Skip to main content

^r^ Y GEEAL. AWST, 1874. Y BEDYDDWYR A CHYDRADDOLDEB CREF- YDDOL.—Y DADGYSSYLLTIAD. GAN Y PARCH. J. JONES, (MATHETBS,) RHYMNI. Y mae rawy o gydraddoldeb i fodoli rhwng dynion a'u gilydd mewn gwahanol gyssylltiadau nag a dybir yn gyífredin. Yr ydym o anghenrheidrwydd yn gyd- radd yn ein perthynas â'r nefoedd. Saint a phechaduriaid yw y ddau gymmeriad a gydnabyddir gan y Goruchaf, a'r rhai hyny Wrth reswm yn ^gwahaniaethu mewn graddau. Ansoddau buchedd a chalon sydd yn cael sylw gan Dduw; ond yr J'dym ni i ryw fesur yn rhwym o edrych ar amgylchiadau a'u cydnabod. Nid yw hawliau neillduol breninoedd a deiliaid, íhieni a phlant, meistri a gweision, &c, i'w hanwybyddu. Ffiniau perthynol i'r byd hwn yw y rhai hyn ; ceir y meistr a'r gwas yn gydradd yn nghyssylltiadau Uchelaf eu bodolaeth. Gwelid cryn Wahaniaeth rhwng yr Iuddew a'r Cenedl- ddyn yh amser Moses; ond o dan yr efengyl, " Nid oes nac Iuddew na Groeg- wr." Agorwyd y winllan Gristionogol i bawb gan Benarglwyddiaeth rasol, ond cyfiawnder noeth sydd i dalu y gweith- wyr, yn ol graddau eu hymroddiad. Ond *haid cofio mai nid ein cydraddoldeb yn ein cyssylltiad â'r Goruchaf sydd i fod o dan ein hystyriaeth yn yr ysgrif fer hon, Ond ])erthynas gyfartal crefyddwyr, a'r ^edyddwyr yn neillduol, â'r wladwriaeth Heu y gallu gwladol. Y mae i'r llywodraeth ei gwaith ar'ben- ìg ; ond dengys hanes Hebreaid " y ífwrn dân" ac eiddo Daniel, mai nid yn ddi- weddar y camddeallodd y gallu gwladol *iatur y gorchwylion perthynol iddo. Yn gymmaint ag mai â dyn yn ei gyssyllt- ìad â'r byd presennol y mae a fyno Csesar, >ìid oes gwir ddaioni i'w ddysgwyl oddi- 22 wrth ymyriadau ein llyẁodîaethwyr â materion crefyddol. Cafwyd profion o hyn yn yr erlidigaethau Iuddewig a phaganaidd yn yr oes apostolaidd a'r oes- oedd dilynol, cyn i Cystenyn gyssylltu Cristionogaeth â'r wladwriaeth yn y bedwaredd ganrif. Camgymmeriad yw achwyn ar erlidigaethau, yn hytrach na chondemnio yr undeb a effeithiwyd gan Constantine. Os yw cyssylltu crefydd â'r llywodraeth yn iawn, y mae erlid am annghydffurfiaeth yn briodol. Rhaid i grefydd wladol erlid, ac annghyssondeb ýnddi yw peidio. Os priodol y cyssyllt- iad a nodwyd, nid oedd genym hawl i achwyn ar yr hen "dreth eglwys," ac ynfydrwydd yw dwrdio offeiriaid am nacâu claddu ein meirwon, cyhyd ag y byddo y gyfraith yr hyn ydyw. Di- wreiddio y pren ddylid, ac nid condemnio y ffrwyth geir ar ei ganghenau. Nid y dynion sydd i'w beio, eithr y system. Gwneir llawer o dwrw o barthed cym- meriad Protestanaidd(r) yr Eglwys Sefydledig, heb ystyried mai i ddau ddygwyddiad yr ydys yn ddyledus am yr ychydig Brotestaniaeth sydd ynddi, sef y cweryl rhwng Harri VIII a'r Pab o barthed i Catherine, &c, ac annoethineb Pab arall yn nacâu moesgarwch i'r fren- ines Elizabeth, pan gynnygiodd ei Mawr- hydi gyssylltu Egl wy s Loegr â'r esgobaetlr Rufeinig. Y ffaith o fod y Pab yn well dyn o lawer na Harri, a berodd i'r olaf sefydlu Eglwys Loegr, yn ol awgrym a roddwyd iddo gan Thomas Cornwell, fel y gwyr y rhai sydd yn gyfarwydd â hanes y cyfnod hwnw. Rhoddir mwy o glod í Elizabeth o lawer nag y mae yn haeddu,