Skip to main content

Y GREAL. AWST, 1865. Y RHAI FU'N GYNNORTHWYOL PR EFENGYL. <fêan Ur. tyricỳarü, HlangoIIen. "Ni a ddylem gan hyny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gydgynnorthwywyr i*r gwirionedd."—3 Ioan 8. Mae Uawer o deuluoedd ynNghymru wedi eu codi gan Dduw i fod yn gynnorthwyol i'r efengyl yn y trigain mlynedd diweddaf; trwy letya pregethwyr, cynnorthwyo yr achos â'u heiddo bydol, ac addurno profTes â bywyd duwiol, a chymhell crefydd ax ereill trwy fywydau rhinweddol a geiriau grasol; megys teulu R. Williams, a Pahner ar ei ol yn Amlwch; James Williams a'i ferch, yn Llandudno; teulu Llanwydden, Robert Edwards; a Harry Parry, yn Ehuthyn; R. Foullces, yn Ninbych; a theulu y Plasucha', yn Rhiwabon, a llawer ereill nas gallaf yn awr eu nhodi, eithr y maent oll wedi eu cofrestru yn y nefoedd. Os gwelodd yr Ysbryd Glân yn ddoeth gofnodi teulu Obededom, a'r wraig o Sunem, am eu gofal am achos Duw, na feddylied y darllenydd ei fod. o le adgofio am weithredoedd da rhai o'r teuluoedd a enwasom. Credwn iddynt gael eu bendithio yn eu gwaith gystal a'u gwneyd yn fendith. Yn yr ysgrif hon, ni a ddyfynwn o lyfr y cef ychydig bethau am deulu y Plasuchaf. Saif y tŷ hwn, sydd wedi bod am gynnifer o flynyddoedd yn llety i weision Crist, a'r teulu wedi bod yn noddwyr crefydd, ar dipyn o godiad tir, o dan gwr y Mynydd du, ddwy filltir o Riwabon, i'r De-Orllewin, yn ngolwg dyffryn Maelawr; Úe ceir un o'r golygfeydd prydferthaf, ac ëangaf a fedd Gwynedd, ac un o'r plwyfydd amlaf ei drigolion, o'r rhan hòno o'r dywysogaeth, ac yn awr amlaf ei ymneillduwyr. Tua y flwyddyn 1776, tueddodd Ysbryd Duw, trwy air y gwirionedd, Catherine Roberts, gwraig barchus y Plasuchaf, i roddi ei hunan i'r Arglwydd, ac i'w bobl yn ol ewyllys Duw, a bedyddiwyd hi ar broffes o'i ffydd yn Mab Duw, ac ymunodd â hen egîwys Fedyddiedig y Cefn bychan. "Trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corph." (1 Cor. xii. 13.) Yr unig eglwys ymneillduedig, dros lawer o flynyddoedd yn y plwyf, lle mae yn awr o leiaf, o gynnuÙeidfaoedd ymneülduol, bedair ar bymtheg, a chymmeryd Rhosllanerchrugog i'r cyfrif. Clywais am dani yn myned i'r Cefn bychan, ar gefn ei cheffyl mawr, bob boreu Sabbath mor gysson a chodiad haul, i dderbyn adfywiad enaid oddiwrth oleuni a gwres Haul y cyfiawnder, trwy air y gwirionedd. Bu yn foddion, mewn amser, i ennill ei gwr i gofleidio yr un egwyddorion a hi ei hun, yr hwn cyn hyny oedd ymlynwr wrth y Trefnyddion Calfinaidd. Bu ef a hithau, ac ereill, yn foddion yn llaw Duw i gael addoldy a chladdfa fechan yn Mhenycae, pentref poblogaidd yn awr, tua hanner milltir o'r Plasuchaf, ar y ffordd i Eiwabon, tua y flwyddyn 1809. Gwr oedd Samuel Roberts, a'r gair garwaf yn nghyntaf, yn arfer siarad mewn cywair uchel; a byddai yn dychrynu, weithiau, ambell i bregethwr dyeithr, â'i lais uchel a'i air garw: ond er hyny, cai cenad Crist wybod cyn ymadael â S. Roberts, mai cyfaill y ffyddloniaid ydoedd. Gwasanaethed yr hanesyn canlynol i ddangos rhyw beth o'i arfer. Ar gynhauaf gwair, daeth dau fyfyriwr o'r Fenni i bregethu i Benycae, y doniol Jencyn Thomas, a'r duwiol Ellis Evans. Diau y pregethodd y naill yn ddoniol, a'r llall yn dreiddgar a defnyddiol dros ben, nes blino gan y daith a'r llafur. Cawsant yn y Plasuchaf luniaeth i gryfhau y corph, a gwely da i'w dadflino. Boreu drannoeth, cyn meddwl deffro, chwaethach codi, dyna lais S. Roberts, yn eu galw at y ddyledswydd deuluaidd; ac yr oedd mwy o rym yn ei lais na Monitor yr Athrofa, i'w cael ar eu traed. Wedi y ddyledswydd, a boreufwyta, dyna orchymyn hynod i'r ddau efrydydd, i fyned i weithio am eu llety i'r cae gwair. Nid oedd y meddwl gwanaf ynddynt i ddywedyd, "Na," o herwydd awdurdod y gorchymynwr. Wedi cyweirio gwair, hyd nes^ oedd yswigod ar eu dwylaw meddalion, a chael ciniaw rhagorol, a myned eüwaith â'r dwylaw dolurus a'r cefnau blin, at y bigfforch a'r gribin, dyna Thomas Roberts, y mab, yn cyfarch y ddau weithiwr newydd, "Wel, wyr da, cewch noswylio yn awr, cyn dechreu gwaith y prydnawn, er mwyn i chwi barotoi eich pregethau erbyn heno. Y mae fy nhad wedi 22