Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. TACHWEDD, 1857. EMMA WYNNE/' NEU Y WYRYF ÛWYLLEDIG. (PARHAD O TUDAL. 221.) "Y Tad goreu a'n cadwo," meddai ElKn Jones, " Beth mor sobr ydyw magu plant; yr oeddwn i trwy y dydd heddyw yn ceisio gosod fy hun yn lle Ann Wynne; yr wyf yn credu pe buasai y fath beth yn dygwydd yn ein teulu ni, na buaswn alluog i godi byth o'm gwely; ond pe dywedasai rhyw un hyn iddi hithau ychydig amser yn ol, buasai mor ummheu9 ganddi ag ydyw genym nin- nau." " Yn wir," ebai Siôn Jones, " Mae yn anhawdd dweyd pa un oreu fuasai i ti fod yn Ue Ann Wynne, ynte, yn lle Catherine Hughes, y Glyn; gwn un peth, fod yn well genyf heno fod yn ngroen Siôn Jones, Red Lìon, na bod yn ngroen Richard Hughes, nid yw ond ífoledd dweyd na aìlasent wrth eu bach- gen, oblegyd gwn i yn amgenach. Yr oedd yn cael ei ben yn mlaen fel y mynai Ean yn blentyn, ac felly hyd y dydd wn; nid wyf yn meddwl iddo gael nemawr gynghor ganddynt erioed, er na chly wais un peth hynod iawn am dano, ond ei fod yn lled wyllt, ac yn. dra hoíf o wamalu gyda y menywod. Sicr y gall- asent, ac y dylasent wneyd mwy i'w gadw dan eu llywodraeth. Maent yn dweyd y rhegai ei fan'i yn arswydus pan wedi ei gyífroi, ac anhawdd genyf feddwl y_ gwna un plentyn hyny y byddo ei rieni wedi gwneyd eu dyledswydd ato ; ond mae wedi dyfod yn ddigon chwerw i'w cwpan erbyn heno. Clywais ddoe fod David wedi dianc i'r America; pa fodd bynag, nid oes neb wedi ei weled er pan fu yn y dref ddydd íau diweddaf, ond nis gwn pa fodd y dysgwylia y fatlì adyn rwydd-deb i groesi llathen o dir na dwfr; yr wyf yn meddwl y buasai arnaf ofn i'r llestr suddo i'r dyfnfor cyn myned o olwg tir yr Iwerddon. " Esgusodweh ni os gwelwch yn dda," meddai Siôn Jones, gan droi ataf a gwneyd ei foes, " am dori ar hanes Emma.Wynne, mae Ellin wedi fy nyrysu ar ei dyfodiad i tnewn, rhaid i'r merched a'rgwragedd gael rhyddid i ddweyd yr hyn fydd ar eu meddwl, pwy bynag fydd yn siarad; ond gadewais Emma pan yn arfer dyfod i'r ysgol oedd yn cael ei chadw yn y Capel Ucha' gân yr hen Gruífydd Parry, pan oedd yn nghylch deg neu ddeuddeg °ed; gallwn feddwl, os wyf yn cofio yn iawn, iddi fod yn cerdded ato i'r ysgol am ddwy neu dair blynedd, efallai ych- waneg nahyny. Dywedid ei bod yn un ragorol am ddysgu, clywais hi lawer canol dydd yn yr hen gegin yna yn darllen fel person, ac ystyrid hi yn un o'r rhai blaenaf yn yr ysgol cyn yr amser yr ymadawodd. Buasai yn syndod i chwi feddwl mor amcanus ydoedd i siarad Saesonaeg yn yr amser boreuol hwnw; byddai rhai yn dyfod i'n tŷ yn esgusgalwam ddiod, ondeuhamcanoedd cael clywed Emma bach y Coed poeth yn siarad Saesonaeg, ac yr oedd yr.hen Gruflỳdd Parry (coffa da am dano,) yn meddwl nad oedd ail iddi o Gaergybi i Gaerdydd, ei chwedl yntau. Pa fodd bynag, gan fod Ann Wynne yn meddwl gwneyd ar un forwyn pan gyrhaeddai Émma dair neu bedair ar ddeg oed, gorfu iddi felly adael ei hysgol y pryd hwnw gyda'r addewid y cawsai hanner blwyddyn arall pan ddeuai i flynyddau hynach. Fel hyn y gadawodd yr ysgol, ac yr aeth adref i gynnorthwyo ei mam. î drin llaeth ac ymenyn, a phethau anghenrheidiol ereill oedd yn gaìw am sylwmewn amaethdŷo fath y Coed poeth. Ar ol iddi ymadael o'r ysgol, byddai yn dyfod i'r Bont i roddi tro bron bob wyth- nos, ac yn ein tŷ ni y byddai yn galw gyntaf bron bob amser, a byddai Ellin a minnau, a'r plant, yn hynod hoff o'i gweled. Yr oedd yn prifio ~y pryd hwnw yn rhyfeddol gyflym, a sylwai llawer ei bod yn y fath oedran tyner yn ymddangos bron yn ddynes. Yr oedd ei mam yn cymmeryd llawer o ofal am iddi wisgo yn syml, ond eto yr oedd amryw yn awgrymu ei bod yn ymddang- os lawn digon awyddus i brydferthu ei pherson, ac efallai yn treulio gormod o'i hamser mewn ofer-rodiauna ac ymwel- iadau dianghenrhaid, ond gan nad oedd ond plentyn, yr oedd hyny efallai yn fwy esgusodol ynddi. Yr oedd yn fedd- iannol ar ryw elfenau a'i gwnai yn anwyl iawn gan bawb o'i chydnabod ; ei hymddangosiad prydferth, ei hymddy- ddanion synhwyrol, ei thymher garedig, a'i serchogrwydd didor tuag at bob gradd a sefyllfa a ennillentiddi air da a chj'in- meradwyaeth wresog cylch lled ëang o gyfeillion a cheraint. Bu gartref felly 31