Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CM '." Y OREAL. MEDI, 1874. "5T IDIJLTTW. GAN Y PARCH. H. CERNYW WILLIAMS, CORWEN. Büm yn sylwi yn ddiweddar ar ryw fryncyn oedd wedi ei godi, mae'n debyg, fel tŵr o wyliadwriaeth yn amser y rhyfeloedd blinion a fu ar hyd a lled y Wlad. Ymddangosai yn fawr yn ei ymyl, fel y gallech dybio y gellid ei ganfod o bellder mawr; ond cyn myned chwarter ínilltir ymddangosai yn hynod o fychan, ac erbyn cilio ychydig yn mhellach oddi wrtho drachefn ni chanfyddid ef o gwbl; ond edrychwn ar y mynydd cefnllydan Uchel, gall ef fforddio i'r edrychydd gilio yn bell oddi wrtho; ymddengys yn ei fawredd priodol o hyd; 'ie, ymddengys mor fawr yn y pellder ag a wnai yn ei ymyl. Mae llawer amgylchiad wedi cym- meryd lle yn y byd a ymddangosai ar y pryd yn wir fawr, y fath ag y gallasai dynion dybio y buasai yn aros byth mewn cof; ond buan iawn y collodd ei fawredd, ac o'r diwedd anghofiwyd ef yn llwyr, tra mae amgylchiadau ereill nad ydynt yn Colli dim wrth edrych arnynt dros bellder amser a lle, ac o'r braidd nad ydynt yn cynnyddu yn eu pwysigrwydd. Perthyn i'r nodweddiad olaf y mae y diluw nod- edig a gofnodir yn llyfr Genesis. Er fod ^fon amser wedi parhau i lifo am ganrif- Oedd ar ganrifoedd, er yr adeg hynod hòno, ac wedi cludo i'w chanlyn lawer ^dgof ddyddorol i fôr anghof, mae yr ^mgylchiad hwn wedj ei gerfio mor ddwfn ^r fynwes y byd, nes y mae yn hysbys mewn rhyw ffurf neu gilydd dros bedwar chwarter y ddaear. Y mae y pwnc hwn yn peri fod maes mor è'ang yn cael ei agor o'n blaen, nes y mae yn rhaid myned yn fras iawn drosto Q fewn terfynau ysgrif fel hon ; ond ym- drechaf godi rhai ty wysenau buddiol oddi 25 arno, oblegyd y mae yr holl Ysgrythyr wedi ei roddi trwy ysbrydoliaeth Duw, ac y mae pob rhan o hono yn cynnwys gwersi gwerthfawr, ond cael ysbryd priodol i wneyd defnydd da o honynt. I. Hanes y diltjw. Mae wedi cymmeryd lle. Cawn yr hanes gan Moses yn Gen. vi.—viii. Yno fe'n hysbysir fod Duw, o herwydd drygioni dychrynllyd dynol- ryw, " wedi edifarhau wneuthur o hono ef ddyn ar y ddaear, ac ymofìdiodd yn ei galon." " A'r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddiar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd." Yna mae yn gorchymyn i Noa, yr hwn sydd wedi cael ffafr yn ei olwg, i barotoi arch o goed gopher, yn dri chan' cyfudd o hyd, deg cyfudd a deugain ei lled, a deg cyfudd ar hugain ei huchder. Dywed wrtho am gymmeryd dau o bob rhyw i'w cadw yn yr arch. Ufyddhaodd Noa i'r gorchymyn Dwyfol—gwnaeth ei oreu i berswadio y bobl i adael eu pechod—aeth i mewn i'r arch ar ei wythfed—boddwyd y byd, ond fe'i cadwyd ef a'i deulu; a thrwy ei dduwiolfrydedd, fe " gondema- iodd y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd." Fel hyn y mynegir yr hanes gan Moses, ac fe gyfeirir at yr amgylchiad mewn rhanau ereill o'r gyfrol Ddwyfol fel un o ffeithiau anhyblyg hanesiaeth. Fe na buasai dim arall, ystyrir tystiolaeth y Beibl yn ddigon gan bob Cristion. Y mae gan y Beibl fyrdd o gyfeillion a gredant ei dystiolaeth, pe byddai pob llyfr arall yn ei wrthddweyd. Fel y wraig hòno, pa mor ddiffygiol bynag ei barn, nas gellir peidio edmygu duwiol- frydedd ei hysbryd, yr hon a ddywedai