Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IONAWR, 1878. Y BEDYDDWYR YN EU SYMLRWYDD A'U MANYLRWYDD YN CADW AT EGWYDDORION AC YMARFERIADAU CREPYDD EIN HARGLWYDD IESU GRIST. GAN Y PARCH. B. EYANS, CASTELLNEDD. "I haâ intended, in my closing remarfcs, to show that the Baptists as a body, in all ages and countries, have literally adhered to the grand primordial principle of all churches in Christendom, national or dissenting............All must admit that they conform to the great law of baptism, and that in their peculiar requirements of their communicants they adhere to the letter of' the Scriptures, and are consistent with themselves."—Biìnedict's Hist. of the Bapt. Pref. p. v. "Among all the absurdities that were ever held, none ever maintained that, that any person should partake of the commnnion before he was baptized."—Dr. Wall's Hist. of Infant Bapt., Part II., chap. ix. Y Bedyddwyii. Mae Uawer iawn o gamddeall, ac o ganlyniad Uawer o gam- ddweyd a chamysgrifenu wedi bod, ac yn bod, o barthed i'r blaid neu y sect hon, neu mewn geiriau adnabyddus ereill, y Cristionogion hyn. Pa un byrìag, ai o fodd neu o anfodd y mae y camddeall- twriaeth hwn wedi ac yn cael ei achosi, nid yw yn bwnc i ni yn bresennol i'w ol- rhain; ond rhaid dweyd ar unwaith fod dau beth, o leiaf, wedi ei achosi, sef, yn gyntaf, na ddarfu i'r sect hon o amser eu bodolaeth yn nhŷ ardrethol Paul yn Rhufain, (Act. xxviü. 22—31.) hyd y ddwy ganrif ddiweddaf, beth bynag, ysgrifenu a chofrestru eu hanes eu hunain yn eu gwahanol leoedd, yn eu gwahanol amgylchiadau, trwy yr holl oesau hyn. Ac os bu iddynt ysgrifenu rhyw ddarnau o'u hanes, mor wir ag iddynt hwy eu hiinain gael eu herlid, eu distrywio, a'u Hosgi, mor wir a hyny difethwyd a llosg- Wyd eu hysgrifeniadau. Heblaw hyn, os cadwyd rhyw weddillion o'u hysgrifau, aethant oll i ddwylaw, a thrwy ddwy- law eu gelynicn, er gosod eu lliwiau hwynt arnynt, ac felly i wneyd y defnydd a fynent o honynt. Yn ail, ynte, trwy gyfryngwriaeth gwrthwyneb- Wyr a gelynion y Bedyddwyr y mae eu han.es wedi ei drosglwyddo i lawr o'r oesau boreuol, y canol oesau, a'r oesau tywyll, hyd yn ddiweddar. Yn hyn gall y Bedyddwyr, bob dydd o'r flwyddyn, herio eu gwrthwynebwyr yn ngeiriau Moses, " A bydded ein gelynion yn farn- wyr." Er hyny, hyd y nod yn nghanol Uaid cymmysglyd yr haneswyr Pabyddol, ac enwadau gwrthwynebol ereill, y mae y Bedyddwyr wedi cael gafael yn y perlau mwyaf gwerthfawr yn eu hanes, ag ydynt yn eu meddiant y dyddiau hyn. Gofyn- wyd cyn hyn i fachgenyn ag oedd wedi curo ei gydfachgenyn yn dost, " Paham y curaist dy gydchwareuwr ?" a'r ateb oedd, " Paham yr oedd efe ynte yn gwneyd fel a'r fel, a fel a'r fel â mi." Felly caf- wyd gwybod, mewn rhan, beth oedd y gwr bach wedi ei wneyd allan o le yn ngolwg y curwr. Nid oes eisieu hysbysu y rhai ag ydynt yn gwybod hyd y nod ond ychydig yn arwynebol am hanesiaeth eglwysig, fod y Bedyddwyr wedi cael eu curo yn ddidru- garedd gan y rhaia elwir yn gyd-Grist- ionogion iddynt, trwy fenthyca y gallu gwladol yn eu herbyn, er eu herlid o fan i fan, eu carcharu, eu boddi, eu llosgi, a'u lladd yn mhob rhy w ddull a modd; ac wrth ofyn paham y maent wedi cael éu trin a'u trafod felly, y mae eu curwyr wedi dyfod allan yn eu hanesion i ddweyd