Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. MEDI, 1866. HANES BEMDDWYB, LERPWL. ©an Btlta fäitattỳoq. LLTTHYE IV. Ar ol marwolaeth Mr. Medley, dewisodd yr eglwys Fedyddiedig yn Byrom Street, un o'r enw Mr. Robert Davies, yn olynydd iddo fel gweinidog. Dechreuodd et' ar ei waith yn Lerpwl yn y flwyddyn 1800. Yr oedd üavies yn ddyn galluog a medrus, yn bregethwr da, ac yn awdwr coethedig. Y mae ei waith ar gael hyd heddyw. Er hyny, nid oedd dewisiad Mr. Davies yn eistedd yn esmwyth ar feddyliau gryn lawer o'r aeiodau, er ei fod wedi cael y rhan liosocaf o'r eglwys o'i blaid yn ei ddewis- iad. Yr oedd rhyw annghydwelediad yn eu plith yn nghylch yr athrawiaeth, fel y dywedent hwy; nid oedd Mr. Davies yn ddigon iach yn y ffydd, gyda golwg ar bregethu Calfiniaeth i'r bobl; taerent yn barhaus nad oedd mor iach yn ei gredo a'r diweddar anwyl Mr. Medley. Daeth y brodyr hyny i'r penderfyniad, wedi ymgynghori llawer â'u gilydd, i ymadael o Byrom, a ffurfío eglwys newydd, ar wahan iddynt hwy. Felly y gwnaethant; cym- merasant ystafell ëang yn Church Lane, a dechreuasant ar y gwaith o ddifrif. Galwasant am wasanaeth amryw o bregethwyr i'w cynnorthwyo. Wedi gwrando amryw bersonau, gyda bwriad i ddewis o'u plith un i fod yn weinidog iddynt, syrthiodd y dewisiad ar un o'r enw Mr. Peter Aitkin, un o Glasgow, o ran ei enedigaeth. Dyna ddechreu yr eglwys barchus, a'r gynnulleidfa liosog, y mae y dyn galluog, y Parch. Hugh S. Brown, yn llafurio yn eu plith yn bresennol. Yr oedd Mr. Aitkin yn ddyn dysgedig gwirioneddol, a thalentog annghyffredin iawn ; yr oedd yn tynu sylw yr holl dref ato ; yr ystaf'ell yn orlawn bob amser y byddai efe ynddi. Ordeiniwyd ef i fod yn weinidog iddynt yn y fiwyddyn 1801. Ond er yr holl obeithiou, a'r cariad oedd wedi ymblethu rhwng yr eglwys âg ef, ac yntau â hwythau, yr oedd Och! yn eu hymyl: yr oedd afiechyd wedi ymafiyd yn ei gyfansodd- iad, gorfodwyd ef i fyned trosodd i'w enedigol wlad i ymofyn am ychydig o adgyfnerthiad; nid oedd gan ei feddyg un peth arall i'w gynnyg iddo. Gwnaeth yntau brawf o'r cynghor, a chasglodd dipyn o nerth. Dychwelodd yn ol wedi gwella Uawer, ar y 13eg o fis Medi. Pregethodd ddwy waith ar yr 20fed yn annghyffredin o'r nerthol, tanbaid, a thalentog, er mawr fodd- lonrwydd i'r eglwys a'r gwrandawyr; ond er mawr siomedigaeth i'w gyfeill- ion lliosog, ac yntau, yr oedd angeu yn ei ymyl; torodd llestr y gwaed, (blooi-oessel,) fel nad oedd un gobaith am wellhad, a suddodd yntau yn dawel i freichiau marwolaeth, ar y dydd cyntaf o Hydref, yn yr un fiwyddyn. Claddwyd ei weddillion marwol yn nghladdfa y Bedyddwyr, wrth gapel Byrom St. Ysgrifenodd Mr. R. Davies, gweinidog Byrom, fywgraffiad gwerthfawr iawn iddo, yn yr hwn y mae yn rhoddi desgrifiad o ragoriaetb.au y dyn gobeithiol hwn. Ymddangosodd yr ysgrifau y cyfeiriwn atynt yn y 26