Skip to main content

Y GEEAL. HYDREF, 1856. MARTIN LUTHER A'I AMSERAU. LLYTHYR IV. Mae y flwyddyn ddygwyddlawn 1505, yn dgor ei mhynwes i ddadguddio ei dirgelion hithau i'r efrydydd ieuanc a llwyddiannus. Blwyddyn bwysig oedd hon yn hanes foesol Luther. Mae y flwyddyn hon yn rhwyddhau ei ffbrdd i fwriad addfed ei galon i dalu ytnweliad â phreswylfod dedwydd ei riaint, mwyn- hau eu cymdeithas, ac ymddifyru yn sirioldeb ei hen gydnabod, ar ardaloedd dymunol Mansfeid, i gael ei ddwyn i weithrediad. Dichon ei fod yn meddwl agor ei fynwes i'w dad, a'i deimlo o ber- thynas i'r bwriad dirgeledig ag oedd yn dechreu cael ei ffurfio ynddo, a chael ei gydsyniad i ymgymmeryd â galwedig- aeth arall, ag oedd yn fwy cydweddol âg ansawdd ei feddwlyn bresennol. Modd bynag, rhagwelai y rhwystrau ag oedd- ynt ar ei ffbrdd i gael cydsyniad ei dad yn sêl ar y bwriad. Yr oedd bywyd annuwiol y rhan liosocaf o'r mynachod, yr ychydig gyfrifiad oedd i'r gwŷr eg- lwysig yn ngolwg y byd, a llawer o hon- ynt heb ond ychydig ganddynt tuag at eu cynnaliaeth, yn nghyda'r aberthau niawrion a wnaethai y tad i gynnal ei fab yn y brif-ysgol; yr hwn a'i gwelsai eisioes yn is-athraw mewn ysgol dra chlodfawr, yn debyg o fod yn rhwystr ìddo ymfoddloni i ollwng ei afael o'r gobeithion o weled ei fab, un dydd, yn eistedd mewn cyfrifoldeb ac anrhydedd ar y fainc gyfreithiol. Mae y llen heb ei chodi oddiar y modd y treuliodd Lu- ther ei ymweliad â Mansfeld; eithr de- allir iddo adael trigfan ei rieni heb fyn- egu eifwriad dirgelaidd i'w dad. Cych- wynoddi Erfurt, i gymmeryd ei eisteddle ar feinciau y brif-ysgol. Mae ei fynwes yn chwareuía myrdd o deimladau gwrth- darawol; y naill yn rhedeg i'r llall, ac yn ymddryllio yn eu gilydd, gan ym- Rynddeiriogi, nes tafiu ei feddwl i'r ter- »ysg a'r cynhyrfiant mwyaf. Pa betb a all fod'? Dichon fod rhyw adduned yn ntrgelwch y daran " yn blaid iddo, yn erbyn 11« o elynion a ymddangosent yn drech na hi. Heb fod yn mhell o fcviurt, daliwyd ef gan ystorom ofnadwy. I Y goruchion a ddeffroid megys o gwsg | annaturiol; chwibanai y corwynt heibio, hyssiai y mellt gwibiog o'i anigylch, a gorweddai y daran i ruo yn ei wyneb. Syrthjai yntau ar y ddaear, ac ymblygai yn nghyfyngder a dychryn marwolaeth, I i wrando ar lais ag oedd yn rhy nerthol | i aliu rnwyach ei wrthsefyll. Marwol- I aeth, barn, a thragywyddoldeb, a'i am- I gylchynai; a'r addunedau gynt a ddych- j welent i'w ystyriaeth, gyda nerth adnew- ; yddol. Ac os agorid drws o ddiangfa I iddo yn awr, pendertynai ymroddi yn I hollol ac am byth i Dduw a'i ogoniant. ! Gofynai yn ddifrifol iddo ei hun, Pabeth j a wnai i ryngu bodd y Duw yr arswydai ; gymmaint o'i flaen. Rhaid bod yn sant- : aidd; a sychedu cymmaint am burdeb, i ao y gwnaethai am wybodaeth. Ni allai ! gael hyn yn y brif-ysgol; rhaid cael rhyw ! ysgol arall i wneyd dyn halogedig yn I santaidd. Ond yn mha le y ceir hi? I Clywsai yn fynych fod y gallu hwnw yn ; y mynachlogydd; y gallu i drawsft'urfio ; pechadur, ac i wneyd dyn yn berftaith ! i Nid oedd dim drws agored iddo i ft'afr I Duw yn ymddangos, ond trwy gymmer- i yd arno urdd fynachaidd, a dilyn bywyd mynach. Penderfynodd fyned i fynach- log St. Awstin, fel y gallai, trwy hyny, ymwrthod â rhialtwch y byd, ymroddi i Ddtiw, a sicrhau ei fywyd tragywyddol! Tawelodd yr ystorom, dystawodd y daran, a galwyd y mellt i'w llochesau, a chyrhaeddodd yntau Erfurt, gyda'r pen- derfyniad ansigladwy o adael y brif-ysgol ac ymneillduo i'r .fynachlog; yr hyn a wnaeth er holl ymdrech ei gyfeillion i'w ddarbwyllo i ymwrthod â'r penderfyn- iad dyeithr hwn. Gadawodd y brif-ya- gol; gadawodd bob peth ar ol ond dau lyfr—Virgil a Plautus, y rhai a gym- merodd gydag ef i'r fynachlog. Yr oedd y rhai hyn yn gynnrychioliant o feddwi Luther. Un yn Arwrgerdd, a'r llall yn Chwardd-draeth. Ynddo ef y caed Ar- wriaeth gyfan; ac yr oedd ei holl fywyd yn fath o Arwrgerdd ardderchog ac ar- uchel; ac efe yn natnriol yn tueddu at ddigrifwch, Uawenydd, ac hynawsedd, a gymhlethai fwy nac un llinell gyfeill- aidd, â seilwaith difrifol a mawreddog ei fywyd. Gyda'r ddau lyfr hyn cyfeiriai 30