Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y OEEAL. MEHEFIN, 1866. TRAETHAWD AR AMSERYDDIAETH A CHYNNWYSIAD LLYFRAU PROPHWYDOL YR HEN DESTAMENT. (PARHAD O TUDAL. 101.) LLYFR AMOS. Mae yr hen fardd Hebreaidd hwn, mewn arddull farddonol ardderchog, yn dysgrifio y barnau dwyfol oedd i ddisgyn ar y Syriaid, y Philistiaid, y Tyr- ciaid, yr Edomiaid, yr Amoniaid, a'r Moabiaid, ac hefyd yn erbyn Iuda, (pen. i—xi. 1—5.) yna y mae y prophwyd yn troi at Israel, yn rhifo eu pechodau, yn rhoddi amryw geryddon iddynt, ac yn datgan barnedigaethau yn eu her- byn ; (pen. ii. 6.—iv.) y mae yn galaru uwch ben eu cyflwr, yn eu hannog i edifarhau, a cheisio Duw, a gadael eu heilunaddoliaeth ; yn rhagfynegi eu caethgludiad i Asyria, tuhwnt i Damascus, ac yn dangos sicrwydd, agosrwydd, a thostedd y barnau hyn, drwy amryw weledigaethau cysgodol ; (pen. v—ix. 1—10.) ond wrth derfynu, y mae y prophwyd yn eu cysuro âg addewidion dyddanol ac efengylaidd; codi pabell Dafydd, rhoddi iddynt gyflawnder o ffrwythau, eu dychwelyd o gaethiwed, a'u hail sefydlu yn eu tir eu hunain, y rhai ydynt oll yn gysgodol o fendithion o dan yr efengyl. (pen. ix. 11—15. gwel Act. xv. 16, 17.) LLYFR HOSEA. Ystyrir ysgrifeniadau y prophwyd hwn, y rhai mwyaf dyrys ac anhawdd eu deall o'r holl brophwydi. Mae ei ieithwedd mor fyr a swta, ac eto yn gynnwysfawr; ac mor gyflawn o ffigyrau, a'r symmudiad o'r naill destyn a ffigyr i'r llall mor fynych a sydyn, fel ag y mae yn arwain y beirniaid yn fynych i ddyryswch a phenbleth uwch ei ben ; ac o herwydd hyn y mae esbonwyr yn gwahaniaethu yn eu rhaniadau o hono. Mae ei brophwydol- iaethau yn gyfyngedig yn benaf at ei genedl ei hun, ac Israel yn fwyaf neill- duol o'r genedl hon. Cynnwysa yn 1. DdarJuniad dammegol neu weledigaethol, o buteindra neu anffyddlondeb ysbrydol Israel, yr hyn a ddynodir wrth y gorchymyn i'r prophwyd gymmeryd gwraig, a phlant o odineb, &c. (pen. i. 3.) galwad i edifeirwch, ac addewid o dderbyniad i'r edifeiriol. (pen. i—iii.) 2. Ceryddu a rhybuddio Israel a Iuda am eu pechodau ; datgan barn Duw yn erbyn y bobl, yr offeiriaid, a'r tywysogion, a'u hannog yn mhellach, i ddychwelyd. (pen. iv—vi. I—3.) 3. Y prophwyd yn cwyno o herwydd ymlyniad parhaus y genedl wrth ei phechodau a'i heilunaddoliaeth, ac yn rhagfynegi ei chaethgludiad i Asyria gan Senacherib. (pen. vi. 4—x.) 4. Ail adroddiad o'r un pethau. (pen. xi—xiii. 1—8.) 5. Cyhoeddiad o farnedigaethau ofnadwy, yn gymysgedig âg addewidion o waredigaeth o gaethiwed; annogaethau i edifarhau ac i ddychwelyd at Dduw, a pha fodd i ddychwelyd ; rhagfynegiad o'u hymwrthodiad âg eilun- 17