- ürdod ganddo' ei bregeth ar y mynydd, yr hon sydd i eglwys Dduw yn drysorfa anhysbyddadwy o'r cyfoeth gwerthfawr- ocaf. O na buaswn yn yr ormwchystafell pan y llefarodd y rhan hòno o'r gwirion- edd Dwyfol a gofnodir yn efengyl Ioan, (pen. xiii.—xvii.) yr hon yn dra phriodol a elwir gan un awdwr yn " gyssegr sant- eiddiolaf yr hanes efengylaidd ;" a cher- llaw'r groes pan y llefarodd y gair " Gorphenwyd," gair a lanwodd uffern â siomedigaeth, gwarth, a dychryn, a lan- wodd y ddaear â gobaith, ac a daflcjdd fywyd newydd i foliant y nef; a chyda'r dysgyblion pan y dywedodd Iesu " Tang- Hefedd i chwi," yr "anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân;" (Ioan xx. 21, 22.) ond nis gall y fath ddymuniadau ag a nodwyd gael eu sylweddoli genym ni. Mae Crist o ran ei bresennoldeb corphorol wedi ymadael; ond cyn ei ymadawiad, rhodd- odd Iesu ddefnydd cysur i'w ddysgybüon trwy alw eu sylw at y manteision cys- sylltiedig â'i ymadawiad. 1. Hysbysodd hwynt y byddai ei ymadaw- iad ynfantais iddo ef ei hun. " Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad ; canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi." (Ioan xiv. 28.) Mae cariad yn llawenhau yn nyrchafiad a dedwyddwch ei wrthddrych. Yr oedd Iesu ar y ddaear mewn agwedd gwas, ond yr oedd ei ddyrchafiad at y Tad yn ddyrchafiad i feddiant o'r gogoniant oedd iddo ef gyda'r Tad cyn bod y byd ; (Ioan xvii. 5.) yn ddyrchafiad i fwynhau gwobr ei lafur personol ar y ddaear. Pan y mae perthynasau a chyfeillion yn ymadael i wlad arall, a hyny er mantais iddynt, mae'r llawenydd sydd yn aros y cyfryw yn gyfaddasol i leddfu tristwch y rhai sydd ar ol. 2. Hysbysodd Iesu y byddai ei ymadaw- iad ef 'yn fantais i'r dysgyblion en hunain ae i'r eglwys Gristionogol yn gyffredinol. " Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith." Anhawdd oedd deall y geiriau " Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith," ar yr adeg y llefarwyd hwynt. Pa fodd y gallai ymadawiad y fath berson fod yn fanteisiol i'w ganlynwyr? Yr oedd Iesu wedi cerdded oddi amgylch gan wneuthur daioni, yr oedd ei eiriau yn oleuni i'r dall, yn falm i'r archolledig, ac yn fywyd i'r marw. Yr oedd ei esiampl yn gynllun bywyd, ac yn gymhelliad cryf i deithio'r ffordd i'r nef. Yr^oedd wedi profi ei hun