Skip to main content

Y GEEAL. MEHEFIN, 1869. CADWEDiaAETH BABANOD ©ait 8 ^arclj. $. #ones, ISrgmíio. " Oanys Ue nid oes deddf, nid oes gamwedd."—Patjl. Dywed y "Llyfr Cyffredin,"—"Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu;" a dywed wirionedd anwadadwy. Nid dyna yr holl wirionedd, er hyny, am deyrnasiad angeu, oblegyd cwympa angeu fwy cyn cyrhaèdd canol bywyd, nac a ẁna yn y canol, ac oddi yno i ddiwedd yr oes. 'Yn mhlith y dorf fawr a dorir i lawr ganddo cyn canolddydd bywyd, ceir tyrfa o fabanod, y rhai a ymadawsant â'r fuchedd bresennol yn eu hystad fabanaidd. Mae y dorf hon yn lliosog iawn, yn cael ei symmud i'r bedd ar dymhorau neillduol, drwy amrywiol ffyrdd; ac y. maent?yn cael eu symmud cyn iddynt wybod dim am helyntion daear. Nid ydyw y marwoldeb hwn yn beth annysgwyliadwy, er ei fod yn bur boenus, pan ystyriom ddysgrifiadau y Beibl o'r ddynoliaeth, megys, "Tarth," "Blodeuyn," "Blodeuyn y glaswelltyn," "Gwellt," &c. Gan mai dyna yw hi yn ei hystad gryfaf, beth raid ei bod yn ei hystad wanàf? " Blodeuyn" ydyw un o'r pethau tlysaf mewn natur, ond y cyntaf a deimla oddiwrth erwinder hin. Hyn ydyw pob dyn pan fo ar y goreu; gan hyny "blodeuyn" yn ymagor ydyw y baban; o gymmaint a hyny y mae ei beryglon yn fwy, a'r dylanwad- au angeuol arno yn hawddach. Ond y cwestiwn pwysig i ni yn nglyn â'u marwolaeth, yw, Pa le y maent ? A ydynt mewn bodolaeth? Ac os ydynt, beth yw eu cyflwr? Mae y syniad o'u difodiad yn anathronyddol, yn annaturiol, ac yn anysgrythyrol. Y maent mewn bod er o'n golwg ni. Beth yw eu cyfìwr ynte? Nid oes ond dau gyfiwr mewn bod—dedwydd- Wch ac annedwyddwch; a rhaid gan hyny eu bod yn un o'r ddau hyn. Credwn nas gallant fod mewn cyílwr o annedwyddwch, gan na phechasant yn weithredol: oblegyd "lle nid oes deddf, nid oes gamwedd," gan mai rheol bywyd yw deddf. Arweinia yr ymresymiad hwn ni i gredu yn eu bodolaeth mewn cyfiwr dedwydd gyda'r Iesu, yn dyrfa lân o gylch yr orsedd wen. Dichon fod rhyw rai yn barod i ofyn ar ba seiliau y credwn hyn, a pha fodd y maent yno? Ceisiwn ateb y gofyniadau hyn. Cyn gwneuthur hyny, goddefer i ni awgrymu na fu erioed yr un, feallai, yn credu yn wirioneddol yn ngolledigaeth babanod, er bod llawer yn amrywio yn nghylch seiliau ein crediniaeth yn eu cadwedigaeth. Seilir eu cadwedigaeth gan un dosbarth o Gristionogion ar ffydd, o herwydd cynnwysiad y commisiwn, mai "Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig." Ymofynant yn bryderus am ffydd iddynt er eu cad- Wedigaeth, a alwant yn ol eu hamrywiol olygiadau yn "ffydd y rhieni," "ffydd fabanaidd," "ffydd ddirprwyol," "ffydd fedyddiadol," &c, termau, a dweyd y lleiaf am danynt, ydynt yn ddrwgdybus. Dyma olygiadau yr eglwys Babaidd, yr eglwys Esgobyddol, Luther, Calvin, a'u canlynwyr, ac enwadau taenellyddol y dywysogaeth. Y dosbarth arall a ymfoddlonant i seilio eu cadwedigaeth ar haeddiant Crist, y gwna Duw faddeu iddynt a'u cadw o herwydd rhinwedd marwolaeth y groes, er na chred- asant yn Nghrist yn ystod eu bywyd ar y ddaear. Cymhwysa y dosbarth hwn yr un egwyddorion at y pwnc hwn ag at gyflwpy paganiaid. Mae yr olygddysg ddiweddaf hon yn ymddangos i ni yn fM'yj(iögeÌ a chywir na'r'flaenaf. Credwn yn ddiysgog 16