Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. GORPHENAF, 1865. BLAGÜR MYFYRDOD. RHIF XXVII. " Ac y mae cyfaill a lýn wrthyt yn well na brawd."—Diar. xviii. 24. ®an s $arcf). ffi. ©bans, ©uöleg. Mae cyfeillgarwch wedi bod yn destyn parch a chlod yii mhob oes o'r byd. Mae beirdd wedi bod yn dadgan ei felusder," athronyddion wedi bod yn darlunio ei ddefn- yddioldeb, ac haneswyr wedi bod yn bytholi'ei orchestion. Yn mhlith cyfeillion daearol, mae Uawer wedi profi eu hunain yn gyfeillion gau; yn mhlith y diffuant a'r ffyddlon, gwelir ffaeleddau ac anmherffeithderau mawr. Arweinir ein meddyliau yn ein testyn at un na welwyd mo'i gydradd erioed. " Y mae cyfaill a lỳn," "Here is a friend;" nid "mae cyfaill a lŷn yn well na brawd," ond "y mae cyfaill." Dadleuir gyda llawer o nerth a phriodoldeb fod yma gyfeiriad at Gríst—" Cyfaill pubHcanod a phechaduriaid." Pa un ai gwir a'i peidio yr haeriad, gellir cymhwyso y geiriau at Grist gyda y priodoldeb mwyaf. Gwnawn ar eu pwys y sylwadau canlynol:— I. Fon ae, ddyn anghen cyfaill. Profir hyny gan y rhesymau a ganlyn:— 1. Mae efe wedi ei greu yn greadur cymdeithasol. Planwyd elfenau cyfeiÜgarwch yn ei gyfansoddiad. Pe amgylchynid ef â danteithion penaf y ddaear, ac y gwrthodid iddo gyfaill, dihoenai a threngai. Nid ydyw wedi ei greu i fod yn unigol: megys y sycheda yr hydd am y dyfroedd, felly y chwenycha dyn am gymdeithas. 2. Ei wendid. Mae ar y gwan anghen cynnorthwy. Mae dyn yn lled fethiedig; pan ar yr un pryd y mae ei faich yn drwm, a'i wrthwynebwyr yn alluog; mae arno anghen cyfaill i bwyso arno ar ei daith, i'w adgyfnerthu yn y winllan, i'w gynnorthwyo yn yr ymdrech. 3. Ei anwybodaeth. Mae ar yr anwybodus eisieu cydymaith i'w arwain a'igynghori. Mae dyn yn llawn tywyllwch, pan y mae y byd yn llawn dyryswch. Ni fedr rodio hanner cam heb ryw un i'w dywys. Mae arno anghen cyfailí—cyfaill a fydd iddo yn golofn o niwl y dydd, ac o dân yn y nos, pan yn yr anialwch—cyfaill a fydd iddo yn fugail ar y bryniau tywyll—cyfaill'a fydd iddo yn gwmpas ar y moroedd" tymhestlog. 4. Ei dlodi. Mae ar yr anghenus eisieu rhyw un a fedd ar ddigon o dynerwch, a chyfiawnder i ddiwallu ei chwantau. Medd dyn ar chwenychiadau gwancus; mae efe ar drengu o newyn, ac ar farw o syched, ac os na chymmer rhyw un drugaredd arno, marw o eisieu a wna. Mae arno anghen cyfaill a fedd ar fendithion cymhwys ar ei gyfer, a ddiwalla anghenion ei galon, ac a lenwa serchiadau ei enaid. 5. Ei druenusrwydd a' i gyflwr colledig. Mae ar y gresynol eisieu rhyw un i'w gysuro, mae ar y colledig eisieu rhyw un i'w waredu. Nid oes ar y ddaear greadur truenusach na dyn; galwa am ryw un i'w ddyddanu—rhyw angel i'wfjFanio â'i aden nefolaidd yn ei lewyg—rhyw gâr i'w loni yn ei resynolrwydd—rhyw gyfaill i'w sirioli a'i ad- gyfnerthu yn ei ddagrau a'i drueni. Mor anobeithiol hefyd ei gyflwr! Mae efe yn garcharor yn llaw cyfiawnder, mae arno eisieu rhyw un i glirio ei ddyled; mae efe yn gaethwas yn nghaethiwed Satan y gormeswr creulonaf erioed; mae arno anghen rhyw un i ddyfod yn mlaen fel Gwaredwr i dori ei gadwynau, a'i ddwyn i ryddid. Mae efe yn llawn o bla angeuol, ac o glwyfau na rwymwyd, ac na thynerwyd âg olew; mae arno eisieu rhyw feddyg i wella ei archollion, a symmud ymaith ei afìechyd. Mae ar ddyn anghen cyfaill. II. Maje yn yb. efengyl gyfaill ae ei gyfer. Gelwir Crist yn "Gyfaill pechad- uriaid," a gelwir pechaduriaid yn " Gyfeillion Crist." Cymmerodd Crist yr enw arno ei hun, ac ni chymmerodd arno erioed un enw mwy priodol. Llenwodd y eymmeriad i'r perffeithrwydd eithaf, a phery yn ffyddlon iddo'hyd ddiwedd amser. 1. Fel cyfaül cara blant dynion. Nid oes gwir gyfeillgarwch heb gariad fel ei«ylíaen. "Fely carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau." Cariad Crist at ei gyfeillioa yw model pob cariad arall. "Megys y carodd Crist ei eglwys." Baich ymÍBrost pob peehadur dychweledig yw, " Yr hwn a'm carodd, ac a ddodes ei hun drosof fi." Cariad Crist ydyw sylfaen gobaith y Cristion am fuddygoliaeth ar éi elyniön. "Mwy m 19