Skip to main content

Y GEEAL. MEDI, 1857. GEMAU DUWINYDDOL.-ANFFYDDIAETH. LLYTHYR IV. 1. Eit llwyred y mae llawer wedi ym- werthu i bechod ac aiinghrefyddolder, prin y gellir dywedyd fod un erioed wedi marwyn Atheist trwyadl.—Dr. Johnson. 2. Yr Atheist yw yr ymhonwr gwacaf i reswm o un dyn yn y byd—y mae holl ryin Atheistiaeth yn gynnwysedig mewn gwrthwynebu rheswm eyfFredinol dyn- olryw. 3. Y mae yr Atheist, yr hwn sydd yn gwadu Duw a sefyllfa ddyfodol, nid yn unig yn diraddio y lehofah, ond hefyd yn darostwng dyn trwy ei wneuthur yn gyffelyb i'r anifail a ddifethir. 4. Y mae yr Atheist wedi myned radd yn mhellach na'r diafol, oblegyd y mae y cythreuliaid yn credu ac yn crynu. 5. Nid yw Atheistiaeth yn gyfundrefn o syniadau neu dybiau pendant. Ni fu erioed, ac nid yw yn awr, yn ddim amgen nac ymosodiad dichellgar yn erbyn y grediniaeth o fod Duw, er ei bod yn fynych yn defnyddio geiriau yscrrythyrol i guddio ei noethni. — Y Gwyddon- iadur. 6. Y mae haeriadau afresymol gwa- hanoì ddosbarthiadau o Aiift'yddwyr yn ddangosiad amlwg o ddirywiad calon í'yn, a pha mor isel y gellir darostwng rheswm a synwyr dyn o dan lywodraeth balchder a líèlyniaeth yn erbyn Duw ! 7. Y mae Antfyddiaeth yn cymmeryd arni, ddjrchafu dyn, tra mewn gwirion- fdd yn ei ddarostwng yn gydradd â'r «bwydyn gwaelaf. Y maè Cristionosr- aeth, er ei bod yn amlygu trueni dyn fel pechadur, yn dangos dyn yn greadur pwysig ac urddasol. Yn ol ei golygiad hi y mae dyn wedi ei lunio ar ddelw Dnw, wedi ei hrynu â gwaed Crist, yn oernl i'r Ysbryd Glân, ac yn greadur anfarwol. Y fath olygfa wahanol a ddyry Cristionogaeth, rhagor Atheistineth, ar urddasoldeb dyn ! 8. Prif ffynnonell AnfTyddiaeth yn ™hob oes yw gelyniaeth calon dyn at uduw. 9. Dywed Syr Isaac Newton fod Ar,- "yddwyr yri dirmygu Cristionogaeth, ob'egyd na ddarfu iddynt ei chwilio, a'u bod yn gwrthod ei chwilio, oblegyd eu bod yn ei dirmygu. 10. Y dysgedig Dr. Halley, oedd o duedd Anff'yddaidd, ac weithiau yn cym- meryd ei hyfdra i wawdio yr Ysgrythyr- au. Ar un achlysur, fel hyn y dywedodd Syr Isaac Newton wrtho, " Dr. Halley, yr wyf yn wastad yn hoffi eich clywed yn siarad am seryddiaeth, neu ranau o wyddoniaeth, oblegyd y mae y rhai hyn yn bethau a ddarfu i chwi eu hastudio a'udeall; ond ni ddylech chwi siarad am Gristionogaeth, oblegyd ni ddarfu i chwi erioed ei hastudio. Yr wyf fi wedi gwneyd, ac yr wyf yn gwybod na wydd- och chwi ddim yn ei chylch." 11. Y mae yn ffaith sydd yn werth ei hystyried, fod yr holl gewri sydd wedi 'yfnddangos ar faes Anffyddiaeth, yn ol eu cyfaddefiad eu hunain, yn esgeuluso ëarllen gair Duw. Pa bryd y clybuwyd am neb a fyddai yn ddiwyd yn darllen yr Ysgrythyrau, yn cofleidio Anffydd- iaeth? Ffaith mor eglur a hyny yw fod ymlyniad diysgog wrth Gristionogaeth, yn ganlyniadanocheladwy oymchwiliad gofslus ar yr Ysgrythyrau santaidd.— Robert Hall. 12. Y mae Dr. Nelson, o Illinois, yn ei waith ar Anffyddiaeth, yn dywedyd ei fod ef am lawer o flynyddau wedt ymdrechu darbwyllo pob Auffyddiwr i ddarllen rhyw waith galluog ar wirion- edd Cristionogaefh, ac y mae yn mynegi na wyddai et' ond am ychydig iawn o engreifftiau o fethiant y inoddion hwn i'w llwyr argyhoeddi. 13. Nis gall Anffyddiaeth effeithiodim ar fodolaeth Duw, na chwaith ddiddymu rhwymedigaeth dyn iddo. Gall ddin- ystrio dedwyddwch y creadur, ond nis gall byth ysgwyd gorseddfaìnc y Cre- awdwr.— Dr. Collier. 14. Y mae gwrthddrych addoliad dyn yn wrthddrych ei efelychiad, i'r graddau y byddo dyn yn ymhyfrydu yn Nuw a'i wir addoli, i'r graddau hyny y mae efè yn ymdebygoli iddo ef. Ÿ mae y naül a'r lìall fel achos ac effaith. Gan fod y pagan yn addoli duw o ddyfais llygredí- 25