Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEÁL. MAWRTH, 1871. MYFYRDODAU HAMDDENOL. <§an s «Mgggöö. XI. "Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni."—Col. i. 12. Yn y Greal diweddaf y mae un a gyfenwa ei hun " Dysgybl," yn gofyn i ni egluro yr adnod uchod. Yr ydym gyda phleser yn defnyddio y cyfle hwn i wneyd hyny hyd y gallwn. Nid ydym ninnau mwy na " Dysgybl" yn cydweled â'r syniad cyíf- redin, fod y geiriau yn cyfeirio at nefoedd y gogoniant. Ystyriwn yn hytraeh eu bod yn golygu rhagorfreintiau yr efengyl, hyny yw, mai wrth wneyd y Colossiaid yn gymhwys " i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni," y deallir eu barnu, a hwy yn Genedloedd eilunaddolgar, yn briodol ddeiliaid gweinidogaeth yr efengyl, a'u dygiad drwy allu y weinidogaeth hòno i gyfranogi o'i rhagorfreintiau goruchel. Y mae termau yr adnod yn caniatâu yr ystyr hwn. Er engraifft, y mae y term goleuni yn cael ei ddefnyddio yn fynych iawn i ddesgrifio y stâd o fyw dan ddylan- wad a dysgeidiaeth yr efengyl, yn gyferbyniol i stâd o dywyllwch eilunaddoliaeth. Sylwn ar yr engreifftiau canlynol:— * * * # «A'rCenedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon yr awr hon, i agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni."—Act. xxvi. 17. Y mae yn amlwg fod y term goleuni yn yr engraifft hon yn ddesgrifiad o'r stâd o fwynhad o freintiau yr efengyl, a'r tywyllwch yn ddesgrifiad o'r stâd eiiunaddolgar, yn mha un fel Cenedloedd y gorweddent. Eto, " Canys yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awr hon goleunì ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni."—Eph. v. 8. Eto, " Chwychwi oll plant y goleuni ydych, a phlant y dydd."—1 Thes. v. 6. Eto, " Fel y mynegpch rinweddau yr hwn a'ch galwodd o dywylltcch i'w rhyfeddol oleuni ef."—1 Pedrii.9. Dichon y gweinydda yr engreifftiau uchod er esbonio ystyr y term goleuni, ac er dangos ei fod yn golygu, nid o anghenrheidrwydd y nefoedd, ond ymarweddiad dan ddysgeidiaeth efengyl. Eto, ceisiwn ddangos fod yr ymadrodd " etifeddiaeth y saint" yn golygu rhagor- freintiau yr efengyl. Y mae yn cyfateb i'r frawddeg ganlynol o gommisiwn yr Ar- glwydd i Paul, a gyfeiriwyd ato eisioes :— " Fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mysg y rhai a santeiddiwyd, trwy y fiydd sydd ynof fi."—Act. xxvi. 18. Y mae "y gyfran yn mysg y rhai a santeiddiwyd," yn amlwg eilun o'r frawddeg, "Bhan o etifeddiaeth y saint." Yr un personau ydynt, y saiitt yn yr olaf, a'r "Rhai a santeiddiwyd " yn y flaenaf. Golygir rhai, nid wedi eu perffeithio, ond wedi eu neillduo dxwy ffydd yn Nghrist oddiwrth y fuchedd flaenorol i fywyd efengylaidd.