Skip to main content

Y GREAL. HYDREF, 1865. y bedyddwyr: EU BODOLAETH YN ANGHENRHEIDRWYDD PRESENNOL, YN ARGYHOEDDIAD CYDWYBODOL, YN GYNNRYCHIOLIAD AC YN AMDDIFFYNIAD O WIRIONEDDAU YSBRYDOL PWY8IG. (PARHAD O DUDAL. 197.) Apeliant at fedyddiad teuluoedd, gan golli golwg ar y ftaith fod y teulu bedyddiedig yn mhob engraiíFt yn cael siarad am dano fel yn credu, neu yn llawenhau, neu yn ymroddi i weinidogaeth y saint, neu yn frodyr, ac yn cael eu cysuro; tra y mae pob brawddeg a grybwylla am ystyr ysbrydol bedydd, gan ei alw yn "olchi'ymaith bechod," yn "gladdu gyda Christ," yn "achub," yn cael ei wrthod ganddynt fel peth annghymhwys i'r bedydd a weìnyddir ganddynt. Y mae y math hwn o esbonio, yn ymddangos i mi, mor niweidiol i'w parchedigaeth i'r Ysgrythyrau ag yw o annheilwng o'u hysgolheigdod. Y Pabydd a edliwia i'r Eglwyswr ei fod yn cymmeryd ei fedydd oddiwrth draddodiad, a gofyna gan ei fod yn cymmeryd athrawiaeth o'r man hòno, beth sydd rhyngddo a chymmeryd ychwâneg; ac edliwia i'r mabanfedyddwyr ym- neillduol esboniadau annaturiol, gan awgrymu os gallwn esbonio y Beibl fel hyn, y gallwn wneyd y peth a fynom o'i ddysgeidiaeth. Bydded i ddyn gymmeryd ei grefydd oddiwrth y Beibl yn unig; bydded iddo ei esbonio fel yr esboniai dyn plaen unrhyw ysgrif arall; yr wyf yn credu y byddai iddo ddal un bedydd mor sicr a'i fod yn dal ond un Arglwydd ac unffydd. 2. Y mae syniadau ysgrythyrol am fedydd yn hanfodol, neu yn tueddu yn helaeth i syniadau ysgrythyrol ar faddeuant ac adgenedliad, ac ar fabwysiad a santeiddrwydd. Adgenedliad a mabwysiad sydd dermau cydberthynasol; dysgrifiant ddwy ochr i'r un gwaith mawr. Drwy adgenedliad y meddiannwn gymmeriad plant, drwy fabwysiad y rhagorfreintiau; tra y mae y ddau yn gydamserol â maddeuant, ac yn ddechreuad santeiddrwydd. Yn ol yr Ysgrythyrau, adgenedlir dynion drwy y gwirionedd, a chan yr Ysbryd; deuant yn gyfranogion o'r duwiol anian, ac y maent yn y man, yn yr ystyr uchaf ac ysbrydolaf yn feibion a merched yr Arghoydd Dduw Hollalluog. Credant, a maddeuir iddynt yr un amser. Bedydd yw arwydd allanol a gweledig y cyfnewidiad triphlyg hwn—adgenedliad, mabwysiad, a maddeuant. Nid moddion y cyfiawnhad, na'r cymmeriad, na'r cyflwr, nac ychwaith y ddarpariaeth i'r cyfnewidiad, ond yr arwydd allanol o hono yn unig. Y mae i faddeuant ac adnewyddiad yr hyn ag oedd dyfod i flỳdd yn nyddiau ein Harglwydd; am hyn y cymhwysa yr Ysgiythyrau yr un termau i'r arwydd â'r hyn a arwyddoceir. Dywedir ein bod yn anedig o ddwfr yn gystal ag o Dduw; dywedir y golchir ymaith ein pechodau drwy fedydd yn ogystal a thrwy ffydd; dywedir ein bod drwy fedydd yn ogystal a thrwy undeb â Christ yn cael ein claddu gydag ef, a'n cyfodi drachefn i fuchedd newydd; dywedir ein bod mewn bedydd, yn ogystal ag mewn argyhoeddiad, yn dodi heibio yr hen ddyn, ac yn gwisgo y newydd; a dywed mai bedydd—yma,téb cydwybod dda tuag at Dduw sydd yn ein hachub ni. Geni, golchi, gwisgo, achubiaeth,—y cyfryw- yw dysgeidiaeth y Beibl parthed natur ac arwyddocâd yr ordinhad ei hun. Ond cyfnewidier y dull: taeneller y talcen, gadawer i'r ffrwd ddisgyn ar y pen, a dyna arwyddocâd yr ordinhad wedi myned. Yr ydym ni yn wahanglwyfus o'r pen i'r traed; ac os ydyw ein cnawd ni i ddyfod fel cnawd dyn bach, rhaid i'r Iorddonen orchuddio pob rhan o'n corph. Y mae pob cynneddf wedi ei llechwino gan bechod, a phob gweithred yn ddiflygiol mewn egwyddor a mesur; y mae yr holl ddyn mewn anghen maddeuant. Yffaith hon a gydnabyddir gan fedydd, ond a wedir gan daen- elliad. Claddu gyda Christ nid oes ynddo, ac nid oes ynddo godi i fuchedd newydd; nid oes ynddo roi heibio hen arferion, nac jTngymmeryd â rhai newyddion. Gwneir ordinhad o arwyddocâd ysbrydol pwysig i fod heb ystyr, neu fe'i gwneir i ddysgu nad oes arnom eisieu ond adnewyddiad rhanol, a maddeuant rhanol. Eto newidier y deiliaid. Gosoder yn lle dynion edifeiriol a chrediniol, fabanod 28