Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. RHAGFYR, 1856. Y DDWY OLYGFA FAWR. Ygyntaf, " Duw a ymddangosodd yn y cnawd." Hon ydoedd prif gynnyrch- ion arfaeth foreu; ffrydiau grisìalaidd o ífynnonau annechreuol gariad, o grand exhibition mercy of God. Yn hon y gwel- wyd Duw a phechadur yn ysgwyd llaw mewn heddwch gyntaf; yn ymddyddan wyneh y'n wyneb, cydrodio, cydaddoli, a chydgyfrinachu yn yr un society. Yn hon y gwelwyd Duw a phechadur yn gwisgo yr un natur; yr un fFurf a phech- adur, ac o hlaid y pechadur. "Duwa ymddangosodd yn y cnawd." Ymddangosodd y tro cyntaf yn ííinach dynoliaeth, ar stage fawr y prynedigaeth. Ymddangosodd mewn cyfnod pwysig, i ddybenion pwysig. Teithiodd drwy dy- wydd garw, mewn hinsawdd afiachus; dringodd y rhíẅiau serth, amynyddoedd cribog; ymladdodd frwydrau poethion; ymdrechodd mor galed â'r byd, a'r cnawd, ac â chythreuliaid, nes ydoedd maes yr ymladdfa yn crynu dan ei draed, aç edrychodd fel Fieíd Marshaü yn llyg- aid angeu; i'e, angeu y groes. Ymwth- i»dd drwy farwolaeth i fywyd; dygodd allan farn i fuddygoíiaeth, ac fe'i gwelir heddyw yn fwy na choncwerwr, a daear a'i thrigoíion yn ysbail concwest y groes. * Duw a ymddc.ngosodd yn y cnawd.'' Y tro cjntáf, hefyd, y tynodd íesu y hen oesol oedd yn mantellu "dirgelwch duwioldeb," dirgelwch ac y bu holl oesau y ddaear yn ymbalfalu am dano, ac am- I>ejl un yn ei weled o bell ac yn llawen- ychu, ond erbyn heddyw, mae y "dir- plwch mawr"wedi ei amlygn,a miloedd lawer wedi cýfranogi o'i dirgelîon, ac yn bendithio Duw aín y fraint. Êu llawer oddadlu yn nghvích y lle, yr amser, a'r '•wyth, ond yn "'«dd'tddadl" Duw a ym- ddangosodd ydyẃ hi yn awr. Pan ymddangosodd Iesu y waith gyn- ta»i yr oedd cymmeriad y natur ddynol |r Jr.un scale a'r angylion syrthiedig. öyrthiodd angel a syrthiodd dyn, a'u cwymp a fu fawr. Cychwynodd y ddau yr un ffordd^, ond yn y disgyniad y mae gwahaniaeth. Disgynodd yr angel ar P'otform cyfiawnder, ac yno y gadawyd et; disgynodd dyn ar platform trugar- êddj a thyna'r achos na buasai y ddau yn yr un carchar, yn dyoddef yr un gosbedigaeth, ain yr un cyfnod diddiw- edd; ond nid felly y itiae, ac nìd felly y bydd, " canys Duw a ymddangosodd yn y cnawd." Yn ei yrnddangosiad blaenaf, cafodd ddyn a'i gymmeriad yn isel, ei gyflwr yn anaele; picellau tanllyd y fall wedi ei archolli, yn gorwedd ar wyneb y maes, heb un cyfaill i gydymdeimlo, na llygaid i dosturio wrth yr olygfa; pawb wedi ei ad- aeliymdrybaedduynei waed,anosdduo anobaith â'i chymylau tewion yn gorch- uddip pob llewyrch o pleuni yn awyr- gylch trugaredd, a holl sêr yr addewid- ion tan gloion cedyrn yn ystafelloedd y tywyllwch mawr. O dear! y dyn! y dyn a welwyd yn Eden yn brìme-piece y Drindod, ac yn dal yn llygaid yr Holl- wybodol ar ddydd ei brawf heb gael dim bai ynddo, yn awr wedi myned yn nyth i bob aderyn aflan; adar y tywylìwch wedi nythu, dodwy, a deor yn mhob ys- tafell o'i mewn ; wedi myned yn drigfan i'r ysbrydion drwg. Ond gwnaeth lesu, â'i ymddangosiad, i'r ysbrydion drwg newid eu lodgings ; ysgrifenodd order of quit o'r llys uwchaf, a gorchymynodd i saith mil o honynt i ymadael ar fynyd o rybydd. Hawliodd ufydd-dod diatreg, fel landlord of right, y ddaear a'i thri- golion, gan ddechreu yn Gadarenia. " Duw a ymddangosodd yn y cnawd." I'an ymddangosodd lesu y waith gyn- taf, cafodd ddyn yn wrthryfelwr yn erbyn yr orsedd uwchaf, yn rebel yn y llywodr- aeth benaf, ac yn droseddwr y cyfreith- iau puraf. Ond newidiodd Iesu ei gym- meriad, gwnaeth y gwrthryfelwr creu- lonaf yn bleidiwr gwresog i'r orsedd; y rebel penaf yn aniddiffynwr didwyll i hawiiau y llywodraeth, a'r hen drosedd- wr du yn ddeiliad ufydd i'r cyfreithiau. Cafodd gymmeriad newydd, auian new- ydd, enw newydd, a gwaith newydd; pob peth yn newydd, "Canys Duw a ym- ddangosodd yn y cnawd." Fe aeth Iesu tu mewn i ddyn, dechreu- odd yn y prif le, wrth waelod y ruins erchyll, adgyweiriodd bob room yn yr adail adfeiliedig, ac a'i haddurnodd âg 34