Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. RHAGFYR, 1866. Y LLYTHYRAU AT EGLWYSI ASIA. LLYTHYR II.----AT EGLWYS 8MYRNA. " Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifena; Y pethau hyn y mae y eyntaf a'r diweddaf, yr hwn ■ fu farw ac sydd íyw, yn eu dywedyd," &c—Dad. ii. 8—11. (BanU. &. Y mae y llythyrau at yr eglwysi yn gynllun neu arlun o un o foddau y Dadguddiad. Y mae Iesu a'r Ýsbryd yn dadguddio beth i'w ysgrifenu, a Ioan yn ysgrifenu y pethau yr oedd Iesu yn orchymyn iddo. "Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifena," dyna waith Ioan; "Y pethau hyn y mae y cyntaf a'r diweddaf, yr hwn a fu farw ac sydd fyw, yn eu dywedyd," dyna waith Iesu—dadguddio beth i'w ddweyd; a dyna nodwedd agos yr holl Feibl—Duw yn dadguddio, a dynion santaidd Duw yn ysgnfenu. Tref enwog am ei masnach ydoedd Smyrna, yn sefyll ar fin cainc o'r ynysfor. Dýwedir fod oddeutu milltir o'r dref yn gorwedd ar fin yr afon neu gaincfor, yr hyn, heblaw prydferthu ei golygfeydd, sydd yn rhoi iddi lawer o fanteision masnachol. Nid oes sicrwydd pwy a sefydlodd Gristionogaeth gyntaf yno; y farn gyffredin ydyw, mai Paul fu yn offerynol, a hyny pan y bu yn aros am dair blynedd a hanner yn Ephesus. _ Er fod llawer o gyfnewidiadau wedi cymmeryd lle yn Smyrna, y mae lle cryf i obeith- io, na ddiffoddodd goleuni yr efengyl ddim yn hollol yno trwy y cwbl. Dymchwelwyd hi o leiaf chwe' gwaith gan ddaeargryn. Yn y flwyddyn 1814, bu farw trigain mil o'r preswylwyr trwy y pla. Yn y flwyddyn 1831, dyoddefodd yn dost oddiwrth y Cholera. Tybir mai yr enwog Polycarp ydoedd gweinidog yr eglwys hon; a dadleuir yn lled wresog mai y ddinas hon ydoedd lle y ganwyd Homer, y bardd enwog. Nid oes dim yn cael ei gondemnio, na dim, yn uniongyrchol, yn cael ei ganmol, yn yr eglwys hon. Prif amcan a rhediad yr epistol ydyw, parotoi yr eglwys gogyfer âg erlidigaeth boeth, dysgu iddynt fod Iesu yn fyw—fod eu Gwaredwr yn fyw, a'i fod wedi dyoddef a marw, ac felly yn meddu cymhwysder personol, nid yn unig i'w hamddiftyn, eithr i gydymdeimlo â hwy hefyd. Y mae yr epistol yn ymranu yn naturiol i dri mater:—Yr hyn y mae Iesu yn ddweyd am gyflwr crefyddol ae amgylchiadau allanol yr eglwys hon. Y dadguddiad y mae yn ei roi o hono ei hunan wrth ysgrifenu ati, neu y cysur y mae yn weinyddu iddi o dan yr amgylchiadau; a bod yr hyn y mae yn ysgrifenu at'yr eglwys yma yn neillduol, yn gymhwysiadol i bawb. I. Yr hyn mae Iesu Grist yn ddweyd am gyflwr crefyddol ac amgylchiadau allanol yr eglwys hon. " Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, (eithr cyfoethog wyt); ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan." (adn. 9.) 1. Yr oedd yr eglwys hon yn dlaiod, o ranpethau y byd hwn, ac yn gyfoethog mewn pethau ysbrydol. " Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, (eithr cyfoethog wyt)." Hwyrach mai eglwys o bobl dlodion oedd, neu dichon eu bod wedi cael eu gwneyd yn dlawd gan eu gelynion ; yr oedd hyny yn cymmeryd lle weithiau, camrs dywedir fod y credinwyr Hebreaidd wedi " cymmeryd eu hysbeüio o'r pethau oedd ganddynt yn llawen." "Eithr cyfoethog wyt." Y mae yn bossibl i eglwys fod yn dlawd o bethau y byd, ac eto yn gyfoethog o bethau crefydd; y mae yn bossibl i berson neu deulu fod yn dlawd o bethau y byd, ac eto yn enwog mewn rhinweddau a grasusau crefyddol. Y mae yn bossibl i eglwys fòd yn gyfoethog, o ran ei hamgylchiadau bydol, ac eto yn dlawd yn ngolwg Duw. Eglwys felly ydoedd eglwys Laodicea; yr oedd yn barnu ei bod yn gyfoethog, ac nad oedd arni eisieu dim, pan ŷr ydoedd, yn ngolwg Iesu, yn dlawd a gresynus! Y mae gwahaniaeth mawr 35