Skip to main content

Y GBEAL. MAI, 1857. GWEITHWYR CYMREIG YN EU PERTHYNAS A LLENYDDIAETH. PARHAD O TÜDAL. 79. Pen. III. Awgrymau cyfarwyddiadol a gocheliadol. Wedi dangos i'r gweithwyr yr anghen- rheidrwydd o ymestyn at wybodaeth, rhaid arwain e« meddyliau yn mhellach at y moddion mwyaf efFeithiol i'w chyr- haedd. Mewn trefn i sicrhau amcan mor deilwng, rhaid i ni gael cymdeithas- au, nen sefydliadau llênyddol, o gym- meriad cyhoeddus. Mae ychydig o rai felly eisioes yn y dywysogaeth, a llawer 0 honynt yn Lloegr. Ymddengys fod y Saeson yn mhell o flaen y Cymry gyda golwg ar nifer a natur eu sefydliadau llênyddol. Gan ein bod ni yn iselach na hwynt mewn dysgeidiaeth, ac yn wanach hefyd mewn aingylchiadau arianol; ífol- ineb fyddai i'r mwyafrif o'r gweithwyr geisio ymdebygu i law-weithwyr Seisnig (ar hyn o bryd) yn nghymmeriad uche!, a threuliau eu hadeiladau llênyddol. Rhaid i ni gymmeryd ein rheoli i raddau gan amgylchiadau, trwy ddechreu ar y ffbn isaf, mewn trefn i gyrhaedd pen uchaf yr ysgol. Er hyny, mae gan y Saeson rai sefydliadau, pa rai a wasan- aethant fel patrynau i feibion a merched Gotner. Mae ei fam wedi dysgu i'r Sais wybodaeth ag mae yn anghenrneidiol i'r Cymro lafurio llawer cyn dod yn gyfar- wydd â hi, sef yr iaith Saesneg. Nid ar unwaith y cyrhaeddodd sefydliadau Seisnig eu sefyllfaoedd pendefigaidd presennol, eithr yn raddol; mae yr ys- tafelloedd bychain yn mha rai yr ym- gyfarfyddai y Saeson, i'r perwyl o ddysgu eu gilydd i ddarllen ac ysgrifenu, wedi dod erbyn hyn yn golegau, o ba rai y troir allan wyddianwyr ac athron- wyr dysgedig. Bu yn "ddydd y pethau bychain arnynt hwy, fel ag y mae ar- nom ninnau yn bresennol. Nis gallwn ymlwybro vn llwyddiannus heb gredu yn benderfynol fod cael cymdeithasau Henyddol da yn Nghymru yn ddichon- aoMw. Rhaid bod yn hyderus ac yn «yddiog. Gallu i weithio, penderfyniad 1 weithredu, rheol neu drefn i ymlwybro, mewn cyssyUtiadagawynerfrfi ddysgwyl am ffrwyth ein llafur, yw hanfodion llwyddiant. Nid eisieu llawer o sefydl- iadau gwahanol ac amrywiol sydd ar- nom, ond ychydig o rai pwrpasol ac athronyddol eu cyfansoddiad ; ychydig mewn cymhariaeth yw egwyddorion sylfaenol gwyddiant a chelíyddyd; ar- wydd o berffeithrwydd y w bod yn syml, yn ychydig, ac yn effeithiol. üilys yw fod genym sefydliadau llênyddol da yn Nghymru a Lloegr, pa rai sydd yn ateb o ran natur a chyfansoddiad i anghenion y Cymry a'r Saeson; o ganlyniad, nid eisieu lìunio rhai newyddion sydd, ond helaethu terfynau y rhai sydd genym yn barod, a rhoddi iddynt ragor o gefnog- aeth, a gwneyd mwy o ddefn ydd o honynt yn y manau y maent. Gan fod rhai sefydliadau yn Lloegr ag nad yw y Gomeriaid, yn gyffredin, yn gwybod llawer am danynt, bydd yn anghen- rheidiol gwneyd cyfeiriadau achlysurol atynt yn y llineìlau canlynol. Ein braint, yngystala'ndyledswydd,ywdysguereill, a chymmeryd ein dysgu gan ereill. Nid yr un fath sefydliadau llênyddol a wnant y tro i bawb yn mhob lle ; o baherwydd, dylid eu cyfaddasu i sefyllfaoedd neill- duol personau ac ardaloedd. Yr ydys wedi dweyd yn barod fod pump o bob cant o'r Cymry yn analluog i ddarllen ; dyma'r dosbarth blaenaf y mae a fynom âg ef. Diau y byddai yn fuddiol iawn i wahanol deuluoedd llaw-weithyddol i ymffurfio yn gymdeithasau bychain i'r dyben o ddysgu eu gilydd i ddarllen, ysgrifenu, a rhifo. Gellid cynnal y gymdeithas mewn tý anedd ëang, neu ar gylch yn nhai yr ardal; neu, ynte, mewn vestry, ysgoldy, ysgubor, neu ryw adeilad cyíleus arall. Mewn lleoedd felly y dechreuodd rhai o gymdeithasau llên- yddol enwocaf Lloegr. Na feddylier ei bod yn annichonadwy i weithwyr ffurfio cymdeithasau, a'i bod yn anghenrheidiol cael gwasanaeth dysgedigion ac athron- wyr i'w llunio a'u cynnal; oblegyd gweithwyr isel eu hamgylchiadau sydd wedi ffurfio llawer o sefydliadau enwoc- 13