Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

- • Y G.BEAL> MEHEFIN, 1874. AILENEDIGAETH FEDYDDIADOL,* neu yr athrawiaeth o ailenedigaeth mewn bedydd. Sef sylwedd araeth a draddodwyd yn nghyfarfod blynyddol TJndéb Bedyddwyr Cymru, a gynnaliwyd yn Mangor, Awst 26ain a'r llain, 1873. GAN Y PARCH. N. THOMAS, CAERDYDD. Cytuna. Cristionogion yn gyffredinol fod bedydd yn ordinhad efengylaidd a Christionogol. Gwyddom yn dda y * gwahaniaethant yn ddirfawr yn eu barn o barthed i iawnweinyddiad, gwir ddeil- iaid, a phriodol amcanion bedydd ; ond y tnaent oll yn un yn y meddwl fod yr ordinhad wedî ei sefydlu gan Grist yn ei eglwys dan yr efengyl. Y mae yn beth a gredir gan rai, fel ^thrawiaeth sylfaenol, fod y bedyddiedig ÿn cael ei aileni yn y bedydd, fod bedydd i'n hanfodol i iachawdwriaeth, ac fod pwy hynag sydd yn marw yn ddifedydd yn cael ei gau allan o ogoniant y byd arall! byma yw dysgeidiaeth Eglwys Rhufain &r y pwnc pwysig hwn. Taera hon mai l^j. trwy yr ordinhad hon yr ydym yn derbyn y gfas o gymmod â Duw, ac mai trwy fed- ydd y cymhwysir at yr enaid rinweddau ..< *narwolaeth Crist i'r fath raddau, fel ag i íbddloni holl ofynion cyfìawnder Dwyfol gyda golwg ar bechod gwreiddiol a gweithredoì!! Gelwir ar y Pabydd i "gredu fod Iesu Grist wedi ordeinio yn ei eglwys saith *acrament, neu saith arwydd dirgelaidd, ac achosion offerynol o ras Dwyfol yn ein heneidiau—y cyntaf yw bedydd, mewn flfordd o enedigaeth newydd, trwy yr hwn y gwneir ni yn blant i Dduw, ac y'n golchir yn lân oddiwrth bechod." Mewn perthynas i rai yn marw yn ddifedydd, Uefara Eglwys Rhufain fel y cynlyn :— Gofyniad. "Pa beth sydd yn dyfod o'r plant sydd yn marw yn ddifedydd ì" 16 Ateb. " Os bydd i blentyn gael ei osod i farwolaeth er mwyn Crist, bydd hyn yn fedydd gwaed iddo i'w gario i'r nefoedd ; ond gyda'r eithriad hyn, yn gymmaint ag fod mabanod yn analluog i ddymuno bedydd yn nghyda threfniadau anghen- rheidiol ereill—os na bydd iddynt gael eu bedyddio â dwfr, nis gallant fyned i'r nefoedd!" Nid y w yr athrawiaeth hon yn cael ei chyfyngu i Eglwys Rhufain, ond coíieidir hi heddyw gan filoedd o aelodau yr Eglwys Sefydledig yn y wlad hon; ac nid oes ammheuaeth fod yr athrawiaeth yn cael ei chynnwys yn ngwasanaeth bedydd a chatecism yr Eglwys hòno, canys cawn yr offeiriad cyn gweinyddu yn gweddio ar yr Hollalluog a'r tragy wyddol Dduw i santeiddio y dwfr yn gyfriniol i olchi ymaith bechod, a chaniatâu i'r per- sonau yn awr i'w bedyddio ynddo i dder- byn o gyflawnder gras, ac aros byth o nifer dy ffyddlawn a'th etholedig blant. Yr offeiriad ar ol gweinyddu y seremoni, a annercha y bobl, ac a ddywed, " Anwyl garedig frodyr, gan fod yn awr y personau hyn wedi eu hadgenedlu a'u himpio yn nghorph eglwys Crist, bydded i ni roddi diolch i'r Hollalluog Dduw am y bendith- ion hyn." Yna gweddia fel y canlyn:— " Yr ydym yn rhoddi gostyngedig ddiolch i ti, O! Dad nefol, fod wedi bod yn wiw genyt i'n galw ni i wybodaeth o ras, ac i'th ffydd di; ychwanega ein gwybodaeth, a chryfhâ ein ffydd yn barhaus. Dyro dy Ysbryd Glân i'r personau hyn—y rhai