Skip to main content

Y GREAL. TACHWEDD, 1862. Y PARCH. JOHN WILLIAMS, RHOS, GYNT DREMEWYDÜ.* Non est ad ostra molis a ierris. Cynnwysa yr arwyddair uchod wirionedd pwysig," Nid oes fFordd hawdd o'r ddae- ar at y sêr," neu nid trwy ymdrechion cyffredin y cyfyd dynion o dlodi a dinodd gan gyrhaeddyd safleoedd o ddefnyddioldeb, a meddiannu lle yn nheml anfarwoldeb. Yr oedd y diweddar John Williams yn ddyn o faintioìi canolig, o bryd goleu, talcen uchel mawreddog, ac yn ei gerddediad yn tueddu i wargrymu. Nid oedd raid i chwi ond sylwi ar ei dalcen uchel llydan er canfod dyn o ranau naturiol cryfion. Fel ysgolhaig, tybiwyf nad oedd yn ail i un gweinidog ymneillduol yn y dywysog- aeth. Yr oedd gartref yn y clasuron, medrai eu darllen gyda rhwyddineb a phar- odrwydd neillduol, gan werthfawrogi eu holl amry wiol geinion, meddwl, a ieithwedd. O Roeg y Testament Newydd yr oedd yn berft'aith feistr; yr oedd wedi ei astudio yn fanwl, air wrth air, adnod ar ol adnod, a phennod ar ol pennod, er cael allan ei feddwl. Yr oedd hefyd y» nodedig o hoffo Feidroriiaeth, (Mathematics) ac arferai siarad bob amser am danynt fel pethau o duedd i ddysgyblu a chryfhau y gallu- oedd meddyliol yh ogystal a dysgu y meddwl i sylwi yn graffus a manwl, ac i ym- resymu yn gywir. Yr oedd ei feddwl o nodwedd arddansoddol, (Metaphysical) a medrai ddilyn Locke a Jonathan Edwards yn eu harchwiliadau mwyaf dyfn- dreiddiol gyda'r hyfrydwch bywiocaf. Siaradai am Loclce fel meddyliwr dwfn a gwreiddiol, ac fel dyn o ysbryd pwyllog a rhyddfrydig, yn caru y gwirionedd er ei fwyn ei hun. Cydunai âg ef yn hollol o barthed ffynnonell ein meddylddrychau, a'u bod yn caef eu cynnyrchu trwy gyfrwng y synwyrau a myfyrdod. Nid oedd wedi darllen Kant, neu'r wyf yn sicr y buasai yn cymesuro (modify) ei olygiadau o barth cyfryngwriaeth y synwyrau yn nghynnyrchiad ein meddylddrychau. O barth gwreiddioldeb Locke, nid oes ammheuaeth, er hyny, nis gellir gwadu nad oedd i raddau helaeth yn ddyledus i Hobbs. Meddai hefyd syniadau uchel am Jonathan Edwards f'el ymresymwr, ac ystyriai ei Iyfr ar yr ewyllys yn on hestwaith ymresymiadol; ac mewn ymddyddan, sylwai'n fynych, " Os caniatewch ei (Ed- wards) gynseilíau, dilyna ei gasgliadau yn anwrthwynebol; ae os mynwch ddangos ffoledd ei gasgliadau, rhaid i chwi wrthbrofi ei gynseiliau." Er fod John Williams yn meddu llawer o'r athronyddol yn ei gyfansoddiad, eto carai yn fawr gwmni yr awen, a daliai yn ainl gymmundeb felus â Dante, Milton, a Shakespeare. Arferai alw Shakespeare, brenin y beirdd. Ystyriai fardd Avon fel yn meddu gwelediad feddyliol gryfach na'r hoü feirdd Seis'nig ereill; meddai lygad a dreiddiau i gonglau eithaf anian, gan ddesgrifio ei cheinion gydag ysbrydoìiad bardd nef-anedig, a manyîrwydd yr athronydd. Yr oedd wedi darllen yn fanwl y natur ddynol: «aìiai ddesgrifio pob dyn, dan bob amgylchiad ; gallai osod y galon yn agored fel y gallwn ganfod ei gweithrediadau mewn cariad, mewn casineb, mewn gwrolder, mewn ofn, mewn llawenydd, mewn tristwch, mewn rhinwedd, niewn drygioni; yn mhrydferthion bywyd, yn ngauaf hen ddyddiau, ac yn angeu, dechreùad anfarwol- deb. Sicr yw fod Shakespeare yn fardd a gweledydd ysbrydoledig. Fel dysgawdwr Cristionogol, nid oedd ond ychydig a ddeuai i fyny â J. W., ac y mae yn ammheuol a oedd a ragorai arno. Meddai y dalent ddedwydd i ddysgu yr anwybodus a'r moesgar, i ddangos gwrthuni credoau a haerebau hynafiaethol, a dwyn i'r goleu uwch amlygiadau o ffydd ac ymarferiad. Gallai ddyfod â'r gwirion- eddau uwchaf o fewn cyrbaedd yr amgyffredion gwanaf. Ni adawai i'r hen wraig i fyned o'r areithiau boreu Sabbath heb ymborth ysbrydol i feitlirin ei by wyd Crist- •ionogol. Yr oedd ei iaith ynsyml, ond coeth ; ei ffugyrau a'i egluriadau (illustra- tions) a dynaioddiwrth arferion bywyd beunyddiol, a meddent nodwedd tieillduol o deuluol, a'r rhai hyny heb fod yn sathredig a gwael. Yr oedd ei arddull yn * Cyfieithiad ydyw yr ysgrif hon o un a ymddangosodd yn y Llanidloes ŷ Newtown Telegraph. 31