Skip to main content

Y GEEAL. HYDREF,1857. •■*£_ "^fe ffEMMA WYNNE/' NEU Y WY.RYF DWYLLEDÉL (Cystadleuol yn Llàngernyw, 1856.) * AT OLYGYDD Y GEEAL. Fy anwyl Syr,— Cyfansoddwyd " Emma Wynne" ar un o destynau cystadleuol Eisteddfod Llan- gernyw, yn haf y flwyddyn 1856. Oblegyd rhyw am- gylchiadau nad yw yn anghenrheidiol eu crybwyll, yr oedd ddiwrnod neu ddau yn rhy ddiweddar i gael ei derbyn i'r gystadleuaeth, felly nid oes gan yr awdwr unrhyw wybodaeth beth fuasai ei thyng- ed, pe cawsai ei derbyn i glorian beirniadaeth Caledfryn. Goddefer i mî grybwyll mai dyma y cynnyg cyntaf a wnaethum erioed ar y fath hwn o gyfansodd;.adau, ac nid yw yn annhebyg nad hwn yw yr olaf, gan nad yw cylch fy narlleniad yn rhyw ëang iawn yn y linell ffug-draethol o lênyddiaeth y dyddiau presennol. Gan fawr ddymuno eich Uwyddiant i wneyd y Greal yn drosglwyddai difyrwch, addysg, a gwybodaeth, i'ch eyd-oeswyr, y gorphwys, syr, yr eiddoch heb dwyll, Bethel. T. B. m,(Gwynedj$0rdd). Galarus yw gweled gwlad uchel- freintiog fel tywysogaeth Cymru wedi ei gwneyd yn sathrfa gan ddrygau mor benuchel, a chan arferion mor wrthryw i ledneisrwydd a gwylder, a'r holl rin- weddau a allent goethi ac addurno teimladau dynoliaeth wareiddiedig. Mae sefyllfaein bròydd hoff yn hynod fant- eisiol ar lawer o olygiadau, i ragori yn ngwrteithiad a chynnydd yr ansoddau byny a osodent arnom fri ac anrhydedd cenedlaethol. Gallwn ystyried hinsawdd ein gwlad yn dyner a thymherus: nid ydym yn cael ein trallodi gan y gwres gordanbaid, na chan yr oerni annyodd- efol. Mae golygfeydd ein gwlad yn swynol a mawreddog tu hwnt i ddysgrif- iad ; cawn mewn ambell ardal bob am- rywiaeth dichonadwy o olygfeydd, yn cynnwys y ddôl wastadlefn, y goedwig werddlas, y bryn uchelgaer, yr afon ddolenog, y graig henafol a serth, a'r mynydd ban yn cuddio ei goryn dan odreuon y cwmmwl tew ; ac O ! mor byfryd yw cael sefydlu ein golygon ar y^ fath gymhlethiad dedwydd o'r syml a'r ardüunol. Yn Nghymru y ceir " awyr bur hwyr a bore," i iachâu y glwyfus fron, ac i liniaru gorthrynider plant gofidiau : ymdaena y chwaon balmaidd dros lenyrch swynol ein tyw- ysogaeth wen, gan wasgar aroglau pêr, a llenwi pob cwmwl â defnydd mawl- gerddi i Lywydd haelionus aiiian. Ond anrbydedd uchaf ein gwlad hawddgar yw amjeddei rhagorfreintiau crefyddol; wae ei haddoldai yn Uiosog, éi lieiblau yn cael eu darllen yn mhob annedd, «î hysgolion Sabbathol yn fìodeuog, a'i gweinidogion yn deilwng » barch diffü- ant ar gyfrif eu hymdrechion difiino yn mhlaid ffydd yr efengyl. Er hyn oll, nid yw troseddau mor anaml, nid yw moesau mor bur, ac nid yw crefydd mor llwyddiannus ag y dylai, ac y gallai fod. Er pereiddied awelon Gwalia, cymmysg- wyd hwy lawer gwaith â rhegfeydd a chableddau ei meibion; er pured ei ffrydiau dyfroedd, defnyddiwyd a defn- yddir hwynt eto i ychwanegu a mwyhau trueni y trigolion; ac er taweled a gwerthfawroced y nos, o dan ei haden bruddaidd hi y cymmerodd y " Twyllwr hudawl " fíintais lawer pryd i gyflawni ei anfadwaith ysgeler, trwy archolìi calon gwyryf yn rhy drwm i amser gymhwyso ati un feddyginiaeth. Yn y tudalenau canlynol yr ydym yn bwriadu arwain ein darllenydd i gael golwg ar ddygwyddiadau lled gyffrous a gymmer- asant le er's ychydig fiwyddi yn ol yn un o siroedd mwyaf gorllewinol Gogledd Cymru, y rhai a wnaetbant gryn argraff ar y pryd ar gylch tra ëang o gymmyd- ogion a gwladwyr, ac mae yr adgof am danynt yn fyw yn bresennol arfeddyliau y rhan fwyaf o hen gydnabod Emma Wynne. Mae yr ardal yn yr hon y cymmerodd y dygwyddiou a gofnodwn le yn un led hynod ar rai golygiadau; ei sefyllfa sydd ar gwr dyffryu prydferth, trwy yr hwn yr arafymlithra afon o gryn faintioli i lawr tua'r môr, ac mae y dyffryn ar ei ddwy ochr yn cael ei am- ddiffyn gan ddwy res neu gadwyn o fynyddau tra uchel, ar y rhai y pawr yn y tymhor haf ddíadeìloedd gwastadgnaif er elw nid bychan i'w meddiannwyr; ac mae rhai rhauau o'u godreuon yn cael eu gorchuddio gan y llwyni tewfrig, lle yr arllwysir ar brydiau y fath beroriaeth fwyn gan y corau asgeîlog nes byddwn braidd yn ynigolli mewn teindöd lles- meiriol a pherlewygol. Yn un cwr oTr dyffryn prydferth crybwylledig, y saif tref henaful D------, yn üechu mewn dystawrwydd oesol, heb ond ambell ^gerbyd yn y tymhor haf yn tori ar dawelwch ac undonaeth bywyd ei thrigolion. Mae y dref grybwylledigyn ganolbwynt nifer lled liosog o bentrefi ac ardaloedd, rhai yn mheilach öddi 28