Skip to main content

Y GEEAL. MAWRTH, 1877. Y PWYS O RODDI GWRANDAWIAD PRIODOL I'R EFENGYL. GAN Y PARCH. R. LLOYD, OASBACH. I. Yr wengtl. Y mae y gair efengyl yn golygu 1. Newydd. Hysbysiad ydyw newydd o'r hyn oedd anadnabyddus o'r blaen : dyna yw efengyl, hysbysiad o drefn ddoeth a grasol Duw er gwaredu dynol- iaeth. Yr oedd ar y byd fawr anghen Hm y newydd yma; ond nis gwyddai ddim am dano, nes i Dduw o'i ewyllys da ei hysbysu i ni. 2. Newydd da. Y mae llawer o new- yddion drwg ac annymunol yn ein cyrhaedd—newyddion am derfysgoedd, rhyfeloedd, heintiau, damweiniau, a toarwolaethau; ond dyma newydd da. Cynnwysa y newydd yma yr oll sydd ar ddyn anghen am dano, gorph ac enaid am amser ac i dragywyddoldeb. Cyn- ftwysa addewid am fywyd, iechyd, cynnal- iaeth, arweiniad, amddiffyniad, a gogon- eddiad yn y pen draw. %. Newydd da oddiwrth Dduw. Nid oedd yn bossibl iddo dd'od o un man 4täH. Pan dybiai dynion eu bod yn ddoethion gyda golẁg ar fater iachawd- wriaeth, "hwy a aethant yn ffyliaid." Yr oedd tu hwnt i'w gallu i gynllunio trefh i olchi aflendid moesol, i symmud 5'maitli euogrwydd damniol, i guddio noethni ysbrydol, ac i sicrhau bywyd tragywyddol ì farwolion Eden; ond nid oedd anghcn am hyny, oblegyd wele Oewydd wedi ein cyrhaedd yn dweyd, "'Canys felly y oarodd Duw y byd, fel y rhaddodd efe ei uniganedig Fab, fel na eholler pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywŷddol." (Ioan Üi. 16.) 4. Newgdd da aydd wedi ei fwriadu i boh dyn. Dyna ddywedai yr angel am I dano pan y cyhoeddwyd ef gyntaf, " Yr hwn a fydd i'r holl bobl." Nid yw I cyfoeth, dysg, dyrchafiad, ac anrhydedd daearol ond yn nghyrhaedd rhai; y mae iachawdwriaeth yn nghyrhaedd pob dyn- Y mae Duw wedi gofalu mewn ystyr dymhorol fod pethau pwysicaf—pethau anghenrheidiol bodolaeth o fewn cyrhaedd pawb ; fellymewn ystyr ysbrydol, y mae y pethau hanfodol yn nghyrhaedd pob dyn. Y mae " iachawdwriaeth o'r Iuddewon," ond nid yw yn gyfyngedig i'r Iuddewon yn unig. Yn Palestina y bu Iesu farw, ond y mae son am ei farw i fyned trwy yr holl fyd, a'r bendithion deilliedig trwy ei farw i gael eu cynnyg i bob perchen enaid. II. GWRANDO TR EFENGTL. Os maí cenadwri i'w mynegi a'i gwneyd yn hys- bys yw yr efengyl, y mae yn canlyn gan hyny y dylem roddi gwrandawiad iddi. Ymofynwn beth y mae iawn wrando yr efengyl yn gynnwys. 1. Mynychu y lleoedd lle mae yn cael ei phregethu. Ymddengys i ni fod cam- syniad mawr yn bodoli yn mhlith dynion ar y pen hwn ; ystyria miloedd fod myned i wrando yr efengyl yn beth wedi ei adael iddynt hwy i'w wneyd neu beidio ei wneyd, fel y byddont yn dewis; pan mewn gwirionedd, os yw Duwynsiarad, y mae yn ddyledswydd ar bob dyn i wrando. Teühiai ein tadau fllltiroedd meithion i wrando yr efengyl, ond ỳ mae miloedd yn ein dyddiau ni yn rhy fusgrell i fyned allan o'u tai i wrando'r gair. Torent hwy trwy dyrfaoedd o rwystrau er myned i dỳ yr Arglwydd, ond y mae llawer yn awr ydynt yn gwahodd ac yn croesawi rhwystrau, íe, yn gwneyd rhwystrau o bob peth. Beth yw yr &chos fod gwynt