Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. RHAGFYR, 1865. CANTJ OFFEMNOL MEWN ADDOLDAL Canü yw moliannu yr Arglwydd Iehofa am ei drugareddau. Y mae yn rhan hanfodol o grefydd natur a dadguddiad, ac wedi bod mewn ymarferiad felly yn mhob oes, a than bob goruchwyliaeth. Yr oedd yn rhan o addoliad y paganiaid ; arferid ef gan y genedl Iuddewig cyn rhoddiad y ddeddf ar Seina; gorchymynir ef dan yr oruchwyliaeth Gristionogol, ac ymarferwyd hi gan Grist a'i apostolion, a'r eglwys foreuol. Y mae yr arddull o ganu wedi newid gyda chyfnewidiad goruchwyliaethau, ond erys yr hanfod o hono oddi tan bob un, ac er pob cyfnewidiad. Yr arddull cyntaf y darllenwn am dano yw y lleisiol; hwn yw yr hynaf o lawer; dyma fel y canodd sêr y boreu, a meibion Duw, anthem fawreddog y cread ; fel hyn y canai Adda cyn, ac wedi y codwm, a dyma fel y cana preswylwyr perffaith y nef. Ýr ail arddull yw yr offerynol, yr hwn a ddyfeisiwyd gan Iubal y pummed o Cain, am yr hwn deulu ni ddywed yr hanesydd ddim da; a daeth i ymarferiad yn yr addoliad crefyddol yn nyddiau Dafydd. Defnyddir y ddau arddull mewn Uawer o addoldai, sef y lleisiol a'r offerynol, ac â phriodoldeb yr arferiad yma y mae a fynom ni yn awr. Teimlir gwrthwynebiad cryf i'r arfer gan rai, tra y barna ereill ei bod yn ddwyfol o ran ei tharddiad, ysgrythyrol o ran awdurdod ac ymarferiad, a chydweddol âg ysbrydolrwydd Cristionogaeth ; îe, yn llesiol, fel cynnorthwy i addoli Duw yn iawn. Yn awr, heb gymmeryd arnom i benderfynu y pwnc hwn, ni a gynnygiwn i'r darllenydd y sylwadau canlynol arno, a chymmered hwy am eu gwerth. Dyma hwy:— 1. Nid yw yn ymddangos mai er addoli Duw y dyfeisiwyd ac yr srferwyd ojferynau gyntaf. Cawn hanes eu dyfeisiad yn Gen. iv. 21., lle y dywedir am Iubal mai "efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ ;" yblaenafyn offeryn â thanau, a'r llall yn offeryn chwyth. Mai nid addoli oedd ei amcan a welir yn amlwg oddiwrth y cymmeriad a roddir i'w deulu, ni sonir un gair am eu daioni, a'r cyfan a awgrymir am danynt yw eu bod yn enwog yn y celfyddydau, pethau da ynddynt eu hunain, ond gall yr annuwiol ragori ynddynt gystal a'r duwiol. Nid yw duwioldeb yn cymhwyso dyn i chwareu telyn, neu i forthwylio haiarn a phres. Yr oedd addoli Duw yn beth dyeithr i'r teulu hwn ar y pryd; wedi geni Seth y dechreuwyd galw (yn gyhoedd- us, fe allai,) ar enw yr Arglwydd; ac yr oedd Lamech, tad y Iubal hwn, yn hynod am ei bechod o amlwreigiaeth. Gan hyny, naturiol yw i ni gasglu mai er porthi llawenydd a digrifwch y ddawns y dyfeisiwyd hwy ganddo ar y cyntaf; ac nid ydym yn gweled mwy o gyssylltiad rhwng y rhai hyn â chrefydd nag sydd rhwng pebyll Iabal. neu haiarn a phres Tubal Cain. Yn yr, engreifftiau y cyfeirir at ganu offerynol yn llyfrau hynaf y Beibl, ym- ddengys yn fwy fel gweithred wladol na chrefyddol, megys cân Miriam ar làn y Môr Coch, eiddo merch Iephtha ar ei ddychweliad buddygoliaethus, a merched Israel ar ddychweliad Dafydd p ladd Goliath. Yn y tair engraifft 34