Skip to main content

Y GREAL. MEDI, 1877. Y DDEWINES O ENDOR GA.N Y PARCH. O. WALDO JAMES, ABERAFON. (1 Sam. xxviii. 7—20.) "Welb hanes rhyfedd! darllener ef. Saif ar ei ben ei hun yn mysg holl hanes- ìon y Beibl. Nid oes un paragraff yn holl lyfrau y Testamentau yn gyffelyb ìddo. Nid yn unig y mae yn perthyn ìddo unigolrwydd fel darn hanesyddol, ond y mae hefyd ynhynod o anhawdd i'w ddehongli. Teimlwn anhawsder mawr ì'w gyssoni â rhanau ereill o'r Beibl, ac nid ar unwaith y gellir amgyffred y íheswm paham y dodwyd y fath hanes yn y llyfr o gwbl; ond y mae y ffaith ei fod wedi cael lle ar y tudalenau cyssegr- edig, yn rheswm digonol dros geisio ffurfio barn bwyllog, gywir, a sefydlog am dano. Wrth edrych i'r Esboniadau, gwelir fod eu hysgrifenwyr oll yn cydnabod yr an- hawsderau, eto yn amrywio yn ddirfawr yn eu ffyrdd i'w symmud ymaith. Cyf- rifant am y golygfeydd a'r dywediadau drwy resymau hollol wrthdarawol, a cheir cryn wahaniaeth hefyd yn nghryfder yr ategion a ddyga y deonglwyr gwahanol yn mlsen dros eu credoau. Efallai y byddai yn fantais i'r darllenydd, megys ag y bu i'r ysgrifenydd, i fwrw golwg ar yr opiniynau a fyntumir, ac nis gall ych- waith fod yn anfantais i wybod pwy ydynt goleddwyr y gwahanol dybiau, gan y meddir, o anghenrheidrwydd, ymddir- ledaeth lwyrach yn marnau rhai nag Sreill. Ar yr un pryd, dealler nad ydym yn rhwym o gydfarnu â'r rhai adnabydd- Us am eu cywirdeb cyffredin ; y mae genym berffaith hawl, naill ai i gydolygu â hwy, neu ynte i wahaniaethu oddi wrth- ynt. Nid oes un orfodaeth arnom i gredu >r oll a ddywed dynion ffaeledig; yr ydym 25 at ein rhyddid, os dewiswn, i ffurfio, credu, a chyhoeddi crediniaeth na chol- eddwyd gan neb erioed o'r blaen. Y mae hon yn rhagorfraint nas gall neb ei dwyn oddiar y myfyriwr Beiblaidd. Ymrana esbonwyr i bum' dosbarth gyda golwg ar yr hanes hwn. Perthyna i'r dosbarth blaenaf 1. Y rhai a dybiant fod y ddewines wedi sicrhau cynnorthwy cyfrinachol cymmydog er cynnrychioli llais ac ymddangosiad Samuel. Hwn ydyw eglurhad awdwr yr "Hynafion Gymreig :"—Dywed ef fod y ddewines mewn dysgwyliad parhaus am ymweliad oddiwrth Saul, neu ryw un perthynol iddo, er ymgynghori ar fater y rhyfel a ddygid yn mlaen rhwng Israel a'r Philistiaid; ac yn y dysgwyliad hwnw, iddi sefydlu cynghrair rhyngddi ûg un o'i chymmydogion; ddarfod i hwnw roddi am dano ddillad cyffelyb i'r rhai a wisgai Samuel pan yn myned o amgylch i farnu Israel, ac iddo, oblegyd ei wybodaeth o ymddangosiad cyffredinol pethau ar yr adeg hòno, lwyddo i ddweyd llawer o wirionedd. Ygwrthwynebiad sydd genym i'r dyb yna ydyw hyn, nad oes yn yr Ysgrythyr unrhyw awgrym na chry- bwylliad am y fath berson. Sonir yma yn unig am Saul, dau o'i weision, y ddewines, a Samuel; dyna yr holl gym- meriadau a geir yn yr hanes. Amcan yr awdwr hwn yn creu cynnorthwy i'r ddewines, ydy w gwneyd ymaith â'r tebyg- olrwydd fod Samuel wedi ymddangos. Y mae yr amcan yn dda, ond y mae y moddion a ddefnyddir i'w gyrhaedd yn gynnyrch dychymmyg dyn, ac nid yn ddysgcidiaeth gair Duw. Y mae lliosogi