Skip to main content

Y GEEAL. MAI, 1865. Y DYSGEDYDD A BEDYDD. (PARHAD O TUDAL. 76.) Dechretjir yr ail erthygl gyda'r gosodiad beiddgar na " fedyddiodd yr Iuddewon erioed trwy drochiad." * Yr oeddym ni wedi arfer meddwl mai ordinhad'Gristionogol oedd hedydd, ac felly mai y cwestiwn i benderfynu ar ddull yr ordinhad oedd, pa fodd y gwnai Crist a'i apostolion, ac nid pa fodd y gwnai yr Iuddewon. Pe amcan y Dysgedydd a'i erthyclwr fyddai gwneyd Iuddewon o Gymry, byddai yn dipyn o heth iddo broíi beth oedd dull yr Iuddewon o fedyddio. Ond gan mai gẁneyd Cristionogion a broffesa, dylai yn hytrach wrando ar Grist a'i apostolion; " Gan eu dysgu i gadw pob peth ar a orchymynais i chwi." (Mat. xxviii. 20.) Nid pob peth a orchymynodd Moses i chwi, ond "a orchymynais i." Y mae taenellwyr yr oes hon yn euog o wneyd yr hyn a gondemniai yr apostolion Gristionogion eu hoes hwj' o wneyd, sef myned at Moses ac Iuddewiaeth, a'u cymmysgu â Christ a Christionogaeth; ond nis gallwn ryfeddu eu bod yn myned at Iuddewiaeth am ryw fath o sanction i'r daenell, gan eu bod yn methu a chael un math yn y Testament Newydd, y man priodol i'w chael, pe i'w chael o gwbl. Y mae y rhedeg hwn o du y taenellwyr at IuddeMÌaeth yn beth a eilw y Sais yn tacit achnoioledgement o annigon- olrwydd prawfion y Testament Newydd. Y mae taenell y Testament Newydd jn beth'mor eiddilaidd fel y rhaid cael ffyn baglau o'r Hen Destament i'w gynnal. Wel, rhowch i ni weled pa fath rai ydynt. Ei osodiad yw, " fod holl olchiadau a phuredigaethau crefyddol yr Iuddewon drwy daenellu; ac yn engraifft, noda Num. viii. 6. xix. 13. Lef. xiv. 7. 51. Cymmerwn yr adnodau hyn, ac edrychwn pa faint o wir sydd yn ei osodiad yn eu gwyneb. Num. viii. 6.; wele yr adnod,— " Cymmer y Letìaid o fysg meibion Israel a glanhâ hwynt." Ychwaneger yr adnod ddilynol,—" Ac fel hyn y gwnai iddynt i'w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i'r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt." Cofier osodiad yr erthyclwr, sef fod holl olchiadau a phuredigaethau crefyddol yr Iuddewon drwy daenellu. Wel, y mae ei adnodau ef ei hun i brofi ei bwnc, yn profi fod yno drochi yn ogystal a thaenellu; oblegyd pa fodd y golchir gwisgoedd ond trwy eu trochi. Sylwer eto, os yw Indipendia yn myned i gymmeryd yr adnod uchod yn rheol bedydd y Testament Newydd, heblaw taenellu, rhwyma hwynt i wneyd dau beth arall, sef trochi y dillad, a chyfyngu y daenell i rai mewn oed, ac yna beth a ddaw o'r babanod—y pethau bach anwyl. Os yw puredigaeth Iuddewig yn rheol bedydd Cristionogol, gofyna i'r bedydd Cristion- ogol fod yn daenellu a throchi, a hyny, cofier, i bersonau mewn oed yn unig. Yr ail engraifft: Num. xix. 13. " Pob un a gyffyrddo â chorph marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhâo, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorir ymaith yr enaid hwnw oddiwrth ísrael: am na thaenellwyd dwfr neillduaeth arno, aflan fydd efe ; ei aflendid sydd eto arno." Yn esboniad ar yr adnod hon, galwn sylw at adn. 19.—" A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a'r seithfed dydd; ac ymlanhâed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr." Sylwer fod yr adnod yn son am ddau beth fel yn gwneyd y puriad, sef taenelliad ac ymlanhad; yma, eglurir yr ymlanhad yn ymolchi mewn dwfr. Y mae y gair ymolchi hwn yn cael eigyfieithu yn adn. 7. o'r bennod yn drochi; " A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwir, ac wedi hyny deued i'r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr." 'Nawr, cofier osodiad yr erthyclwr, sef mai trwy daenellu yr oedd yr Iuddewon yn puro * Diau fod y darllenydd yn cofio i ni roi o'r blaen engraifft o ddull yr erthyclwr hwn o ymresymu yn y paragraph cyntaf o'i erthygl gyntaf. Cawn yma engraifft arall o'r un dull;—Nid oedd yr Iuddewon yn trochi, o ganlyniad, nid trochiad yw bedydd Crist!! Argyhoeddiadol iawn, yn wir; gymmaint felly a'r canlynol:—Nid yw y Dysgedydd gn amddijfyn y bedydd Cristionognl, o ganlyniarì nid yw y Grk4ij» uwneyrt hyny ychwaith; nid yw Indipendia yn trochi, o ganlyniad nid yw y Bedyddwyr yn gwneyd hyny ychwaith. Ffwlbri, ebe y darllenydd-, îe, ond cofier, gyda ffwlbri fe) hyny yr amddiffyna erthyclwr y Dyigedydd ei fedydd. 13