Skip to main content

Y GREAL. GORPHENAF, 1869. PREGETH AR MAT. V. 21, 22. <Sîan 8 ìutoẃDar îSarctj. 29. #oties, Jftìittsanol. " Clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid, 'Na lofruddia; canys pwy bynag a lofraddio a fydd ddarostyngedig i'r barnwyr.' Ond yr wyf fi yn dywedyd i chwi, pwy bynag a ddigio wrth ei frawd yn ddiachos, a fydd ddarostyngedig i'r barnwyr; pwy bynag a'i galwo yn ynfydyn, a fydd ddar- ostyngedig i'r cynghor; ond pwy bynag a'i galwo yn ddyhiryn, a fydd ddarostyngedig i dân uffern." —Mat. v. 21, 22. Oyf. J. W. O'r holl bregethwyr a ymddangosodd yn y byd erioed, y penaf o honynt oll oedd Iesu; ac o'r holl bregethau a draddododd efe, ni ddadguddiwyd un yn rhagorach na'i bregeth ar y mynydd; ac o holl ragorolion y bregeth hon, nid oes un ran o honi yn deilyngach o gymmeradwyaeth na'r esboniadol. Nis gall unrhyw beth neu bethau fod yn fwy niweidiol i grefydd na chamddeongliadau o'r Ysgrythyrau; ac y mae yn alarus meddwl nad oes un maes wedi ei hau yn dewach nag eiddo y camesbonio. Y mae llawer o gamesbonio o ddyben wedi bod, er ategu cyfundraethau dynol, a llawer hefyd o herwydd anwybodaeth o wahanol bethau, megys anwybodaeth o ddy- ben ysgrifenwyr santaidd, o'r ieithoedd ag yr eglurasant eu meddyliau ynddynt neu drwyddynt, o ddull ymarferiadau gwledydd y Dwyrain, &c. Esbonwyr truenus oedd y Rabbiod neu y doctoriaid Iuddewig; ac am hyny galwai yrEsboniwr annghyfeiliorn hwynt yn "Dywysogion deillion i'r deillion," &c. Nid oeddynt yn edrych braidd ar un rhan o'r Hen Destament (oblegyd nid oedd ganddynt ond yr Hen) fel ag yr oedd Duw yn edrych; ond nid oeddynt yn fwy cyfeiliornus eu meddyliau am un rhan na hòno a elwir yn gyffredin, "Y ddeddf ibesol." Pan y dywedent, "Melldigedig yw y rhai na wyddant y gyfraith," condemnient eu hunain ar yr un pryd, gan na wyddent hi yn ei hysbrydolrwydd na'i manylrwydd. Yr oeddynt " Yn cyfeiliorni am na wyddent yr Ysgrythyr na gallu Duw." Yn yr adnodau blaenorol i'r testyn, dywed Crist wrth ei wrandawyr, nad aent i mewn i deyrnas nefoedd os na byddai eu cyfiawnder, neueu crefydd, yn helaethach nag eiddo yr Ysgrifenyddion a'rPhariseaid —yn helaethach mewn ysbrydolrwydd, purdeb, a graddau. Wel, fel pe dywedid, onid ydynt hwy yn proffesu eu bod yn codi eu crefydd allan o'r Ysgrythyr? Gwir, fel pe dywedai Crist, ond gan na wyddant yr Ysgrythyrau, y maent yn cyfeiliorni er proffesu; canys " Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd," &c. Golygai y dysgawdwyr luddewig fod y neb a lofruddiai ddyn o ddyben neu amcan yn agored i gleddyf cyf- iawnder, a'r hwn a lofruddiai o ddamwain, yn rhwym o amddiffyn ei hun yn y ddinas noddfa; a thyna y cwbl oedd ganddynt i'w ddywedyd o berthynas i'r gwaharddiad. Yr oedd eu tyb am y chweched gorchymyn, fel llawer o'r gorchymynion ereill, yn gyfeiliornus, am nad oeddynt yn edrych i mewn iddo yn mhellach na'r Uythyren, gan adael yr egwyddor a'r ysbryd o hono o'r neilldu. Golygent ei fod yn gwahardd llofruddiaeth yn y weithred o ddwyn bywyd ymaith, heb osod un attalfa ar nwydau y galon lygredig, o ba un y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn tarddu; nad oedd y gyfraith ddwyfol yn gwahardd y meddwl pechadurus, ond yn unig y weithred bech- adurus, oedd cyfeiliornad sylfaenol y dysgawdwyr Iuddewig. Ymorphwysent yn Uythyren y gorchymyn, heb chwilio i mewn idd ei ysbrydolrwydd. Tra bu Paul yn