Skip to main content

Y GBEAL. MAWRTH, 1865. Y DYSGEDYDD A BEDYDD. Y mae yn achos o lawenydd, nid bychan i ni, ganfod y pwnc o fedydd yn cael y sylw y mae'n gael y dyddiau hyn. Gwelwn ei fod yn dyfod yn un o bynciau y dydd yn mhlith y taenellwyr. Y mae yr hyn y treuliwyd cymmaint o amser i ber- swadio y bobl nad oedd un pwys ynddo," yn dyfod mor bwysig fel ag i gael trafodaeth yn erthyglau arweiniol eu prif goihodolion. Yr ydym yn llawenhau am hyn, am ein bod yn credu yn gydwybodol y bydd yn y pen draw yn ennill i'r gwirionedd. Man- tais i'r gwirionedd ydyw iddo gaeì ei drafod, serch fod y drafodaeth hòno yn ymdrech i amddiífyn yr agwedd gyfeiliornus o hono. Y mae tuedd yn hyn, i agor Uygaid y call a'r sylwgar, a pheri iddynt chwilio drostynt eu hunain. Yn ngwyneb hyn, ein barn gydwybodol yw, fod y Drysorfa a'r Dysgedydd, trwy eu hysgrifau ar fedydd, er mai yr amcan yw amddiffyn y daenell, eto yn gwneyd gwasanaeth dirfawr i fedydd y crediniol trwy drochiad. Trwy hyn daw y pwnc yn destyn ymddyddan y bobl yn y gweithiau, y chwarelau, y pyllau glô, &c, a rhydd fantais i'r Bedyddwyr amdcÙffyn. y gwirionedd ; ac yn mhob dadl o'r natur y mae yr ennill wedi bod yn ddiammheuol i'r Bedyddwyr. Un o'r pethau mwyaf anffortunus i fedydd y crediniol ydyw, y duedd sydd yn ddiweddar yn y taenellwyr i osgoi y pwnc—i beidio clywed dim am dano—i'w ymlid o'r pwlpud, o'r gyfeillach, a'r cyhoeddiadau. Ond gwelwn erbyn hyn fod pethau yn cymmeryd agwedd arall. Gadawer iddynt, y maent yn gwneyd eu gwaith yn fendigedig, ac heb yn wybod iddynt eu hunain yn gwneyd gwaith y Bedyddwyr. Un peth yn neillduol sydd yn tynu ein sylw yn y drafodaeth bresennol o'r pwnc yn y Dysgedydd a'r Drysorfa, yw, y dull rhyfedd y gwrthwynebant eu gilydd. Druan oedd y trueiniaid sydd i ymddwyn dan eu harweiniad. Gallwn dybio mai yr atebiad effeithiolaf i'r ysgrifenwyr ydyw gwneyd i'r naill ddarllen ysgrifau y llall; ac oni ddylent yn gyntaf ddyfod i'r un farn eu hunain cyn ymosod mor haerllug ar fedydd y crediniol ? Un peth arall sydd yn tynu ein sylw, mewn perthynas i'r drafodaeth hon ydyw, yr ysbryd yn mha un y dygir hi yn mìaen. Y mae Methodistia dipyn yn foneddigaidd, ac yn dra theg, am hyny y mae ein gobaith o honi hi yn llai. Ŷ mae Independia yn flagarllyd dros ben, fel arfer, ac y mae hyn yn ein barn ni bob amser yn argoel dda. Y mae bob amser yn ffrwyth ymdeimîad o wendid ; a phan y byddom yn canfod taenellwyr yn ceisio ysnafeiddio y Bedyddwyr yn lle trin y pwnc, dygir i'n cof yn nodedig o fywiog, waith yr Iuddewon yn poeri i wyneb ein Harglwydd wedi methu gwrthsefyll ei resymau. Eto yr ydym yn datgan ein cred ddiysgog y bydd yr ysnafedd malais a deflir gan daenellwyr ar y Bedyddwyr yn troi yn eli llygaid i'w dysgyblion hwy eu hunain, i'w dwyn o ddallineb rhagfarn i weled y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Er cymmaint y gwahaniaethwn yn ein barn oddiwrth Mr. Saunders, eto diolchwn iddo am ei ysbryd têg a boneddigaidd. Ond nid yw boneddigeiddrwydd ýn beth y gwyr Independìa ond y nesaf peth i ddim am dano, a llai na hyny pan y mae ganddi y pwnc o fedydd i'w drafod, neu y Bedyddwyr i ymwneyd â hwy. Y mae llawer o wir yn yr hyn a ddywedai y Gwyddel pan yn esbonio i'w gydymaith y gair Independent a welent uwch ben drws capel Annibynol, ebai, " it means that all the people who go in there do not care the d-lfor any body," a gallwn ninnau, a barnu oddiwrth yr ysgrif yn y Dysgedydd, ychwanegu "norfor the truth neither." Mae'n debyg mai math o set off i bregeth alluog a thaenell-ddinystriol y Parch. H. W. Beecher," yw yr erthygl yn y Dysgedydd. Y mae y gwron hwn yn ei bregeth nerthol wedi rhoi ergyd farwol i'r daenell, fel y mae ei gorph yn gorwedd ar y llawr heb braidd ddigon o nerth i roi yr anadl oíaf, ac o drueni drosto y mae Independia â megin ddimai y Dysgedydd yn cèisio chwythu ychydig o anadl einioes i'w ysgerbwd, ond gall benderfynu nad yw ond ei helpu i roi y chwythiad olaf. Rhoddwn i'n darllenwyr ychydig engreifftiau o ddull yr ymresymir bywyd i'r daenell. Ei osodiad cyntaf yw, " Fod yn amlwg mai taenellu neu dywallt yw yr unig fedydd ysgrythyrol." Y mae yr oracl hwn yn wahanol iawn ei farn i Mr.