Skip to main content

Y GREAL. AWST, 1866. MAWREDP CARIAD DUW. " Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei Üniganedig Fab; fel na eholler pwy bynag a gtedo ynddo ef, ond eaffael o hono fywyd tragywydüol."—Ioan iii. 6. ffian u ÿatcfj. $. Wiilliamti, StTjol g>t., lUrptol. Y mae Duw wedi amlygu ei hun i'n byd ni trwy wahanol gyfryngau, 0 dan wahanol agweddau, &c.; ond o bob amlygiad a roddodd efe o bono ei hun i'r byd erioed, yr hwn sydd yn ein cyfateb ni oreu, fel pechaduriaid, ydyw yr amlygiad a rydd efe o hono ei hunan yn ngeiriau'r testyn, " Canys felly y carodd Duw y byd," &c. Pwnc y testyn ydyw, Mawredd cariad Duw yn ei berthynas a'n byd m, &c< Gwelwn fawredd cariad Duw yn •* I. Yn y gwethddrychau a gabodd,—" Y byd." Nid oes dim yn llanw y-nieddwl â'r fath syndod a rhyfeddod a'r ffaith fod Duw wedi caru y byd hwn. 1. Fod cymmeriad y byd yn gyfryw nad oedd dim ynddo i gÿmhell Duw i'w gttru, Pan y mae dyn yn caru unrhyw wrthddrych, y mae yn rhaiä fod rhywbeth yn y gwrthddrych hwnw ag sydd yn gydnaws (congenial) â natur y dyn, ond nid felly gyda Duw: nid oedd dim mewn dyn i ddenu serch a chariad DuW, ond yn hollol fel arall. Pan oedd dyn yn ei gyfiwr o burdeb, yr oedd Duw yn ymhyfrydu ynddo y pryd hwnw; yr oedd ar lun a delw ei Greawdwr, ac nis gall Duw beidio yrnhyfrydu yn ei ddelw, pa le bynag y ceir hi; ond wedi i ddyn syrthio, collodd y ddelw dd-wyfol hon, llwyr ddüëwyd hi oddiar ei enaid, ac aeth yn farw i bob daioni ysbrydol a duwiol, a thrwy hyny daeth y byd i gyd yn llawn o bob pechod ac aflendid* " Eithr yr ydym ni oll megys peth afian, ac megys bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau." Drachefn, y mae dyn yn caru gwrthddrychau oblegyd rhyw ddaioni neu leshad a.. gafodd neu a all ei gael oddiwrth y gwrthddrychau hyny; ond nid felly gyda Duw: nid oedd efe yn derbyn dim daioni iddo ei hun oddiwrth garu ein byd ni. Pe buasai achubiaeth y byd yn ychwanegu at ei ddedwyddwch a'i ogoniant hanfodol ef, ni buasai yn gymmaint 0 syndod iddo garu y byd, am fod ei lesiant ei hun mewn golwg yn ogystal a lleshad y byd ; ond nis gallai hyn fod, oblegyd Duw yw efe, ac y mae y syniad o Dduwdod yn profi ar unwaith fod gogoniant a dedwyddwch anfeidrol yn ffynnonellu yn ddidrai ynddo ef ei hunan, yn annibynol ar bawb a phob peth arall. Yr oedd efe yn anfeidrol ddedwydd a gogoneddus cyn iddo roddi bodolaeth i'r byd erioed; a phe buasai Duw yn damnio y byd, neu yn ei ddileu o fodoldeb, nis gallai hyny effeithio y golled leiaf iddo ef, ac nid ýw ychwaith yn ennill dim wrth ei achub» " A wna gŵr leshad i Dduw, fel y gwna y synhwyrol leshad iddo ei hun ? Ai digrif- wch ydyw i'r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd ? Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef ? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef ? os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef ? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di ?" (Iob.) Yn awr, gan nas gallai dynoliaeth ychwanegu dim at, na thynu dim oddiwrth ei ogoniant hanfodol ef, gan nas gallai leihau na mwyhau dim ar ei ddedwyddwch ef, rhaid gan hyny, nad oedd dim yn cymhell Duw i garu y byd, ond lleshad y byd yn gyfangwbl, " Canys felly y carodd Duw y byd." 2. Fod ymddygiad y byd yn gyfryw ag oedd wedi haeddu y gosbedigaeth drymaf. Pan yr edrychom i mewn i hanesyddiaeth y byd, ac ystyried ei arferion llygredig a phechadurus, cawn achos i synu a rhyfeddu na ddarfu i'r Duw mawr ddyfod allan yn ei lid, a tharo yr holl hil ddynol â dyrnod ei ddigofaint i wae a dinystr tragywydd- oL Aeth y byd, nid yn unig i beidio caru Duw, ond hefyd yn elynion iddo ef; nid yn unig fe fuont feirw i bob daioni, ond aethant yn fyw i bob drygioni—i garu yr hyn yr oedd Duw yn ei gashau a'i gondemnio» Aeth pob egwyddor, a phob gallu gweithredol 0 eiddo dyn yn hollol 0 dan lywodraeth gelyniaeth berffaith yn erbyn Duw. Daeth holl ddynolryw yn wrthryfelwyr yn erbyn Duw a'i lyẃodiaetìi, yn 23