Skip to main content

Y GBEAL. IONAWR, 1866. DYLEDSWYDD YE EGLWYS TUAG AT Y PLANT, ODDIAR SAFLE Y BEDYDDWYR AG ADDYSGIAD Y TESTAMEHT MEWYDD. Y mae dyledswyddau yr eglwys yn amrywiol a Uiosog, ac oll yn bwysig. Y mae gan bobl yr Arglwydd eu dyledswyddau tuag at Dduw, tuag atynt eu hunain, a thuag at y byd, yn wladol a chrefyddol; ac y mae ganddynt yn bersonol a chynnulleidfaol eu dyledswyddau tuag at y plant; ac wrth adolygu maes mawr eu Ilafur, gellir yn briodol iawn ofyn, " Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" a gellir ateb hefyd yn iaith yr apostol, " Eithr ein digonedd ni sydd o hono ef." Y mater yr ydym ni yn bwriadu galw eich sylw chwi ato y tro yma ydyw, Dyledswydd yr eglwys tuag at y plant,—tuag at y genedl ieuanc; ac ni geisiwn wneyd hyny oddiar safle yr enwad y perthynwn iddo. Y mae rhai, o bossibl, oddiar wybodaeth anmherffaith am egwyddorion eu henwad, yn esgeuluso rhoi addysg grefyddol i'w plant, ddim mor ofalus ag y dylent fod am hyfforddiant a meithriniad crefyddol yr anwyliaid anfarwol y mae y Tad mawr wedi roddi iddynt. Y maent yn deall mai teyrnas ysbrydol ydyw teyrnas Emmanuel, a'i heisteddle yn y galon ; y maentyn deall, (ac yn gywir hefyd,) mai peth personol rhwng dyn a'i Dduw ydyw crefydd, ac mai ffydd ac edifeirwch o du y pechadur ydyw y moddion trwy ba rai y mae yn dyfod i feddiant o holl ragorfreintiau y deyrnas Gyfryngol. Y mae y syniadau yna yn hollol gydunol â'r dadguddiad dwyfol; ac eto, y mae yn bossibl tynu cam gasgliad oddi wrthynt. Y mae y gwirioneddau yna yn cau allan blant o'r deyrnas weledig. üs ydyw y gosodiadau yna yn gywir, mae plant yn amddifaid o'r eymhwysderau gofynol i fod yn aelodau ýn eglwys Dduw. J[ mae llawer o rai mewn oed heb y cymhwysderau gofynol i fwynhau breintiau yr eglwys; ond y mae anallu naturiol mewn plant i weithredu ffydd ac edifeirwch ; a gaîl llawer un dybied, os nad ydyw plant i fod yn yr eglwys, nad oes ganddynt yr un ddyledswydd grefyddol i'w chyflawni tuag atynt, ei bod yn ddigon buan iddynt ddechreu rhoi addysg grefyddol i'w plant ar ol iddynt ddyfod yn alluog i wahaniaethu rhwng da a drwg. Y mae yn bossibl tynu cam gasgliadau oddiwrth athrawiaetbau sylfaenol ein crefydd, yn ogystal ag oddiwrth yr athrawiaeth fawr o ysbrydolrwydd a phersonolrwydd crefydd Crist, ac yn neillduol felly gan bersonau nad ydynt yn deall ond rhanau o'r grefydd Gristionogol, ag heb ei deall fel cyfundraeth. Yr oedd y camsyniad yma yn mhlith y dysgyblion er yn foreu; ac y mae agos yn naturiol iddo fod yn mhlith y dysgyblion ieuainc, ac anmherffaith eu gwybodaeth yn mhob oes o'r byd. Yr oedd ein Harglwydd Iesu Grist yn dysgu llawer ar ei ddysg- yblion yn gyhoeddus ac yn ddirgel am natur ei deyrnas, a'r gwahaniaeth fyddai rhyngddi a'r hen Dduw-deyrnaeth yn ngwlad Palestina. Ar y daith ddiweddaf i Ierusalem, cawn hanes i blant (bychain) gael eu dwyn at yr Athraw. Er fod yn amlwg mai nid derbyn bedydd oedd yr amcan, oblegyd