Skip to main content

Y GREAL. MEHEFIN, 1865. Y DYSGEDYDJ) A BEDYDD. (PARHAD O TUDAL. 100.) Cawn yn y paragraff nesaf engraifft nodedig o annhegwch a digywilydd-dra erthyclwr y Dysgedydd, sef yn ei esboniad o Rhuf. vi. 3.: dyma y modd y dyfyna efe yr adnod er gosod allan y gwrthuni o roi y gair trochi ynddi yn lle y gair bedyddio,— " Wedi trochi i Grist, wedi trochi i'w farwolaeth." Yna goì'yna "A ydyw hyn yn ddealladwy?" Wfft i'r dyn a fedr wneyd y fath annghyfiawnder â geiriau Duw! Gwneyd jumble diystyr o honynt, yna gofyn a ydynt yn ddealladwy! Os gwir y bydd dynion yn gyfrifol am bob gair segur a lefarir ganddynt, a ydyw yn debygol y diangant am eu gwyrdroad gwirfoddol fel hyn o eiriau Duw? Darllener yr adnod fel y mae, ac yna barner y priodoldeb o ddodi yr ystyr o drochi i'r gair bedyddio:— " Oni wyddoch chwi am gynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedydd- io ni i'w farwolaeth ef." Cymharer y geiriau hyn â'r dyfyniad proffesedig uchod o honi, a phwy a fedr ymattal rhag dadgan ei fîìeidd-dra o'r fath gamwri â'r gwirion- edd? Os â phethau fel hyn yn unig y gellir amddiffyn taenelliad, onid yw yn llawn bryd ei roi i fyny fel peth anamddiffynadwy? Cyn gadael yr adnod, beth sydd yn annealladwy ynddi, a rhoi i'r gair bedydd ei ystyr ganiatâol o drochi,—" Oni wyddoch chwi am gynnifer o honom ag a drochwyd i Grist Iesu, ein trochi ni i'w farwolaeth ef? Claddwyd ni gan hyny gydag ef trwy drochiad i farwolaeth." Beiddiwn ddweyd gyda phob dyn fod mwy o reswm yn yr ystyr hwn i'r gair na phe gosodid y gair tywallt neu daenellu i mewn. Pa reswm a geir yn yr adnodau uchod â'r gair tywallt neu daenellu i mewn? "Oni wyddoch chwi am gynnifer o honom ag a" dywalltwyd "i Grist Iesu" (ai y nhw a dywalltwyd, ai ynte y dwfr?) "ein" tywallt "ni i'w farwolaeth ef ?" Eto, "Claddwyd ni gan hyny gydag ef trwy " daenelliad "i farw- olaeth." Y mae yn syn fod dyn a hona fod yn feistr mewn ieithyddiaeth yn dadlu am beth mor wrthun. Astudied ychydig ar ei " Reolau Cyfansoddiad " ei hunan. Dywed, "Ni feddai yr apostol unrhyw feddylddrych am gladdu mewn bedd." Gwir iawn; ond claddu mewn dwfr oedd gan yr apostol. Dywedodd y gwir am unwaith heb geisio. Dywed hefyd nad bedydd dwfr oedd ganddo mewn golwg, a'i reswm dros hyn yw, nad oes gair o son am d'dwfr yn y bennod. Wel, bedydd beth oedd ganddo?" O, ebe'r erthyclwr, " Bedydd yr Ysbryd." O, ai ê, wir; oni ddywed- odd yr erthyclwr fod dystawrwydd y bennod am ddwfr, yn profi mai nid bedydd dwfr a olygid ? Ydyw, siwr. Wel, goddefer i ninnau ofyn, onid ydyw dystawrwrydd y bennod am "Ysbryd," yn profi nad bedydd yr Ysbryd a olygir? Ÿdyw, siwr, yr un cymmaint; ac felly, y mae ymresymydd y Dysgcdydd wedi ymresymu bedydd Paul yn fedydd dim. A ydyw absennoldeby gair dwfr, pan y sonir am fedydd, yn gwneyd y bedydd hwnw yn rhywbeth heblaw bedydd dwfr ? Nac ydyw, bid siwr. Pan y dywedir fod y Phariseaid a'r Saduceaid yn dyfod i fedydd Ioan, nid oes son am ddwfr; wel, a oes rhyw un mor ffol a dadlu mai nid bedydd dwfr oedd bedydd Ioan? Eto, dywedir i Iesu ddyfod o Galilea i'r Iorddonen at Ioan i'w fedyddio ganddo; nid oes son am ddwfr yna, ond a oes rhyw un a ddadleua nad i fedydd dwfr y daeth Iesu ? Perthynas gyntaf a phriodol y gair sydd â diofr; a phan y defnyddir ef gan ysgrifenwyr y Testament Ne^wdd ar ei ben ei hun, golygant iddo gael ei ddeall felly; oblegyd pan y defnyddiant ef allan o'i berthynas gyntaf a phriodol, gofalant am "ddodi yn nglyn âg ef eiriau priodol i olygu hyny. Os yw ysgrifenwyr y Testament Newydd yn son am fedydd yr Ysbryd, gofalant bob amser gyssylltu y gair Ysbryd âg ef; (Luc iii. 16. Ioan i. 33.) ond pan y defnyddiant ef yn ei ystyr gyntaf a phriodol o fedydd dwfr, ni ddefnyddir ond y gair bedydd: gwel Act. ii. 38., lle y dywed Pedr mewn atebiad i ofyniad y bobl yn nghylch pa beth i'w wneyd, " Edifarhewch, a bedyddier pob un o honoch," &c.; nid oes gair o son am ddwfr yna, ond eithafion ffolineb fyddai dadlu am hyny nad beâydd dwfr a olygid. Ffolineb yr un cymmaint yw dadlu nad bedydd dwfr a olygai yr apostol yn Ehuf. yi. 3, 4. Dywed yn y paragraff nesaf, nad oedd y Cristionogion cyntefig byth yn bedyddio 16