Skip to main content

Y GEEAL. TACHWEDD, 1866. Y LLYTHYRAU AT EGLWYSI ASIA. LLYTHYR. I.----AT EGLWYS EPHBSUS. " Eithr y mae genyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â'th gariad cyntaf."—Dad. ii. 4, 5. täatÎM, U. Y mae ein testyn yn rhan o'r llythyr at yr eglwys Gristionogol yn Ephesus. Yn y bennod o'r blaen, y mae Ioan yn cael ei gommisiwn i ysgrifenu gweledigaethau y Dadguddiad mewn llyfr, a danfon copi i saith eglwys Asia, pa rai a enwir yma wrth eu henwau; ac yr oedd llythyr bychan oddiwrth Iesu Grist i fyned at bob eglwys gyda'r llyfr: y llyfr yn cynnwys ynddo helyntion yr eglwys yn ei pherthynas â'r byd hyd ddiwedd amser, a'r llythyr yn eynnwys ynddo bethau neillduol; pethau da a drwg yr eglwys ei hunan. Y mae y llythyrau yn cynnwys ynddynt y pethau yr oedd Iesu yn eu cymmeradwyo, a phethau yr oedd yn eu condemnio, os byddai y ddau yn yr eglwys yr ysgrifenai ati. Y mae dau beth i'w gweled yn amlwg yn yr epistolau hjTi; hyny ydyw, cyfeiriad Ueol a llythyrenol, a chymhwysiad cyffredinol. Y mae pob epistol yn cael ei gyfeirio at ryw eglwys yn neillduol; ceir ynddynt bethau neillduol, ac amgylchiadau neillduol yr eglwys hòno: eto mae yr hyn a ddywedir wrth gynnulleidfa neillduol, yn addysg a rnybudd i bawb; canys dywedir yn niwedd agos yr holl lythyrau hyn, " Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi." I. Y MAE HYNY YN EIN HARWAIN I YMOFYN I HANESIAETH YE. EPISTOL DAN SYLW, a'e atheawiaeth y Mae yn ei gynnwys. Y mae dau beth yn eu perthynas âg ystyr leol a llythyrenol y llytlryr dan sylw yn galw am air o eglurhad, sef y wlad yr oedd y saith eglwys yma yn gorwedd ynddi, a'r ddinas yr oedd yr eglwys y cyfeirir y llythyr hwn ati yn preswylio. Y wlad ydoedd Asia, canys gelwir hwy y "saith eglwys sydd yn Asia." Y mae Asia yn ei hystyr ddaearyddol yn golygu y bedwaredd ran o'r byd a adnabyddir wrth yr enw hwn. Eithr wrth Asia yn y fan yma y meddylir Asia Leiaf; ac y mae agos yn sicr mai dyna a olygir yn wastad wrth Asia y Testament Newydd. Dywedir ddarfod i "bawb ac oedd yn trigo yn Asia, Iuddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu." Y mae Asia Leiaf yn golygu y rhan Orllewinol o'r chwarter hwnw o'r byd; y mae Asia Leiaf yn cael ei chynnwys yn yr hyn a elwir yn awr, Twrci yn Asia; ac yn Asia Leiaf yr oedd y saith eglwys yn gorwedd. Y ddinas yr oedd yr eglwys y cyfeirir ati yn y testyn yn preswylio ydoedd Ephesus; hyny yw, credinwyr o'r ddinas hòno oedd yn cyfansoddi yr eglwys hon. Yr oedd Ephesus yn ddinas enwog yn j cyn oesoedd; hi ydoedd prif ddinas rhaglawiaeth Bhufain "yn y parth hwnw. Yn Ephesus yr oedd teml fawr, ëang, a gorwych, i'r dduwies Diaima. Cawn hanes, yn llyfr yr Actau, am sefydliad Cristionogaeth yno gan Paul. Bu yno yn pregethu am dair blynedd a hanner. Ysgrifenodd epistol pan yn garcharor yn Rhufain at yr eglwys hon, yr hwn a adnabyddir wrth yr enw, " Yr epistol at yr Ephesiaid." Cawn hanes hefyd am Paul yn anfon am henuriaid eglwys Ephesus ato i Miletus, neu fel y mae llawer yn meddwl, i Malta. (Act. xx. 17—35.) II. Yb, athrawiaeth y mae ye Epistol yn ei gynnwys ydyw, yn 1. Mai Iesu Grist ydyw unig Freúin a Phen ei eglwys. Y mae yr athrawiaeth yna yn rhedeg fel gwthien trwy yr holl lythyrau, ac yn wir trwy holl Ysgrythyrau y testament Newydd. "Efe ydyw Pen corph yr eglwys," &c. 2. Fod lesu Grist gyda'i bobl ar y ddaear, er eifod wedi myned i'r ncfoedd, o ran ei bresennoldeb corphorol. Y mae yn "rhodio yn nghanol y saith ganwyllbren aur." Y mae gydahwynt yn y storm a'r tywydd garw. Dywedir fod stormydd a gwyntoedd cryfìon yn help i'r coedydd ddwyn ffrwyth; felly y mae stormydd i bobl Dduw. "Ẁele yr ydwyf gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." 32